Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei atal neu ei leihau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael yn newid, byddwch naill ai’n cael llythyr neu neges pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, gallwch gofrestru i gael hysbysiadau neges testun neu e-bost hefyd.

Gall eich Credyd Cynhwysol gael ei leihau:

Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol hefyd os oedd y Ganolfan Waith wedi talu gormod i chi’n flaenorol – gelwir hyn yn ‘ordaliad’.

Os oes gennych chi fathau penodol o ddyled, gall credydwr hefyd wneud cais i gael ei dalu o’ch taliad – gelwir hyn yn ‘ddidyniad trydydd parti’.

Os ydych chi wedi cael gordaliad

Byddwch chi’n cael llai bob mis hyd y byddwch wedi’i dalu yn ôl. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gostwng eich taliad rhwng 15% a 25% eich ‘lwfans safonol’ misol.

Er enghraifft - os yw’ch taliad yn cael ei leihau 15% o’ch lwfans safonol a bod eich lwfans safonol yn £317.82 y mis fel arfer, bydd cyfanswm eich taliad yn cael ei leihau £47.67.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu bod y gordaliad wedi digwydd drwy dwyll, gellir lleihau eich Credyd Cynhwysol hyd at 40% o’ch lwfans safonol.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno oherwydd eich bod yn ad-dalu gordaliad. Gall cynghorwr eich helpu i gyllidebu neu ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd ad-daliadau ar gyfraddau is.

Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i dalu’ch dyledion

Byddwch ond yn cael didyniad os yw’r credydwr yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau - gelwir hyn yn ‘ddidyniad trydydd parti’. Fel arfer mae’n 5% o’ch lwfans safonol ond gallai fod yn fwy. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych os yw hyn wedi digwydd - un ai ar eich cofnod ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr.

Gellir ond gwneud didyniadau ar gyfer:

  • ôl-ddyledion rhent a chostau tai eraill fel taliadau gwasanaeth – gall y didyniad fod rhwng 10% a 20% am ôl-ddyledion rhent
  • ôl-ddyledion nwy, trydan neu ddŵr
  • ôl-ddyledion biliau’r dreth gyngor
  • cynhaliaeth cynnal plant
  • rhai benthyciadau
  • rhai cosbau

Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau 5% o’ch ‘lwfans safonol’ sylfaenol ar gyfer y rhan fwyaf o ddidyniadau trydydd parti – gellir cymryd mwy o arian ar gyfer rhai dyledion. Er enghraifft, ar gyfer ôl-ddyledion rhent.

Ni fyddwch chi fyth yn cael mwy na 3 didyniad trydydd parti ar yr un pryd ac yn y mwyafrif o achosion ni fydd mwy na 40% o’ch lwfans safonol yn cael ei gymryd.

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Gall cynghorwr eich helpu i gyllidebu a gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau newid eu penderfyniad neu apelio os yw hynny’n addas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu apelio faint y maent yn ei dynnu oddi ar eich Credyd Cynhwysol am ôl-ddyledion rhent.

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno

Gallwch ofyn am ddidyniad llai os yw'r swm sy'n cael ei dynnu o'ch Credyd Cynhwysol yn golygu nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Efallai y bydd didyniad o'ch Credyd Cynhwysol herwydd:

  • dyled budd-daliadau
  • benthyciad Cronfa Gymdeithasol
  • ôl-ddyledion rhent

Bydd angen i chi ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno - gelwir hyn yn galedi ariannol. Bydd angen i chi roi datganiad ariannol iddynt yn dangos eich incwm ac ar beth rydych chi’n gwario’ch arian. Bydd angen i chi hefyd ddangos nad ydych chi’n gallu talu’ch costau byw sylfaenol gyda chyfradd bresennol y didyniad. Gallwch anfon y wybodaeth hon drwy’ch cofnod ar-lein neu mewn llythyr os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein.

Os ydych chi’n credu bod eich taliad yn anghywir

Dylech ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ofyn am esboniad gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un. Dylech wneud hyn:

  • os yw’ch taliad yn llai na’r hyn y byddech chi wedi’i ddisgwyl a’ch bod heb dderbyn esboniad am y rheswm
  • os ydych chi’n meddwl bod camgymeriad wedi bod gyda’r ffordd y cyfrifwyd eich Credyd Cynhwysol

Darparu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi

Mae’n syniad da rhoi rhywfaint o dystiolaeth iddynt o’r camgymeriad os gallwch chi. Bydd angen i chi wneud hyn drwy’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr. Gallai’r dystiolaeth gynnwys, er enghraifft:

  • eich cytundeb tenantiaeth – os ydych chi’n credu bod eich costau tai yn anghywir
  • slipiau cyflog neu ddatganiadau banc - os oes camgymeriad wedi bod â’ch enillion (gofynnwch i’ch cyflogwr am slipiau cyflog os nad ydynt gennych chi)
  • biliau gofal plant – os ydynt wedi cael eich costau gofal plant yn anghywir

Os ydych chi’n anghytuno â’r didyniad o hyd

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi esboniad i chi a’ch bod yn anghytuno â’r penderfyniad o hyd, gallwch ei herio – gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn)
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)