Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gydag eitem rydych chi wedi’i phrynu, efallai y bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad, i gael ei thrwsio neu i gael eitem arall.
Does dim gwahaniaeth a ydych chi wedi prynu’r eitem yn newydd neu’n ail law, bydd gennych chi hawliau yr un fath.
Bydd gennych chi hawliau cyfreithiol os yw’r eitem rydych chi wedi’i phrynu:
wedi torri neu wedi’i difrodi ('ddim o ansawdd boddhaol')
does dim modd ei defnyddio (‘ddim yn addas i’r diben’)
ddim yn cyfateb i’r hysbyseb neu ddim yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr
N fydd gennych chi unrhyw hawliau cyfreithiol os:
oedd wedi’i ddifrodi oherwydd traul arferol, damwain neu gamddefnydd
roeddech chi’n ymwybodol o’r nam cyn i chi brynu’r eitem