Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yswiriant Diogelu Incwm

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth yw yswiriant diogelu incwm?

Mae yswiriant diogelu incwm yn talu incwm rheolaidd i chi os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd a bydd yn parhau hyd nes y byddwch yn dychwelyd i waith sy’n talu neu hyd nes y byddwch chi’n ymddeol. Adwaenir yswiriant diogelu incwm hefyd fel yswiriant iechyd parhaol.

Ni fydd y swm o arian y caniateir i chi ei hawlio yn cymryd lle'r union swm o arian yr oeddech yn ei ennill cyn bod yn rhaid i chi stopio gweithio. Fe allwch ddisgwyl derbyn tua hanner i ddwy ran o dair o’ch enillion cyn treth o’ch swydd arferol. Y rheswm am hyn yw bod peth arian yn cael ei dynnu i ffwrdd ar gyfer budd-daliadau’r Wladwriaeth y gallwch eu hawlio, a hefyd mae’r incwm y gallwch ei dderbyn o’r polisi yn rhydd o dreth.

Allwch chi ddim hawlio taliadau diogelu incwm ar unwaith os ydych chi’n mynd yn sâl neu’n anabl. Fel arfer bydd yn rhaid i chi aros o leiaf bedair wythnos ond fe all taliadau gychwyn i fyny hyd at ddwy flynedd ar ôl i chi stopio gweithio. Y rheswm am hyn yw na fydd angen yr arian arnoch ar unwaith gan y byddwch yn gallu derbyn tâl salwch oddi wrth eich cyflogwr neu fe fyddwch yn gallu hawlio tâl salwch statudol i fyny hyd at 28 diwrnod ar ôl i chi stopio gweithio.

Mae yna fathau eraill o yswiriant salwch y gallwch eu prynu megis yswiriant salwch difrifol. Fe ddylech chi gymharu yswiriant diogelu incwm gyda mathau eraill o yswiriant salwch cyn penderfynu eu prynu ai peidio. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhain, gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol. [link to heading Cymorth a gwybodaeth ychwanegol]

Am fwy o wybodaeth am dâl salwch cyflogwr, gweler Yswiriant Salwch.

Am fwy o wybodaeth am dâl salwch statudol, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n sâl neu’n anabl.

Beth ddylech chi ei ystyried cyn prynu yswiriant diogelu incwm

Cyn i chi ystyried prynu yswiriant diogelu incwm, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi’ch hun:

Oes angen yswiriant diogelu incwm arnaf mewn gwirionedd?

Gwiriwch:

  • nad oes gennych yswiriant diogelu incwm eisoes trwy’r gwaith. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig hwn fel budd-dal. Os yw hyn yn wir bydd manylion yn eich cytundeb cyflogaeth, llawlyfr neu gan yr adran personél.
  • os oes gennych fath arall o yswiriant salwch wedi’i gyfuno gyda pholisi yswiriant arall neu gyda’ch morgais sy’n eich gwarchod rhag salwch difrifol
  • os oes gennych gynilion y gallwch eu defnyddio yn lle yswiriant. Sut bynnag, mae’n rhaid i chi ystyried yn ofalus os ydych chi am ddibynnu ar gynilion. Efallai na fyddwch chi’n gallu cynilo digon i warchod cyfnod hir o salwch. Ac efallai y bydd yn rhaid i chi wynebu argyfwng arall, allai ddefnyddio’ch cynilion i gyd a’ch gadael heb warchodaeth rhag salwch.

Ai dyma’r math gorau o yswiriant salwch ar fy nghyfer?

Gwiriwch y gwahanol fathau o yswiriant salwch sydd ar gael i weld pa un sydd orau i chi. Er enghraifft, os ydych chi’n poeni am gost yswiriant diogelu incwm, fe allech chi ystyried prynu yswiriant salwch difrifol yn ei le sy’n gallu bod yn opsiwn rhatach. Sut bynnag, dim ond ystod cyfyng iawn o afiechydon a warchodir gan salwch difrifol ac am gyfnod byrrach nag yswiriant diogelu incwm.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o yswiriant diogelu incwm fyddai orau i chi, fe allwch gael help oddi wrth ymgynghorydd ariannol annibynnol

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag yswiriant salwch difrifol, gweler Yswiriant salwch critigol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael cyngor ariannol, gweler Cael cyngor ariannol.

Oes gennych chi ddigon o arian i dalu am yswiriant salwch?

Gall costau (neu bremiymau) talu yswiriant diogelu fod yn uchel ac efallai na fydd angen i chi ei ddefnyddio. Chewch chi ddim eich arian yn ôl os na fyddwch chi byth yn hawlio dim.

Am fwy o wybodaeth am hyn, gweler Yswiriant Salwch.

Beth sydd angen i chi ei wybod cyn prynu yswiriant salwch difrifol

Fe ddylech chi bob amser wirio telerau ac amodau unrhyw bolisi yswiriant yn ofalus cyn arwyddo er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â’ch holl anghenion. Bydd angen i chi fod yn siŵr beth yn union y gallwch wneud cais amdano, pryd y gallwch chi hawlio a faint yn union yr ydych yn debygol o’i gael.

Mae yna reolau sy’n dweud fod yn rhaid ysgrifennu’r dogfennau polisi mewn Saesneg hawdd i’w ddarllen, er mwyn i chi ddeall yr hyn yr ydych yn arwyddo amdano.

Oes yna unrhyw eithriadau?

Nid yw polisïau yswiriant salwch bob amser yn gwarchod rhag pob math o salwch.

Ar ben hyn, efallai nad ydych yn cael eich gwarchod rhag rhai afiechydon arbennig yr ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi dioddef ohonynt o’r blaen. Adwaenir y rhain fel cyflyrau meddygol eisoes yn bod.

Bydd yswirwyr yn edrych ar hanes meddygol eich teulu a bydd rhai polisïau yn gwarchod cyflyrau meddygol sydd eisoes yn bod ac eraill ddim. Os yw hanes meddygol eich teulu yn golygu fod yna amodau ynghlwm wrth i chi brynu’r polisi, rhaid i’ch yswiriwr esbonio’r rhain i chi cyn i chi arwyddo’r polisi.

Bydd angen i chi hefyd wybod os ydych chi’n dal wedi’ch gwarchod os gwnewch chi fathau eraill o waith yn wahanol i’ch un chi. Mae rhai polisïau yn nodi na allwch chi hawlio os ydych chi’n methu cyflawni eich swydd eich hun ond yn gallu cyflawni mathau eraill o swyddi. Dylech chi wirio’r polisi yswiriant i weld os ydyw’n dweud hyn.

Pa mor hir y mae’n rhaid i chi aros cyn bod y polisi yn talu allan?

Gyda’r rhan fwyaf o bolisïau fel arfer mae’n rhaid i chi aros o leiaf pedair wythnos ar ôl i chi stopio gweithio i’r taliadau ddechrau. Gelwir hwn yn gyfnod aros. Mae rhai cyfnodau aros yn parhau am ddwy flynedd. Gall y swm o arian yr ydych yn ei dalu am y polisi yswiriant (a elwir yn bremiymau) fod yn rhatach os allwch chi aros yn hirach cyn gwneud cais.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfnodau aros, gweler Yswiriant Salwch.

Faint gewch chi os wnewch chi gais?

Bydd angen i chi wybod faint yn union gewch chi os wnewch chi gais. Gall swm eich taliadau gael eu haffeithio os oes gennych incwm arall megis budd-daliadau’r wladwriaeth neu daliadau oddi wrth bolisïau yswiriant eraill.

Fe ddylech chi ddarganfod hefyd os yw’r taliadau’n codi bob blwyddyn yn unol â chostau byw.

Sut mae’r yswirwyr wedi asesu’ch swydd

Pan fyddan nhw’n gweithio allan a ydyn nhw’n mynd i’ch gwarchod chi ai peidio a faint o dâl fyddan nhw’n ei godi am y polisi, bydd yswirwyr yn asesu pa mor beryglus yw’ch swydd. Gall yswirwyr gwahanol asesu’r un swydd yn wahanol, felly mae’n bwysig i wybod i ba gategori y mae’ch swydd yn perthyn iddo gan y gallech chi gael premiwm rhatach yn rhywle arall.

Beth mae’n rhaid i chi ei ddweud wrth yr yswiriwr cyn i chi brynu yswiriant diogelu incwm

Rhaid i chi roi manylion llawn am eich hanes meddygol chi a’ch teulu i’r yswiriwr. Os fyddwch chi’n gadael unrhyw beth allan ac yna’n ceisio hawlio’n ddiweddarach, gall eich yswiriwr wrthod talu allan.

Os oes gennych gyflwr meddygol sydd eisoes yn bod, edrychwch am yswiriwr fydd yn barod i’w warchod, er efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i brynu’r polisi. Cyflwr meddygol sy’n bod eisoes yw un yr ydych wedi dioddef ohono o’r blaen.

Fe ddylech chi ddweud wrth yr yswirwyr hefyd os ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau peryglus neu os oes gennych ffordd o fyw sy’n cynnwys ysmygu, yfed trwm neu gymryd cyffuriau. Os na ddywedwch chi wrthyn nhw am rywbeth allai affeithio’ch cais yn ddiweddarach, fe allan nhw wrthod talu allan ar y polisi.

Nid oes rhaid i chi drafod gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda’r person sy’n gwerthu’r polisi. Fe allwch chi ofyn am gael anfon y wybodaeth yn uniongyrchol at swyddog meddygol yr yswiriwr.

Os ydych chi eisoes yn sâl, neu os oes gennych swydd beryglus, efallai na fyddwch chi’n gallu cael yswiriant diogelu incwm neu fe fydd yn rhaid i chi dalu mwy am brynu’r yswiriant.

Sut i weithio allan y lefel o warchodaeth sydd ei angen arnoch ar gyfer yswiriant diogelu incwm

I weithio allan lefel y warchodaeth sydd ei angen arnoch ar gyfer yswiriant diogelu incwm:

  • dechreuwch gyda faint yw’ch cyflog ar hyn o bryd
  • tynnwch allan y swm y byddech yn ei dderbyn trwy fudd-daliadau'r wladwriaeth
  • tynnwch allan unrhyw gostau perthnasol sydd ynghlwm wrth y gwaith megis teithio, bwyd a dillad.
  • ychwanegwch unrhyw dreuliau ychwanegol y gallech fod eu hangen petaech chi’n mynd yn sâl neu’n anabl megis costau gwres ychwanegol neu gostau offer meddygol.

Am fwy o gymorth ynglŷn â sut i gyfrifo faint o ddarpariaeth sydd ei hangen arnoch, ewch i wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn www.moneyadviceservice.org.uk. Gall yswiriwr neu ymgynghorydd ariannol annibynnol helpu hefyd gyda gweithio allan y costau hyn oherwydd gall rhai fod yn anodd i’w rhagfynegi ymlaen llaw.

Sut i brynu yswiriant diogelu incwm

Fe allwch chi brynu yswiriant diogelu incwm oddi wrth:

  • ymgynghorydd ariannol annibynnol, all edrych ar yr holl bolisïau sydd ar gael a dewis yr un gorau ar eich cyfer chi. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y cyngor hwn.
  • yn uniongyrchol oddi wrth y cwmni yswiriant

I wybod mwy am gael cyngor ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.

Os ydych chi am brynu yswiriant diogelu incwm yn uniongyrchol oddi wrth gwmni yswiriant, fe ddylech chi chwilio am y fargen orau. Fe allwch chi ddefnyddio gwefan gymharu i wneud hyn. Mwy na thebyg fyddwch chi ddim yn gallu prynu’r polisi ar-lein gan y bydd angen eich asesu gan y cwmni ar gyfer eich addasrwydd. Ond fe fyddwch yn gallu gofyn am amcan bris ar-lein neu ddod o hyd i fanylion ymgynghorwr ariannol y gallwch siarad â nhw.

Am fanylion gwefannau cymharu sydd wedi’u cymeradwyo gan Llais Defnyddwyr (Consumer Focus), cwmni gwarchod defnyddwyr y llywodraeth ewch i: www.consumerfocus.org.uk.

Beth sy’n affeithio cost yswiriant diogelu incwm?

Affeithir costau prynu yswiriant diogelu incwm gan y pethau canlynol:

  • eich oedran. Po hynaf y byddwch wrth brynu’r polisi, y mwyaf y byddwch yn talu, gan fod y perygl ohonoch chi’n mynd yn sâl yn cynyddu
  • eich rhyw. Mae dynion yn gwneud dipyn bach mwy o hawliadau na menywod, ac felly yn talu mwy
  • eich iechyd. Os ydych chi mewn iechyd da, fe fyddwch yn talu llai o yswiriant eich hun
  • eich swydd. Os ydych chi’n cyflawni swydd fentrus, fe fyddwch yn talu mwy am yr yswiriant.
  • hobïau a ffordd o fyw. Os ydych chi’n cymryd rhan mewn hobiau peryglus neu os ydych chi’n ysmygu neu yfed yn drwm, fe fyddwch yn talu mwy am yr yswiriant.
  • y cyfnod aros. Po hiraf y gallwch aros cyn hawlio, y rhataf fydd eich premiymau.
  • os ydych chi’n barod i gyflawni mathau eraill o waith os ewch chi’n sal. Fel arfer bydd yn costio llai i brynu yswiriant diogelu incwm os dywedwch chi y byddwch chi’n gwneud cais dim ond os na fyddwch chi’n gallu gweithio o gwbl, yn hytrach na dim ond eich swydd eich hun.

Canslo eich polisi diogelu incwm

Os ydych chi’n prynu yswiriant diogelu incwm, fel arfer mae gennych 30 diwrnod i ganslo’r polisi a chael ad-daliad llawn.

Os penderfynwch chi ganslo’r polisi ar ôl 30 diwrnod, fe all yr arian a ad-delir i chi fod yn llai na’r swm a dalwyd i mewn gennych. Gwiriwch delerau ac amodau’r polisi.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)