Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Biliau dŵr wedi eu hôl-ddyddio

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae cwmni dwr yn medru ôl-ddyddio biliau dwr.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pryd fedrwch chi  gael eich hun yn y sefyllfa hon, beth sy'n debygol o ddigwydd a beth fedrwch chi ei wneud am y peth.

Pam maen nhw wedi ôl-ddyddio fy mil dwr?

Mae cwmnïau dwr yn medru anfon bil atoch am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Maen nhw'n medru ôl-ddyddio biliau waeth a ydyn nhw wedi anfon bil atoch o'r blaen ai peidio.

Fe allech gael bil wedi ei ôl-ddyddio os yw'r cwmni dwr newydd ddod i wybod bod eich eiddo'n bodoli. Mae hyn yn medru digwydd pan fydd newidiadau sylweddol i'r eiddo yn y gorffennol nad oedd y cwmni dwr yn gwybod amdanynt. Er enghraifft, efallai bod yr eiddo yn un ty mawr ar un adeg a'i fod bellach wedi ei rannu'n fflatiau llai.

Gallech hefyd gael bil wedi'i ôl-ddyddio os mai yn ddiweddar y daeth rywun i fyw yn eich eiddo, ac mae'r cwmni dwr newydd ddarganfod hyn.

Efallai hefyd y cewch fil wedi ei ôl-ddyddio os ydych ar ei hôl hi gyda'ch biliau neu, yn syml, am fod y cwmni wedi gwneud camgymeriad ac wedi anghofio anfon bil atoch.

Beth fedrwch chi ei wneud os yw'ch bil dwr wedi cael ei ôl-ddyddio

Os gofynnir i chi dalu bil wedi'i ôl-ddyddio am fod y cwmni dwr wedi gwneud camgymeriad, dylech geisio trafod gyda nhw a dod i ryw fath o drefniant. Efallai y bydd hyn yn golygu gofyn iddyn nhw os fedrwch chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus mewn rhandaliadau, neu ddileu rhan o'r taliad, neu'r cyfan ohono.  Nid yw'r cwmni dwr yn gorfod cytuno i'r hyn yr ydych yn gofyn amdano, ond fe allwch geisio tynnu eu sylw at y ffaith mai eu camgymeriad nhw sydd wedi achosi i’r ôl-daliadau gronni, ac felly ei bod yn rhesymol disgwyl iddyn nhw ddod i gytundeb.

Dylai fod gan bob cwmni dwr god ymarfer ar gyfer delio gyda chwsmeriaid sydd ar ei hôl hi gyda thaliadau. Gofynnwch i'ch cwmni am gopi ohono. Dylech ddod o hyd i fanylion cyswllt y cwmni ar eich bil.  Defnyddiwch y cod ymarfer hwn os oes angen i chi drafod gyda'r cwmni.

Mae rhai cwmnïau dwr yn gweithredu cynlluniau elusennol sy'n medru cynnig help i ad-dalu taliadau sydd wedi eu hôl-ddyddio ac felly mae'n werth eu holi ynglyn â hyn. Os ydych chi'n cael budd-daliadau, gallwch hefyd holi a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun Watersure, neu os ydych yn gwsmer i Dŵr Cymru, Cynllun Cymorth Dŵr Cymru.

Os ydych chi angen cyngor neu gymorth i ofyn i'r cwmni drafod y taliadau sydd wedi eu hôl-ddyddio, efallai y bydd Y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn medru helpu.

Os ydych yn byw mewn eiddo wedi ei rentu neu mewn bloc o fflatiau, efallai y byddwch yn talu rhent neu dâl gwasanaeth sy'n cynnwys y dwr.  Darllenwch eich gwaith papur am fanylion.  Os yw'r tâl am y dwr wedi ei gynnwys, mae'ch landlord neu gwmni rheoli yn debygol o fod yn gyfrifol am dalu'r bil yn hytrach na chi.

Beth sy'n digwydd os nad ydych chi'n talu?

Os ydych yn wynebu bil wedi'i ôl-ddyddio, ac nid ydych yn ei dalu, mae'r cwmni dŵr yn medru dwyn achos llys yn eich erbyn i adennill y ddyled. Rhaid iddo wneud hyn o fewn chwe blynedd, dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980. Nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar y swm y gall ei adennill, ond, yn ymarferol, efallai y bydd yn penderfynu codi arnoch am y flwyddyn gyfredol a'r chwe blynedd flaenorol. Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru yn medru rhoi gwybodaeth ar y ffordd y mae dyledion wedi cael eu hadennill gan gwmnïau dŵr yn y gorffennol. Nid yw'r cwmni dŵr yn medru datgysylltu eich cyflenwad dŵr os nad ydych yn talu.

Os yw'r cwmni dwr yn dwyn achos llys yn eich erbyn, mynnwch help gan ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu gan gyfreithiwr.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Canllawiau OFWAT i gwmnïau ar Ddelio gyda chwsmeriaid domestig sydd mewn dyled ar:  www.oftwat.gov.uk
  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
  • I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)