Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cychwyn eich hawliad Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Yn gyntaf, dylech chi wirio a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n gymwys, fel arfer bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein yn GOV.UK. Yna, byddwch chi’n cael cyfrif ar-lein y byddwch chi’n ei ddefnyddio i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac i ddiweddaru eich hawliad.

Byddwch chi angen cyfeiriad e-bost a rhif ffôn i greu cyfrif ar-lein.

Gallwch chi ddysgu sut i gael cyfeiriad e-bost ar wefan Which?

Os ydych yn ailymgeisio am Gredyd Cynhwysol, efallai na fydd yn rhaid i chi fynd drwy’r broses ymgeisio lawn eto. Darganfod mwy am ailymgeisio am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli 6 budd-dal o’r enw ‘budd-daliadau etifeddol’ sef:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Credyd Treth Plant (CTC)
  • Credyd Treth Gwaith (WTC)
  • Cymhorthdal Incwm

Mae’n bwysig meddwl yn ofalus cyn symud o un o’r budd-daliadau hyn i Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • efallai y cewch lai o arian
  • bydd unrhyw fudd-daliadau etifeddol a gewch yn dod i ben
  • ni fyddwch yn gallu mynd yn ôl at unrhyw un o'r budd-daliadau etifeddol yn y dyfodol

Dysgwch fwy am symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.

Gwiriwch pryd i wneud cais

Fel arfer, y peth gorau i’w wneud yw gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted ag y gallwch chi. Fel yna, byddwch chi’n cael eich taliad cyntaf yn gynt.

Os nad ydych chi neu’ch partner yn ddinesydd y DU

Cyn i chi wneud cais, dylech wirio a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Os nad ydych yn gymwys, gallai gwneud cais am Gredyd Cynhwysol effeithio ar eich caniatâd i aros yn y DU.

Os ydych chi wedi gadael eich swydd

Mae’n gallu bod yn werth aros tan ar ôl i chi gael eich cyflog terfynol neu unrhyw dâl gwyliau o’ch gwaith.

Os byddwch chi’n cael eich talu ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd yr arian yn cyfrif fel incwm – mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael llai yn eich taliad Credyd Cynhwysol.

Dylech chi wneud cais cyn gynted ag y gallwch chi os mai dim ond tâl dileu swydd rydych chi’n ei ddisgwyl gan nad yw’n cyfrif fel incwm. Ni fydd tâl dileu swydd yn effeithio ar faint y byddwch chi’n ei gael yn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf oni bai ei fod yn dod â chyfanswm eich cynilion i dros £6,000.

Os ydych chi wedi bod yn disgwyl eich taliad olaf o’r gwaith a’ch bod chi angen arian, y peth gorau i’w wneud yw siarad â chynghorydd cyn hawlio.

Os na allwch chi wneud cais ar-lein

Efallai y gallwch chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol dros y ffôn neu, o dan amgylchiadau eithriadol, drefnu i rywun ymweld â chi yn eich cartref.

Dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y gallwch chi ddefnyddio’r opsiynau hyn. Efallai y byddwch chi’n gymwys:

  • os nad oes gennych chi fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd
  • os nad ydych chi’n hyderus yn defnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar
  • os oes gennych chi broblemau gyda’ch golwg
  • os oes gennych chi anabledd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl tymor hir sy’n eich atal chi rhag gwneud cais ar-lein
  • os oes gennych chi gyflwr corfforol sy’n eich atal chi rhag defnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar
  • os na allwch chi ddarllen neu ysgrifennu

Os oes angen help arnoch i ganfod a allwch wneud cais dros y ffôn neu gael ymweliad cartref, gallwch siarad ag un o'n cynghorwyr. 

I wneud cais dros y ffôn neu drefnu ymweliad cartref, bydd angen i chi ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Gall rhywun arall alw ar eich rhan. Pan fyddwch chi'n ffonio, byddwch chi'n clywed sawl opsiwn - dewiswch 'Universal Credit enquiries'.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar eu gwefan.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio Relay fideo ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau yn rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Mae’n gallu cymryd amser i siarad â rhywun. Dywedwch wrth y person y byddwch chi’n siarad ag ef pam na allwch chi wneud cais ar-lein. Byddan nhw’n gofyn rhai cwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n gymwys cyn mynd trwy gamau nesaf y cais gyda chi.

Os ydych chi’n gymwys i hawlio dros y ffôn neu i gael ymweliad cartref

Bydd y Ganolfan Waith a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cadw mewn cysylltiad naill ai trwy:

  • negeseuon testun
  • ffonio
  • llythyrau
  • ymweld â chi’n bersonol

Byddan nhw’n gofyn i chi beth fyddai'n haws i chi pan fyddwch chi’n gwneud cais.

Dechrau eich cais ar-lein

Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UK.

Yn gyntaf, bydd angen i chi nodi eich cod post. Os nad oes gennych chi gyfeiriad, gallwch chi nodi cod post eich Canolfan Waith agosaf.

Gallwch chi ddod o hyd i gyfeiriad eich Canolfan Waith agosaf ar GOV.UK.

Os nad oes gennych chi gyfrifiadur neu fynediad i’r rhyngrwyd

Gallwch chi ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfrifiadur am ddim yn eich:

Os oes gennych chi bartner

Bydd angen i chi wneud hawliad ar y cyd os ydych chi’n byw gyda’ch partner a’ch bod chi’n:

  • briod
  • partneriaid sifil
  • byw gyda’ch gilydd fel pâr

Os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, dylech wneud cais ar y cyd o hyd oherwydd bod angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau wybod am incwm y ddau ohonoch. Bydd Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich hawliad i un hawliad pan fyddant yn prosesu eich cais. Mae hyn yn golygu y byddwch chi neu’ch partner yn cael eich talu fel petaech yn berson sengl.

Dylech wneud cais sengl os:

  • rydych wedi gwahanu’n barhaol oddi wrth eich partner – hyd yn oed os ydych yn dal i fyw yn yr un eiddo
  • rydych wedi bod ar wahân i’ch partner am o leiaf 6 mis
  • rydych yn mynd i fod ar wahân i’ch partner am o leiaf 6 mis

I wneud cais ar y cyd, bydd angen i’r ddau ohonoch agor cyfrifon ar wahân.

Gofynnir i chi yn ystod y cais a ydych yn byw gyda’ch partner. Os byddwch, fe gewch ‘god cysylltu’. Pan fydd eich partner yn sefydlu ei gyfrif, dylai deipio'r cod cysylltu hwn i ymuno â'i gyfrif â'ch un chi. Mae hyn yn troi eich cais yn hawliad ar y cyd.

Ni ddylech greu eich cyfrif ar yr un pryd â'ch partner - does dim ots pwy sy'n creu eu cyfrif yn gyntaf.

Bydd y ddau ohonoch yn gallu mewngofnodi i'ch cyfrifon ar wahân.

Creu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair

Gofynnir i chi greu enw defnyddiwr a chyfrinair. Byddwch chi’n defnyddio’r rhain i fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig nad yw unrhyw un arall yn gallu mynd i mewn i’ch cyfrif heb eich caniatâd. Os ydych chi wedi gwneud hawliad ar y cyd, peidiwch â rhannu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair gyda’ch partner.

Dylech chi sicrhau fod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gryf a chofiadwy. Gallwch chi ddarllen sut i greu cyfrinair cryf a chofiadwy ar GOV.UK.

Y peth gorau i’w wneud yw dysgu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair a pheidio â’u cadw nhw wedi’u hysgrifennu i lawr yn unrhyw le.

Bydd angen i chi ateb cwestiynau diogelwch fel: ‘ble y cawsoch eich geni?’ neu ‘beth oedd enw’r stryd yr oeddech chi’n byw arni wrth dyfu i fyny?’ Gofynnir un o’r rhain i chi bob tro y byddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif.

Efallai y gofynnir i chi ychwanegu diogelwch ychwanegol i’ch cyfrif, sef ‘dilysiad dau ffactor’ – mae hyn yn ddewisol. Os byddwch chi’n cytuno, anfonir cod untro i’ch ffôn symudol. Yna, bydd angen i chi fewnosod y cod hwn ar eich cyfrif.

Anfonir cod newydd atoch chi bob tro y byddwch chi’n mewngofnodi neu’n defnyddio dyfais newydd – oni bai eich bod chi’n mewngofnodi ar yr un ddyfais o fewn 24 awr.

Byddwch chi’n cael Rhif Diogelwch Personol (PSN) 16 digid ar ôl eich cyfweliad Credyd Cynhwysol cyntaf gyda’ch ‘anogwr gwaith’ – byddwch chi’n cyfarfod yr anogwr gwaith yn rheolaidd fel rhan o’ch hawliad Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig cadw’r rhif diogelwch personol yn ddiogel – byddwch chi ei angen os bydd byth angen i chi greu cyfrinair newydd.

Dewiswch a ydych chi eisiau derbyn cyswllt trwy e-bost neu neges destun

Bydd angen i chi fod â chyfeiriad e-bost a rhif ffôn fel y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â chi.

Dewiswch gyfeiriad e-bost a rhif ffôn rydych chi’n eu defnyddio fwyaf.

Gofynnir i chi sut rydych chi eisiau derbyn cyswllt – e-bost neu neges destun. Dewiswch p’un bynnag rydych chi’n ei wirio amlaf. Ar ôl i chi wneud eich dewis, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon cod i’ch cyfeiriad e-bost.

Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost eto, gwiriwch eich ffolder sbam neu sbwriel – efallai ei fod wedi mynd yno.

Bydd lle pan fyddwch chi’n creu eich cyfrif uwchben y botwm ‘Gwneud hawliad’ i chi fewnosod y cod. Ar ôl i chi ei deipio i mewn, dewiswch ‘Gwneud hawliad’.

Camau nesaf

Ar ôl i chi greu eich cyfrif, bydd angen i chi ateb cwestiynau am eich sefyllfa – hwn yw eich 'rhestr i’w wneud'. Y peth gorau i’w wneud yw gwneud hyn cyn gynted â phosibl, neu gallai eich taliad cyntaf gael ei oedi.

Gallwch chi gael help i ateb cwestiynau yn eich cais Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi angen help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol, gallwch chi siarad â chynghorydd.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau yn ystod y broses o hawlio Credyd Cynhwysol

Efallai y gallwch chi gael help gan eich cyngor lleol neu fenthyciad di-log gan y llywodraeth. Dysgwch sut i gael help ychwanegol.

Os oes gennych chi blentyn o dan 14 oed neu blentyn anabl, dylai eich cyngor lleol eich helpu chi. Efallai y byddan nhw’n talu costau byw hanfodol neu’n dod o hyd i rywle i chi fyw. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.

Gallwch chi gael help gan gynghorydd os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau wrth aros i gwblhau eich cais Credyd Cynhwysol. 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)