Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Apelio yn erbyn penderfyniad Credyd Cynhwysol mewn tribiwnlys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi eisoes wedi gofyn am ailystyriaeth orfodol ac nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi newid eu penderfyniad, gallwch apelio i dribiwnlys.

Bydd y tribiwnlys yn edrych ar eich rhesymau a gwneud penderfyniad annibynnol. Mae’n cael ei oruchwylio gan farnwr ac mae ar wahân i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Penderfynu herio penderfyniad

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw edrych ar eich ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’. Llythyr yw hwn y byddwch yn ei gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau - bydd yn cynnwys y rheswm pam na wnaethant newid eu penderfyniad.

Gallwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych chi:

  • wedi derbyn y swm anghywir fel taliad
  • os yw’ch Credyd Cynhwysol wedi’i wrthod pan ddylech chi fod wedi’i gael
  • os na ddylech fod wedi cael eich cosbi - er enghraifft, os ydych chi wedi methu cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith oherwydd eich bod yn sâl

Mae gennych chi fis o’r dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol i wneud cais i dribiwnlys.

Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau

Dylech chi allu apelio o hyd os oes llai na 3 mis ers dyddiad eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol.
Bydd i chi gael rheswm da am hyr oedi, er enghraifft:

  • chawsoch chi ddim o'r hysbysiad ailystyriaeth orofol
  • fe bostioch chi'r apêl mewn da bryd ond aeth ar goll yn y post
  • roedd rhywun yn eich teulu yn ddifrifol wael
  • fe gawsoch chi'r ffeithiau anghywir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • dim ond nawr rydych chi wedi gallu cael cyngor i'ch helpu i apelio

Bydd y tribiwnlys yn rhoi mwy o amser i chi apelio os bydd o'r farn bod gennych chi reswm da. Nid oes gwahaniaeth os nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno â'ch rheswm.

Os yw’ch apêl yn cael ei chanslo

Os yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (HMCTS) yn gofyn i chi wneud rhywbeth fel anfon dogfen atynt a'ch bod chi'n cymryd gormod o amser, gallent ganslo'ch apêl. 'Struck out' yw enw arall ar hyn yn Saesneg.

Os cafodd eich apêl ei chanslo am unrhyw reswm arall, dylech ysgrifennu i'r trinbiwnlys serch hynny ac egluro pam na ddylai'ch apêl fod wedi cael ei chanslo.

Byddwch yn cael llythyr rhybudd yn gyntaf - bydd yn dweud wrthych beth i'w wneud i atal eich apêl rhag cael ei chanslo. Os na fyddwch chi'n dilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr rhybudd, byddwch yn cael llythyr arall wedyn yn egluro pam i'ch apêl gael ei chanslo.

Bydd angen i chi ysgrifennu i HMCTS i ofyn iddynt ailagor eich apêl. Bydd angen i chi gynnwys:

  • eich enw llawn a'ch cyfeiriad
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y penderfyniad rydych chi'n apelio yn ei erbyn
  • y dyddiad i'ch apêl gael ei chanslo
  • pam i chi fethu â gwneud rhywbeth i HMCTS ofyn i chi ei wneud, os mai dyma'r rheswm dros ganslo'ch apêl
  • pam rydych chi o'r farn y dylai'ch apêl gael ei hystyried eto

Anfonwch y llythyr hwn i'r un cyfeiriad i chi anfon eich ffurflen apelio iddo.

Dylech ysgrifennu dim mwy nag 1 mis ar ôl i HMCTS ysgrifennu atoch i ddweud wrthych bod eich apêl wedi ei chanslo. Os ydych chi angen mwy o amser, eglurwch yn eich llythyr pam i chi fethu ag ymateb o fewn 1 mis.

Os yw'r tribiwnlys yn cytuno, byddant yn ailagor eich apêl.

If the tribunal agree they’ll reopen your appeal.

Os nad yw'r tribiwnlys yn cytuno i ailagor eich apêl, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i weld a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei wneud.

Llenwi ffurflen apelio

Bydd angen i chi lenwi ffurflen SSCS1 ar GOV.UK i ofyn am apêl. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein cyn ei hargraffu, neu argraffu ffurflen wag a’i llenwi â llaw. Mae’r ffurflen yn dweud wrthych beth i’w anfon gyda hi. Os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf. Gall cynghorydd eich helpu i lenwi’r ffurflen.

Mae’r ffurflen yn gofyn am eich:

  • enw a manylion cyswllt
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhesymau am apelio

Mae’n bwysig bod yn benodol pan fyddwch chi’n esbonio pam rydych chi’n apelio. Rhestrwch y rhesymau yn eich llythyr penderfyniad a’ch hysbysiad ailystyriaeth orfodol, a pham rydych chi’n anghytuno. Dylech gyfeirio hefyd at unrhyw dystiolaeth rydych chi wedi’i hanfon gyda’r hysbysiad ailystyriaeth orfodol.

Os ydych chi wedi cael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arall, dylech ysgrifennu hyn ar eich ffurflen hefyd.

Dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau drosglwyddo unrhyw dystiolaeth rydych chi wedi’i rhoi iddynt i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS).

Anfon eich ffurflen apelio

Mae angen i chi lenwi a llofnodi eich ffurflen a’i hanfon i HMCTS. Bydd angen i chi anfon eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol hefyd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth rydych chi’n ei defnyddio.

HMCTS Appeals Centre
PO Box 1203
Bradford
BD1 9WP

Gofynnwch i’r Swyddfa Bost am brawf postio - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch chi anfon eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Gallwch ei hanfon trwy’r Post Brenhinol gyda Llofnod hefyd, a chadw’r dderbynneb, ond bydd angen i chi dalu am hyn.

Bydd HMCTS yn gwirio’r ffurflen ac yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am eu hymateb i’ch apêl o fewn 28 diwrnod. Unwaith y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymateb, bydd HMCTS yn anfon y canlynol atoch:

  • copi o ymateb yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • manylion beth sy’n digwydd nesaf
  • manylion pryd a ble fydd y gwrandawiad

Mynd i wrandawiad yr apêl

Mae cael gwybod beth i’w ddisgwyl yn y gwrandawiad ar GOV.UK yn syniad da. Mae’n well mynd i’r gwrandawiad bob amser os gallwch chi - mae’n gyfle i chi gyflwyno’ch achos ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y barnwr.

Gallwch hawlio costau yn ôl i dalu am gost teithio i’r gwrandawiad, neu yn lle tâl y gallech ei golli.

Gallwch fynd â rhywun arall gyda chi i’r gwrandawiad, er enghraifft:

Os na fyddwch chi’n mynd i’r gwrandawiad

Gallwch ofyn i’r gwrandawiad ddigwydd heboch chi ar y ffurflen apelio. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno dadleuon o blaid eich achos nac ateb cwestiynau gan y barnwr, felly byddwch chi’n llai tebygol o lwyddo.

Cael penderfyniad

Fel rheol, cewch ateb ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os bydd angen mwy o amser ar y barnwr i benderfynu, neu os nad ydych chi yn y gwrandawiad, cewch benderfyniad y tribiwnlys drwy’r post.

Os nad yn cytuno i’ch apêl, bydd gofyn i chi wneud cais i dribiwnlys arall – yr uwch dribiwnlys yw hwn. Cewch fanylion sut i apelio gyda’ch llythyr penderfyniad.

Gallwch gael help gyda’r apêl hefyd drwy gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf cyn mynd ati i gyflwyno apêl.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)