Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Pwy sy'n gyfrifol am drwsio cwteri a charthffosydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r dudalen hon yn esbonio pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw cwteri a charthffosydd.  

Yn gyffredinol, rydych fel arfer yn gyfrifol am gwteri tu mewn i ffiniau'ch eiddo, ac mae'r cwmni carthffosiaeth yn gyfrifol am gwteri ochrol, sydd tu allan i ffiniau'r eiddo, a charthffosydd. Er bod y mwyafrif o garthffosydd yn eiddo cyhoeddus erbyn hyn, mae yna ambell un preifat neu heb ei fabwysiadu o hyd. Os yw'ch eiddo'n cael ei wasanaethu gan un o'r rhain, efallai y byddwch yn gyfrifol am ei gynnal a chadw.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cwter a charthffos?

Mae cwter yn biben sy'n draenio dwr a gwastraff o adeilad, ac adeiladau eraill sy'n gysylltiedig iddo, er enghraifft garej.  

Mae cwter ochrol yn ddarn o biben sy'n cludo dwr gwastraff i ffwrdd o'ch eiddo. Mae tu allan i ffin eich eiddo, yn aml o dan balmant neu heol gyhoeddus.

Mae carthffos yn casglu dwr a gwastraff o gwteri nifer o adeiladau. Mae'r rhan fwyaf o garthffosydd yn eiddo cyhoeddus ac yn cael eu cynnal a chadw gan eich cwmni dwr. Ond, mae yna ambell garthffos breifat yn bodoli o hyd. Mae yna rai sydd ddim wedi eu cysylltu at garthffos, ond yn hytrach i garthbwll, tanc septig neu safle trin. Os nad ydych wedi eich cysylltu at garthffos, ni fyddwch yn gorfod talu taliadau carthffosiaeth i gwmni carthffosiaeth.

Trwsio cwteri

Chi sy'n gyfrifol am gynnal a chadw neu drwsio unrhyw gwteri tu allan i ffiniau'ch eiddo.  

Fe fydd yn rhaid i chi dalu am y gwaith hwn, ond fe allwch ddewis cwmni o'ch dewis i wneud y gwaith. Neu, fe allwch brynu yswiriant i dalu am waith ar gwteri preifat.

Weithiau, fe fydd angen i chi yswirio cwter eich eiddo. Dylech holi'r cwmni sy'n darparu polisi yswiriant eich adeilad am hyn.

Mewn rhai amgylchiadau, mae adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol yn medru mynnu eich bod yn gwneud gwelliannau i gwter preifat neu osod cwter newydd yn ei le.  Efallai y bydd yn gwneud hyn, er enghraifft, os yw'n teimlo bod eich cwter yn rhy fach i'ch eiddo neu'n achosi rhwystr.

Os oes angen, mae'r awdurdod lleol yn medru gwneud y gwaith ei hun a chodi tâl arnoch amdano.

Trwsio carthffosydd

Roedd carthffosydd a chwteri ochrol sydd wedi eu cysylltu at y rhwydwaith cyhoeddus yn arfer bod yn gyfrifoldeb ar berchennog yr eiddo. Ond, erbyn hyn, cwmnïau dwr sy'n cynnal a chadw'r rhan fwyaf ohonynt.  Os ydych yn cael trafferth gyda'ch carthffos neu gwter ochrol, er enghraifft os oes rhywbeth yn ei rwystro, cysylltwch â'ch cwmni dwr lleol.  

Mae gan eich cwmni dwr yr hawl i fynd i mewn i'ch eiddo os oes angen gwneud hyn er mwyn archwilio'r garthffos neu ei chynnal a chadw.

Carthffosydd preifat neu heb eu mabwysiadu

Efallai bod gennych garthffos neu gwter ochrol os ydych yn byw ar safle sydd â sawl eiddo, er enghraifft bloc o fflatiau neu faes carafannau.  

Os oes carthffos breifat neu heb ei mabwysiadu gennych, ac rydych yn berchen ar yr eiddo, rydych yn gyfrifol am y gost o'i chynnal a chadw a'i thrwsio.  Os yw'r garthffos yn gwasanaethu sawl eiddo, mae yna gydgyfrifoldeb ar yr holl berchnogion am y costau hyn.

Mae adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol yn medru mynnu eich bod yn trwsio neu'n ddadflocio carthffos neu gwter ochrol breifat os nad yw'n cael ei chynnal a chadw'n iawn. Os nad ydych yn gwneud hyn o fewn yr amser a nodwyd gan yr awdurdod lleol, fe fydd yn medru gwneud y gwaith ei hun a chodi tâl arnoch amdano.

Gofyn i'ch cwmni carthffosiaeth gymryd y cyfrifoldeb dros garthfos neu gwter ochrol preifat neu eu mabwysiadu

Gallwch ofyn i'ch cwmni carthffosiaeth neu gwmni dwr lleol gymryd y cyfrifoldeb dros garthfos neu gwter ochrol preifat neu eu mabwysiadu Gallwch wneud hyn os yw'r garthffos neu'r gwter wedi cael ei hadeiladu neu ei gwella i'r safonau sy'n ofynnol gan y cwmni, ac os yw mewn cyflwr rhesymol.  Mae angen i'r cwmni carthffosiaeth fod yn fodlon y bydd mabwysiadu'r garthffos o fudd i'r system carthffosiaeth gyfan.  Rhaid i bawb sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r garthffos neu'r gwter ochrol gytuno i'w throsglwyddo at y cwmni carthffosiaeth.  

Os yw'r cwmni'n gwrthod mabwysiadu carthffos neu gwter ochrol, mae'r perchnogion yn medru apelio i OFWAT.

Yr hawl i gysylltu at garthffos gyhoeddus

Mae'n ddyletswydd ar bob cwmni dwr a charthffosiaeth i ddarparu carthffosydd cyhoeddus i sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio'n effeithiol. Fel arfer, mae gennych yr hawl i gysylltu'r gwter o'ch eiddo i'r garthffos gyhoeddus - er, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am hyn.

A yw'r awdurdod lleol yn medru mynnu eich bod yn cysylltu at y garthffos gyhoeddus?

Os yw'r carthffos gyhoeddus fwy na chan troedfedd o'ch eiddo a'ch cwter yn rhedeg i mewn i garthbwll neu danc septig digonol, ni fydd eich awdurdod lleol yn medru mynnu eich bod yn cysylltu at y garthffos gyhoeddus.

Ond, mae'n medru mynnu os yw'n cytuno i dalu costau cysylltu ychwanegol, gan gynnwys adeiladu, cynnal a chadw a thrwsio.

Nid ydych yn siwr a yw'ch carthffos yn breifat ei peidio

Os nad ydych yn siwr a yw'ch eiddo wedi ei gysylltu at garthffos gyhoeddus neu a yw’n un preifat, fe allwch:

  • holi'ch cwmni carthffosiaeth
  • edrych ar weithredoedd eich eiddo
  • edrych ar fap o'r carthffosydd - rhaid i'ch cwmni carthffosiaeth sicrhau bod y rhain ar gael i chi os ydych yn holi
  • holi eich awdurdod lleol.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar ddwr a charthffosiaeth ar wefan rheoleiddiwr y diwydiant dwr, OFWAT ar: www.ofwat.gov.uk
  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
  • I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)