Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig – y prawf preswylfan arferol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig sy’n dod i fyw yn y DU o dramor efallai y byddwch chi am hawlio rhai budd-daliadau seiliedig ar brawf modd. Yn dibynnu ar faint o amser y treulioch chi allan o’r wlad, efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni amodau prawf, sef y prawf preswylfan arferol (HRT) cyn y caniateir i chi hawlio.

Er mwyn bodloni amodau'r prawf rhaid i chi ddangos:

  • bod gennych hawl gyfreithiol i fyw yn y DU a hawlio’r budd-daliadau hyn. Gelwir hyn yn hawl i breswylio, ac
  • eich bod yn bwriadu setlo yn y DU, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Iwerddon (yr 'ardal deithio gyffredin') ac ymgartrefu yno am y tro. Yr enw ar hyn yw preswylio arferol.

Mae’r dudalen hon yn esbonio a fydd angen i chi fodloni amodau'r prawf preswylfan arferol wrth i chi ddychwelyd i’r DU

Cael cyngor

Mae profi'ch hawl i breswylio a'ch bwriad i setlo yn y Deyrnas Unedig yn medru bod yn anodd. Os nad ydych chi'n siŵr am eich hawliau a'ch statws, gallwch gael help gan gynghorydd.

Os ydych chi am fwy o help

Dinasyddion Prydeinig

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig mae gennych hawl awtomatig i breswylio yn y DU, yn ogystal ag Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Gelwir hyn yn ardal deithio gyffredin ac fe gewch eich ystyried yn breswylydd arferol yn y DU os ydych chi wedi bod yn byw yn un o’r lleoedd hyn.

Fodd bynnag, os ydych chi newydd ddychwelyd i’r DU ar ôl cyfnod yn byw y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, mae'n bosibl y bydd dal rhaid i chi ddangos eich bod yn pasio’r prawf preswylfan arferol cyn gallu hawlio rhai budd-daliadau seiliedig ar brawf modd penodol. Ni fydd rhaid i chi sefyll y prawf os ydych chi wedi bod ar wyliau hir neu ar flwyddyn i ffwrdd. Mewn achosion o'r fath, dylech gael eich trin fel 'preswylydd sy'n dychwelyd'. Fodd bynnag, os ydych chi wedi treulio peth amser yn byw neu'n gweithio dramor, efallai y bydd rhaid i chi sefyll y prawf wrth ddychwelyd i'r DU, yn enwedig os nad oes gennych eiddo neu deulu agos yn y DU mwyach.

Mae'r Prawf Preswylfan Arferol yn edrych ar ba gysylltiadau sydd gennych chi â'r DU eisoes a beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau mai'r DU yw canolbwynt eich bywyd. Byddant am wybod i ba raddau rydych chi wedi torri clymau â'r wlad roeddech chi'n byw ynddi gynt. Bydd gofyn i chi ateb cyfres o gwestiynau sy'n berthnasol i'ch sefyllfa unigol chi i geisio canfod y wybodaeth hon. Dylech fod yn barod i roi cymaint o wybodaeth a dogfennau â phosibl os cewch eich holi am eich statws preswylfan arferol.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr awdurdod lleol neu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn penderfynu pa bryd y gellir  eich ystyried yn breswylydd arferol, yn dibynnu ar ba mor hir y buoch chi i ffwrdd, pam roeddech chi dramor, a pha gysylltiad gadwoch chi â’r DU yn ystod yr amser hwn.

O 1 Ionawr 2014 mae rheolau newydd yn golygu os ydych chi'n hawlio lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm ac angen dangos eich bod chi'n breswylydd arferol, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn breswylydd arferol nes eich bod chi wedi bod yn byw yn y DU neu rywle arall yn yr ardal deithio gyffredin am dri mis o leiaf. Mae hyn yn golygu os byddwch chi'n hawlio'r budd-dal hwn yn syth ar ôl dychwelyd i'r DU o'r tu allan i'r ardal hon, ni fyddwch yn derbyn y budd-dal am o leiaf dri mis. Hyd yn oed ar ôl tri mis, bydd rhaid i chi ddangos eich bod chi'n preswylio yn y DU fel arfer.

Os ydych chi’n bwriadu symud nôl i’r DU ac yn credu y byddwch angen budd-daliadau a thŷ ar unwaith, ystyriwch sut y byddech chi’n ymdopi petaech chi ddim yn bodloni amodau'r prawf.

Dinasyddion Gwyddelig

Mae gan ddinasyddion Gwyddelig hawl awtomatig i breswylio yn y DU fel rhan o’r ardal deithio gyffredin. Os oeddech chi’n breswylydd arferol yn Iwerddon neu unrhyw un o’r lleoedd yn yr ardal deithio gyffredin cyn i chi ddod i’r DU, fe fyddwch yn bodloni amodau'r prawf preswylfan arferol yn awtomatig.

Fodd bynnag, os dewch chi i’r DU o wlad y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, bydd yn rhaid i chi brofi eich bod yn breswylydd arferol yma i fodloni'r amodau hynny. Fel yn achos dinasyddion y DU sy'n dychwelyd o dramor, o 1 Ionawr 2014 ni allwch fodloni'r prawf preswylfan arferol er mwyn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm nes eich bod chi wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf dri mis.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)