Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael blaenswm cyllidebu Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallwch gael benthyciad fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol os ydych chi angen talu costau penodol - ‘blaenswm cyllidebu’ yw’r enw ar hyn.

Os ydych chi’n cael blaenswm cyllidebu, fel arfer byddwch yn cael taliadau Credyd Cynhwysol gostyngol hyd nes y byddwch wedi talu’r benthyciad yn ôl. Fel arfer bydd hyn dros 12 mis.

Gallwch wneud cais am flaenswm cyllidebu i dalu am bethau fel:

  • eitem unigol – e.e. prynu oergell newydd i gymryd lle hen un sydd wedi torri
  • costau annisgwyl – e.e. bil annisgwyl
  • costau cysylltiedig â gwaith – e.e. prynu gwisg neu gelfi
  • atgyweiriadau yn eich cartref
  • costau teithio
  • costau mamolaeth
  • costau angladd
  • costau symud neu flaendal rhent
  • eitemau hollbwysig, fel dillad

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond heb gael eich taliad cyntaf eto, mae angen i chi gael taliad ymlaen llaw yn hytrach na blaendal cyllidebu.

Pryd allwch chi gael blaenswm cyllidebu

Os nad ydych chi angen yr arian ar gyfer costau cysylltiedig â gwaith, fel tocynnau trên i gyfweliadau swydd, bydd angen i chi fod wedi hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn am 6 mis neu fwy:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n dibynnu ar brawf modd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n dibynnu ar brawf modd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn

Bydd angen i chi hefyd fod wedi ennill llai na £2,600 yn y 6 mis cyn eich cais. £3,600 yw’r ffigur os ydych chi’n gwpwl.

Ni allwch gael blaenswm cyllidebu os ydych chi neu’ch partner yn dal i dalu blaenswm cyllidebu blaenorol.

Faint allwch chi ei fenthyg

Y blaenswm cyllidebu lleiaf y gallwch ei gael yw £100. Mae’r uchafswm yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch fenthyg hyd at:

  • £348 os ydych chi’n sengl a heb blant
  • £464 os ydych chi mewn cwpwl heb blant
  • £812 os oes gennych chi blant

Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf

Mae cyfalaf yn cynnwys unrhyw gynilion, a rhai mathau o eiddo.

Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Gwaith yn gostwng eich blaenswm cyllidebu o’r swm dros ben.

Er enghraifft, os oes gennych chi £1,250 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Gwaith yn gostwng eich blaenswm cyllidebu o £250.

Gwneud cais am flaenswm cyllidebu

Bydd angen i chi wneud cais am flaenswm cyllidebu dros y ffôn. I benderfynu a ydych chi’n gymwys, a faint y gallwch chi ei gael, bydd cynghorwr yn edrych ar:

  • allwch chi fforddio talu’r benthyciad yn ôl – byddant yn gweld a oes gennych chi unrhyw ddyledion a faint o ddyled sydd gennych chi i helpu i gyfrifo hyn
  • faint sydd gennych chi mewn cynilion

Fel arfer cewch y penderfyniad ar yr un diwrnod.

Mae’r rhif sydd angen i chi ei ffonio yn dibynnu ar sut rydych chi’n rheoli eich cais Credyd Cynhwysol fel arfer.

Os ydych chi’n rheoli eich cais Credyd Cynhwysol dros y ffôn

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw) 
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.

Os oes gennych chi gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn) 
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.

Os gwrthodir blaenswm cyllidebu i chi

Ni allwch apelio os gwrthodir eich cais, ond gallwch ofyn am gael y penderfyniad wedi ei ailystyried. Bydd yn helpu os gallwch roi tystiolaeth newydd neu ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid ers eich cais cyntaf.

Os ydych chi angen arian, edrychwch i weld pa gymorth ychwanegol y gallwch ei gael.

Gallwch ddarllen mwy am gael cymorth gyda'ch costau byw, neu gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi mewn dyled neu ôl-ddyledion rhent

Mae rhai camau y gallwch eu cymryd i'ch helpu i ostwng eich dyled os ydych chi newydd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor ar ddelio â dyled.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)