Herio penderfyniad Credyd Cynhwysol - ailystyriaeth orfodol
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad ynghylch eich hawliad Credyd Cynhwysol, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ei newid. Bydd angen i chi ofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’ - mae hyn yn golygu y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar y penderfyniad eto.
Mae angen i chi gysylltu â nhw o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad.
Gofyn am ailystyriaeth orfodol
Wrth ofyn am ailystyriaeth orfodol bydd angen i chi gynnwys:
- dyddiad y penderfyniad
- y rhesymau penodol pam eich bod yn anghytuno
- eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif Yswiriant Gwladol
Mae yna bedair ffordd y gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol. Gallwch chi:
- ysgrifennu neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein, os oes gennych un
- llenwi ffurflen gais ailystyriaeth orfodol CRMR1 ar GOV.UK - os ydych chi’n ei hargraffu, anfonwch hi i’r cyfeiriad ar frig eich llythyr penderfyniad
- ysgrifennu llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau - anfonwch ef i’r cyfeiriad ar y llythyr penderfyniad
- ffonio’r rhif ar y llythyr penderfyniad os ydych chi’n agos at y dyddiad cau - dylech ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl i chi ffonio i ddweud pam rydych chi am gael ailystyriaeth orfodol
Os ydych chi'n ysgrifennu llythyr
Edrychwch ar eich llythyr penderfyniad i weld i ba gyfeiriad y mae angen i chi anfon eich llythyr. Bydd hwn yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Os na allwch chi ddod o hyd i’ch llythyr penderfyniad, dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gael y cyfeiriad. Dylech:
- ysgrifennu neges yn eich dyddiadur ar-lein
- ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfrif ar-lein
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.
Gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio am ddim - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd wnaethoch chi anfon eich llythyr.
Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau 1 mis
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o hyd, cyhyd â bod hynny o fewn 13 mis i’r penderfyniad.
Bydd angen i chi roi rheswm da pam na allech chi ofyn o fewn y terfyn amser o fis - er enghraifft oherwydd eich bod chi’n ddifrifol wael neu wedi gwahanu oddi wrth eich partner.
Mae angen i chi esbonio i’r Adran Gwaith a Phensiynau:
- pam eich bod wedi methu’r dyddiad cau
- pam fod y penderfyniad yn anghywir
- pam ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n newid y penderfyniad
Gallwch gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau trwy’ch cyfrif ar-lein os oes gennych un. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, gallwch ffonio llinell gymorth y Credyd Cynhwysol. Cofiwch ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn syth wedyn i esbonio pam rydych am gael yr ailystyriaeth orfodol.
Llinell gymorth gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim.
Llinell gymorth gwasanaeth byw’r Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm
Mae galwadau i’r rhifau ffôn hyn am ddim.
Os nad ydych yn siŵr pa linell gymorth i’w ffonio, bydd angen i chi wirio a ydych mewn ardal gwasanaeth llawn neu fyw.
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthod eich cais am ailystyriaeth orfodol os yw’n hwyr.
Gallwch ddarllen mwy am ofyn am ailystyriaeth orfodol os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau.
Os ydych chi’n dal i anghytuno â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gallwch fynd â’ch her i dribiwnlys annibynnol os ydych chi’n dal i anghytuno â’r Adran Gwaith a Phensiynau neu os na fyddant yn gadael i chi wneud cais hwyr am ailystyriaeth orfodol.
Bydd y tribiwnlys yn edrych ar eich dadleuon ac yn gwneud penderfyniad. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan farnwr ac maen nhw ar wahân i’r adran Gwaith a Phensiynau.