Symud tŷ a biliau dŵr
Mae'r dudalen hon yn esbonio beth ddylech chi ei wneud ynglyn â dweud wrth eich cwmni dwr pan fyddwch chi'n symud ty.
Pan fyddwch chi'n symud allan
Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr pryd yr ydych chi'n bwriadu symud, ac i ble, fel ei fod yn glir na fyddwch yn gyfrifol mwyach am y biliau dwr yn eich hen dy.
Os oes mesurydd dwr gennych, rhowch o leiaf bum niwrnod gwaith o rybudd i'ch cwmni dwr fel ei fod yn medru trefnu cymryd darlleniad terfynol o'r mesurydd. Os na wnewch chi hyn, efallai y gwelwch chi eich bod yn cael bil am ddwr a ddefnyddiwyd wedi i chi symud allan.
Pan fyddwch chi'n symud i mewn i'ch cartref newydd
Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr newydd pryd y symudoch chi i mewn. Os ydych yn symud ty ond yn aros gyda'r un cwmni dwr, fe fydd angen iddo wybod am y newid i'ch cyfeiriad.
Mae yna fesurydd dwr yn eich cartref newydd
Os ydych yn symud i eiddo ble mae yna fesurydd yn barod, gallwch ofyn am gael ei wared.
Os oes mesurydd gennych yn eich cartref newydd, cymerwch ddarlleniad unwaith fyddwch chi wedi symud i mewn.
Taliadau carthffosiaeth
Pan fyddwch chi'n symud ty, efallai y gwelwch chi fod y cwmni sy'n cyflenwi'ch dwr hefyd yn cyflenwi'ch carthffosiaeth, neu efallai mai cwmni arall sy'n ei gyflenwi. Os mai cwmni gwahanol ydyw, efallai y cewch fil ar wahân, neu efallai y bydd eich cwmni dwr yn cynnwys costau carthffosiaeth ar y bil ar ran y cwmni carthffosiaeth.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
- I gael help pellach ar faterion dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk