Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae'ch cwmni yswiriant yn gwrthod eich hawliad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Pan fyddwch yn ceisio hawlio ar eich polisi yswiriant, efallai y gwelwch chi bod eich cwmni yswiriant yn gwrthod eich hawliad neu nad yw'n talu'r swm cyfan yr ydych yn gofyn amdano. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pam y gallai’ch cwmni yswiriant benderfynu gwneud hyn.

Pam y gallai’ch cwmni yswiriant wrthod eich hawliad

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gwrthod talu'ch hawliad oherwydd:

  • nid oedd y polisi mewn grym pan ddigwyddodd yr hyn yr ydych yn hawlio amdano
  • nid yw'r polisi'n ddilys oherwydd nid oeddech wedi dweud y gwir pan geisioch chi am yswiriant neu roeddech wedi methu â datgelu rhywbeth a allai effeithio ar eich hawliad (ar gyfer polisïau a gymerwyd allan, a adnewyddwyd neu newidiwyd cyn 6 Ebrill 2013)
  • nid yw’r polisi’n ddilys am i chi gadw gwybodaeth yn ôl yn fwriadol neu’n esgeulus neu gamarwain eich yswirwyr (ar gyfer polisïau a gymerwyd allan, a adnewyddwyd neu newidiwyd ar ôl 6 Ebrill 2013)
  • nid yw'r eitem yn dod o dan eich polisi
  • mae yna gymal eithriad yn y polisi sy'n golygu nad ydych yn medru hawlio am yr hyn sydd wedi digwydd
  • rydych wedi colli rhai o randaliadau eich premiwm
  • nid oeddech wedi dweud wrth eich cwmni yswiriant am newid yn eich amgylchiadau
  • nid ydych wedi dilyn y broses hawlio'n iawn
  • nid ydych wedi cadw at amod o'ch polisi
  • rydych wedi gorliwio'ch hawliad ac yn ceisio hawlio am fwy nag y dylech chi.

Rhaid i'ch cwmni yswiriant roi rheswm i chi dros wrthod talu'ch hawliad. Darllenwch fanylion eich polisi'n ofalus i sicrhau bod ei benderfyniad yn un rhesymol.

  • Os ydych yn credu bod eich cwmni yswiriant yn afresymol yn gwrthod eich hawliad, gallwch geisio trafod gydag ef. Os nad ydych yn fodlon o hyd gyda'r ffordd y deliwyd â'ch hawliad, gallwch gwyno gan ddefnyddio'i broses gwyno.

Gwybodaeth sydd angen i chi ei rhoi i’ch yswiriwr ar gyfer polisïau a gymerwyd allan, a adnewyddwyd neu a newidiwyd ar 6 Ebrill 2013 neu ar ôl y dyddiad yma

Mwy am yr adegau y bydd eich yswiriwr yn medru gwrthod eich hawliad pan na fyddwch wedi rhoi gwybodaeth berthnasol - ar gyfer polisïau a gymerwyd allan, a adnewyddwyd neu a newidiwyd cyn 6 Ebrill 2013

Colledion heb eu hyswirio a'ch tâl-dros-ben

Weithiau, ni fydd hawliad yn dod o dan eich polisi Gelwir hyn yn golled heb ei yswirio. Er enghraifft, efallai y bydd toriad i'ch pŵer yn golygu bod yn rhaid taflu cynnwys eich rhewgell ond efallai na fydd eich polisi'n cynnwys y gost o brynu bwydydd newydd yn eu lle.

Os yw'ch polisi yswiriant yn cynnwys tâl-dros-ben mae hyn hefyd yn fath o golled heb ei yswirio. Tâl-dros-ben yw swm penodol unrhyw hawliad, er enghraifft y £50 cyntafm y mae'n rhaid i chi ei dalu eich hun.

Os ydych ar eich colled yn ariannol, ac nid ydych wedi'ch yswirio, ond nid chi sydd ar fai am yr hyn a ddigwyddodd, efallai y byddwch yn medru mynd â'r unigolyn neu'r cwmni sydd wedi achosi'ch colled i'r llys i adennill eich costau.

Talu'r tâl-dros-ben am ddamwain car pan nad chi sydd ar fai

Pan fyddwch chi'n talu'r tâl-dros-ben ar gyfer damwain car os nad chi sydd ar fai, efallai y bydd angen i chi hawlio'r arian yma yn ôl gan gwmni yswiriant y gyrrwr sydd wedi achosi'r ddamwain, unwaith fydd yr hawliad wedi ei setlo, os nad oes darpariaeth treuliau cyfreithiol gennych i dalu am hyn.  Os ydych yn cael trafferth cael eich arian yn ôl, gallwch ddwyn achos llys yn erbyn y gyrrwr neu'r cwmni yswiriant.

Os yw'ch cwmni yswiriant wedi delio â'r hawliad, dylai hawlio'r tâl-dros-ben yn ôl i chi.  Os ydych yn cael damwain ac nid chi oedd ar fai, mae cwmni hurio credyd hefyd yn medru hawlio ar eich rhan.

Ni fydd eich cwmni yswiriant yn talu'r swm llawn

Efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn cytuno i dalu peth o'ch hawliad ond nid y swm llawn. Efallai bod hyn oherwydd:

  • rydych wedi tanamcanu cyfanswm gwerth eich hawliad ac nid oes digon o yswiriant gennych ar gyfer eich colledion. Dywedir eich bod wedi eich tanyswirio.
  • mae'ch cwmni yswiriant yn credu eich bod wedi rhoi gwerth afrealistig ar eich hawliad, ac fe fydd ond yn talu rhan ohono i chi
  • os nad oes gennych bolisi newydd am hen, mae'r eitem yr ydych yn hawlio amdani yn hen, ac fe fydd eich cwmni yswiriant yn talu llai i chi na'r gost o dalu am eitem newydd yn ei lle. Mae hyn am eich bod eisoes wedi defnyddio rhywfaint ohoni
  • mae yna derfyn yn eich polisi ar y swm y bydd y cwmni yswiriant yn ei dalu am unrhyw un eitem
  • rhaid i chi dalu tâl-dros-ben
  • rydych wedi dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol neu’n esgeulus neu gamarwain eich yswiriwr wrth i chi gymryd, adnewyddu neu newid polisi ac fe fyddai’r yswiriwr wedi codi premiwm uwch oherwydd hyn

Os ydych yn credu bod eich cwmni yswiriant yn ymddwyn yn afresymol trwy wrthod talu'r cyfan o'ch hawliad, dylech geisio trafod gydag ef i ddod i gytundeb. Os nad ydych yn hapus gyda'r hyn y mae'ch cwmni yswiriant yn ei gynnig, fe allwch gwyno gan ddefnyddio proses gwyno eich cwmni yswiriant.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)