Cysylltwch â ni ynglŷn â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gall ein cynghorwyr Help i Hawlio eich helpu gyda chamau cynnar eich cais Credyd Cynhwysol. Gallwch siarad â nhw ar y ffôn, neu ar-lein dros sgwrs.
Gall ein cynghorwyr eich helpu i:
- gweithio allan a allwch gael Credyd Cynhwysol
- llenwi’r cais Credyd Cynhwysol
- paratoi ar gyfer eich apwyntiad Canolfan Gwaith cyntaf
- gwirio bod eich taliad cyntaf yn gywir
Gallwch ddarllen ein cyngor ar-lein ar Gredyd Cynhwysol unrhyw bryd.
Ffonio ein llinell ffôn genedlaethol
Gallwch gysylltu â chynghorydd trwy ein gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim Help i Hawlio. Mae cynghorwyr ar gael rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cymru: 08000 241 220
Lloegr: 0800 144 8 444
Yr Alban: 0800 023 2581
Ffoniwch rif Cymru os hoffech chi siarad â chynghorydd Cymraeg.
Gofynnwch am gyfieithydd os ydych angen cyngor arnoch mewn iaith wahanol.
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn yr hoffech ei ddweud:
Relay UK (Cymru): 18001 yna 08000 241 220
Relay UK (Lloegr): 18001 yna 0800 144 8 444
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch gael cyngor gennym drwy ddefnyddio dehonglydd BSL ar wefan SignVideo. Byddwch yn cael eich cysylltu ag un o’n cynghorwyr a dehonglydd BSL – ni chodir tâl.
Mae cynghorwyr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm.
Siarad â ni ar-lein
Gallwch hefyd sgwrsio â chynghorydd ar-lein am eich cais Credyd Cynhwysol. Mae cyfleuster Sgwrsio ar gael fel arfer rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.
Os na fydd cynghorydd ar gael, ni fydd y botwn sgwrsio yn ymddangos ar y dudalen hon.
Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn
Gallwch chi ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno os ydych chi eisiau cwyno am ein gwasanaeth Help i Hawlio.