Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mynd i’ch cyfweliad Credyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Coronafirws - cael galwad am eich cais

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich galw i brosesu'ch cais - gallent ddefnyddio rhif a ddaliwyd yn ôl, 0800 neu rif preifat. Os ydyn nhw'n bwriadu eich ffonio chi, fe fyddan nhw'n anfon neges atoch chi ar eich cyfrif ar-lein.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod ichi amdanynt trwy grybwyll eich cod post a rhan o'ch rhif cyfrif Credyd Cynhwysol yn ystod yr alwad. Gofynnwch am y pethau hyn os nad ydyn nhw wedi eu crybwyll a rhowch y ffon i lawr os nad ydych chi'n eu cael - gallai fod yn alwad sgâm.

Cam olaf y broses o wneud cais am Gredyd Cynhwysol yw cael cyfweliad yn y Ganolfan Waith. Cyn hynny, bydd angen i chi greu cyfrif Credyd Cynhwysol a gwneud hawliad.

Coronafirws - cyfweliadau

Mae'r llywodraeth wedi canslo pob cyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Waith. Nid oes angen cyfweliad wyneb yn wyneb arnoch i hawlio Credyd Cynhwysol.

Efallai y bydd y Ganolfan Waith yn dal i ofyn am gael siarad â chi dros y ffôn.

Bydd eich cyfweliad gyda’ch ‘anogwr gwaith’ – sef y person y byddwch chi’n ei gyfarfod yn rheolaidd fel rhan o’ch hawliad. Yn y cyfweliad, byddan nhw’n gwirio eich manylion ac yn gofyn i chi gytuno i’ch ‘ymrwymiad hawlydd’ – mae hwn yn amlinellu pa dasgau y byddwch chi’n eu gwneud yn rheolaidd er mwyn derbyn Credyd Cynhwysol.

Os na lwyddoch chi i ddefnyddio’r system ‘Verify’ ar-lein i brofi pwy ydych chi, bydd rhaid i chi ateb mwy o gwestiynau yn eich cyfweliad i brofi pwy ydych chi.

Trefnu eich cyfweliad

Ar ôl i chi wneud cais ar-lein, bydd angen i chi drefnu cyfweliad yn eich Canolfan Waith leol. Bydd angen i chi ei drefnu o fewn wythnos. Os na fyddwch chi’n trefnu’r cyfweliad o fewn wythnos, efallai y bydd rhaid i chi gychwyn eich cais am Gredyd Cynhwysol eto.

I drefnu eich cyfweliad, bydd angen i chi wirio adran ‘rhestr i’w wneud’ eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd eitem yno o’r enw ‘paratoi ar gyfer eich cyfweliad.’

Bydd angen i chi ddewis pa ddogfennau y byddwch chi’n dod â nhw i’ch cyfweliad. Dewiswch ‘Nid oes gen i un o’r rhain’ os nad oes gennych chi unrhyw beth. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i chi ateb mwy o gwestiynau yn eich cyfweliad.

Byddwch chi’n gweld y rhif ffôn sydd ei angen arnoch chi i drefnu eich cyfweliad ar ôl i chi ddewis pa dystiolaeth y byddwch chi’n mynd â hi gyda chi.

Os na allwch chi ddod o hyd i rif ffôn, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol. Byddwch chi angen eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch chi’n ffonio. Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar slip cyflog neu lythyr gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Dywedwch wrth y person rydych chi’n siarad ag ef os ydych chi wedi cael problemau wrth geisio profi pwy ydych chi ar-lein. Byddan nhw’n dweud wrthych chi pa bethau mae angen i chi fynd â nhw gyda chi.

Gwirio eich cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif i wirio manylion eich cyfweliad. Byddan nhw o dan adran o’r enw ‘rhestr i’w wneud’.

Bob tro y byddwch chi’n cwblhau rhywbeth ar eich rhestr i’w wneud, byddwch chi’n gallu dod o hyd iddo o dan yr adran ‘dyddlyfr’. Fel hyn, bydd gennych chi gofnod o’r hyn rydych chi wedi’i wneud.

Gallwch chi ddefnyddio eich dyddlyfr i:

  • gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’ch anogwr gwaith
  • ychwanegu a lanlwytho tystiolaeth fel gwybodaeth am eich iechyd neu gostau gofal plant

Dylech chi wirio eich dyddlyfr yn rheolaidd fel na fyddwch chi’n colli unrhyw negeseuon gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu eich anogwr gwaith. Ceisiwch ateb unrhyw negeseuon gan eich anogwr gwaith cyn gynted â phosibl.

Os na allwch chi gyrraedd Canolfan Waith

Dylech chi ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol os byddwch chi’n ei chael hi’n anodd mynd i gyfweliad oherwydd eich bod chi’n sâl neu’n anabl.

Gallwch chi ofyn i’r Ganolfan Waith newid pethau i’w gwneud hi’n haws i chi – gelwir hyn yn ‘addasiad rhesymol’. Er enghraifft, gallwch chi ofyn iddyn nhw symud eich cyfweliad i le y gallwch chi ei gyrraedd yn haws, neu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Os bydd y Ganolfan Waith yn gwrthod gwneud newidiadau oherwydd eich salwch neu eich anabledd, gwiriwch a ydyn nhw wedi methu â gwneud ‘addasiad rhesymol’.

Efallai y gallwch chi gymryd camau ynghylch gwahaniaethu os ydyn nhw’n dal i wrthod gwneud rhywbeth.

Os byddwch chi angen canslo eich cyfweliad

Ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar unwaith os na allwch chi gyrraedd eich cyfweliad.

Dylech chi allu aildrefnu eich cyfweliad os oes gennych chi reswm da. Er enghraifft – eich bod chi’n sâl ar y diwrnod, bod angen i chi wneud gwaith atgyweirio brys yn eich cartref neu fod eich plant yn sâl. Fel arfer, ni fydd rhaid i chi ddisgwyl mwy nag wythnos am gyfweliad arall – gallwch chi drefnu hyn pan fyddwch chi’n ffonio. 

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl, ond mae’n iawn os oes rhaid i chi ffonio ar ddiwrnod eich cyfweliad.

Gwnewch nodyn yn eich dyddlyfr ar ôl i chi ffonio’r llinell gymorth. Gwnewch nodyn o’r hyn a gytunoch chi fel y gallwch chi gyfeirio ato yn ddiweddarach.

Os byddwch chi’n colli eich cyfweliad heb ddweud wrth y Ganolfan Waith, efallai y bydd eich hawliad yn cael ei gau. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi gychwyn eich cais eto, ac efallai y bydd eich taliad cyntaf yn cael ei oedi.

Os ydych chi eisiau mynd â ffrind neu berthynas gyda chi

Gallwch chi fynd â ffrind neu berthynas gyda chi i’ch cyfweliad os ydych chi angen cefnogaeth.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn eich cyfweliad ac esboniwch eich rhesymau. Rhaid iddyn nhw adael i chi fynd â rhywun gyda chi.

Gallwch chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud hyn, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Casglu popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer eich cyfweliad

Bydd rhaid i chi fynd â dogfennau gyda chi sy’n profi eich bod chi wedi rhoi’r manylion iawn yn eich cais ar-lein. Ewch ag unrhyw ddogfennau y dywedoch chi y byddech chi’n mynd â nhw gyda chi, ynghyd ag unrhyw beth arall sy’n helpu i brofi pwy ydych chi.

Ni fyddwch chi’n cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf hyd nes y byddwch chi wedi cyflwyno pob un o’r dogfennau.

Gallwch chi argraffu ein rhestr wirio [70 kb] i’ch atgoffa chi o’r hyn sydd ei angen arnoch chi a pha gwestiynau y gofynnir i chi.

Peidiwch â phoeni os nad yw’r holl ddogfennau sydd eu hangen arnoch chi gennych chi – bydd angen i chi ateb mwy o gwestiynau yn y Ganolfan Waith.

Os na fyddwch chi’n mynd â’ch holl ddogfennau gyda chi, bydd angen i chi fynd â nhw i’ch Canolfan Waith o fewn mis i’ch cyfweliad.

Gallwch chi hefyd bostio’r dogfennau ychwanegol i’r Ganolfan Waith os na allwch chi fynd â nhw gyda chi ar y diwrnod – gofynnwch am y cyfeiriad yn eich cyfweliad.

Os nad yw’r dogfennau ychwanegol gennych chi, dywedwch wrth eich anogwr gwaith – efallai y gallan nhw ofyn cwestiynau ychwanegol i chi yn lle. Ni fydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cychwyn hyd nes y byddwch chi wedi cyflwyno popeth allwch chi.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, byddan nhw’n cael eu cyfweliad eu hunain. Bydd angen iddyn nhw hefyd fynd â dogfennau gyda nhw i brofi eu manylion – hyd yn oed os ydych chi wedi profi rhai pethau yn barod, fel eich cyfeiriad.

Os ydych chi angen help i baratoi ar gyfer eich cyfweliad, gallwch chi siarad â chynghorydd.

Ewch â cherdyn adnabod â llun

Bydd angen i chi fynd ag o leiaf un cerdyn adnabod â llun gyda chi i’r Ganolfan Waith. Mae cardiau adnabod â llun yn cynnwys eich:

  • pasbort
  • trwydded yrru
  • cerdyn adnabod cenedlaethol os ydych chi’n ddinesydd yr UE

Os nad oes gennych chi gerdyn adnabod â llun, efallai y bydd y Ganolfan Waith yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi. Ni fydd angen i chi baratoi ar gyfer y rhain, ond bydd eich cyfweliad yn para mwy o amser nag arfer, felly mae’n well mynd â cherdyn adnabod gyda chi os oes gennych chi un.

Ewch â’ch manylion tai

Os ydych chi’n rhentu’n breifat, bydd angen i chi brofi faint o rent rydych chi’n ei dalu a beth yw cyfeiriad eich landlord – ewch â’ch cytundeb tenantiaeth neu ddatganiad rhent diweddar gyda chi.

Os nad oes gennych chi gytundeb rhent, gofynnwch i’ch landlord am gopi o’r datganiad neu am lythyr yn cynnwys manylion eich cytundeb.

Os ydych chi’n rhentu gan eich cyngor neu eich cymdeithas dai leol, nid oes angen i chi fynd â thystiolaeth o’ch costau tai gyda chi i’ch cyfweliad. Byddwch chi wedi rhoi manylion eich costau tai yn eich cais ar-lein – bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â’ch landlord i wirio bod y manylion hynny yn gywir.

Os oes gennych chi eich cartref eich hun, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch morgais neu eich benthyciad. Gallai hyn fod yn gytundeb morgais neu gyfriflenni banc yn dangos taliadau morgais.

Ewch â’ch manylion banc

Bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Gallai’r manylion hyn fod ar eich cerdyn banc neu gyfriflen banc. Os nad oes gennych chi unrhyw gyfriflenni banc, gallwch chi ofyn i’ch banc am un – efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi fach.

Os ydych chi wedi defnyddio cyfrif banc ffrind neu aelod o’r teulu ar gyfer eich taliad cyntaf, y peth gorau i’w wneud yw gofyn i’ch anogwr gwaith beth i’w wneud yn eich apwyntiad.

Os ydych chi’n bancio ar y rhyngrwyd, gallwch chi argraffu cyfriflen o’ch cyfrif ar-lein.

Ewch â gwybodaeth am eich incwm a’ch cynilion

Byddwch chi angen y manylion canlynol:

  • faint rydych chi’n ei ennill trwy weithio, fel slipiau cyflog diweddar, neu gyfrifon os ydych chi’n hunangyflogedig – os ydych chi wedi gadael eich gwaith, ewch â’ch P45 gyda chi
  • unrhyw incwm sy’n ddyledus i chi, fel tâl am weithio goramser
  • unrhyw fanylion gwaith rydych chi ar fin ei gychwyn
  • unrhyw incwm nad yw’n deillio o waith, fel cynllun pensiwn neu yswiriant
  • unrhyw fudd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael, fel llythyrau budd-daliadau neu gyfriflen banc
  • unrhyw gynilion sydd gennych chi – a chyfriflen banc i ddangos y manylion
  • unrhyw ‘gyfalaf’ arall sydd gennych chi, fel cyfranddaliadau neu eiddo

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Bydd angen i chi ddangos mai bod yn hunangyflogedig yw eich prif swydd. Gelwir hyn yn ‘hunangyflogaeth enillfawr’. Bydd angen i chi ddangos:

  • eich bod chi’n cael gwaith rheolaidd o hunangyflogaeth
  • bod eich gwaith yn drefnus – er enghraifft, bod gennych chi anfonebau a derbynebau neu gyfrifon
  • eich bod chi’n disgwyl gwneud elw

I brofi eich bod chi’n ymgymryd â hunangyflogaeth enillfawr, ewch â dogfennau gyda chi i’r cyfweliad, fel:

  • eich cynllun busnes – mae gan GOV.UK ganllawiau ar ysgrifennu cynllun busnes os nad oes gennych chi un
  • anfonebau
  • derbynebau
  • cyfrifon
  • prawf eich bod chi wedi cofrestru fel bod yn hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Ffoniwch Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wirio a ydych chi wedi cofrestru fel bod yn hunangyflogedig.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Ffôn: 0300 123 2326

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 4.30pm

Gall galwadau i’r rhif hwn gostio hyd at 9c y funud o linell dir, neu rhwng 3c a 55c y funud o ffôn symudol - (gall eich cyflenwr ffôn ddweud wrthych chi faint y byddwch chi’n ei dalu).

Ewch â chymaint o ddogfennau ag y gallwch chi gyda chi fel y gall y person sy’n eich cyfweld weld eich bod chi’n hunangyflogedig. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai y bydd rhaid i chi edrych am waith arall yn ystod yr amser y byddwch chi’n derbyn Credyd Cynhwysol.

Os oes gennych chi blant

Bydd angen i chi fynd â’r canlynol gyda chi:

  • tystysgrifau geni eich plant – os ydych chi wedi colli un, gallwch chi archebu tystysgrif geni newydd ar GOV.UK ond bydd angen i chi dalu ffi amdani
  • tystiolaeth o unrhyw gostau gofal plant – fel anfoneb neu dderbynneb gan feithrinfa neu warchodwr plant cofrestredig
  • eich cyfeirnod Budd-dal Plant

Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyfeirnod ar unrhyw lythyrau sydd gennych chi am Fudd-dal Plant. Mae’r cyfeirnod yn dechrau gyda 'CHB' ac yn cynnwys 8 rhif a 2 lythyren - fel: 'CHB12345678 AB'.

Ffoniwch y Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych chi’n gwybod y cyfeirnod.

Llinell gymorth Budd-dal Plant

Ffôn: 0300 200 3100

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 8pm

Dydd Sadwrn, 8am tan 4pm

Ffôn testun: 0300 200 3103

Gwefan: www.gov.uk/browse/benefits/child

Gall galwadau i’r rhif hwn gostio hyd at 9c y funud o linell dir, neu rhwng 3c a 55c y funud o ffôn symudol – gall eich cyflenwr ffôn ddweud wrthych chi faint y byddwch chi’n ei dalu.

Os nad yw’r dogfennau iawn gennych chi

Peidiwch â phoeni os nad yw’r holl ddogfennau sydd eu hangen arnoch chi gennych chi – ewch â chymaint ag y gallwch chi gyda chi.

Byddwch chi’n dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol, ond bydd angen i chi ateb mwy o gwestiynau pan fyddwch chi’n mynd i’r Ganolfan Waith ar gyfer eich cyfweliad.

Ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol cyn eich cyfweliad ac esboniwch pam na fyddwch chi’n gallu dod â’r dystiolaeth iawn gyda chi. Efallai y gallwch chi gael mwy o amser, er enghraifft, os oes angen i chi archebu copïau newydd o unrhyw ddogfennau.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn yn ddi-dâl. Y peth gorau i’w wneud yw ffonio o’r rhif ffôn a roddoch chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau pan greoch chi eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Ni fydd rhaid i chi aros mor hir a byddwch chi’n cael eich trosglwyddo i’r un person ag y buoch chi’n siarad ag ef o’r blaen.

Meddyliwch am yr hyn y byddwch chi’n ei ddweud yn y cyfweliad

Bydd angen i chi gytuno pa dasgau gwaith sydd angen i chi eu gwneud yn gyfnewid am Gredyd Cynhwysol – gelwir hyn yn ‘ymrwymiad hawlydd’. Byddwch chi’n cytuno i hyn gyda’ch anogwr gwaith yn eich cyfweliad ac yn llofnodi os ydych chi’n cytuno.

Mae’n bwysig bod mor agored a gonest â phosibl am eich sefyllfa er mwyn i’ch anogwr gwaith ddeall beth rydych chi’n gallu a ddim yn gallu ei wneud.

Esboniwch pa waith rydych chi’n gallu ei wneud

Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi am eich sgiliau a’r math o swydd rydych chi’n chwilio amdani. Os oes gennych chi swydd, efallai y bydd disgwyl i chi chwilio am swydd â chyflog uwch neu weithio mwy o oriau. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi:

  • pa gymwysterau a phrofiad sydd gennych chi – ewch â’ch CV neu unrhyw dystysgrifau hyfforddiant neu gymwysterau gyda chi i’r cyfweliad
  • faint rydych chi eisiau ei ennill – dywedwch wrthyn nhw faint rydych chi wedi ei ennill mewn swyddi blaenorol
  • faint o oriau rydych chi’n gallu gweithio bob wythnos – rhowch reswm da i’ch anogwr gwaith os na allwch chi weithio’n llawn amser, fel os oes gennych chi broblemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu
  • ble y gallech chi weithio – esboniwch unrhyw beth sy’n cyfyngu ar eich gallu i deithio, er enghraifft, os nad oes gennych chi gar

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith am eich sefyllfa

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith am unrhyw beth sy’n effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith. Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd siarad am rai o’r pethau hyn, ond mae’n werth eu trafod gan eu bod nhw’n effeithio ar yr hyn y bydd rhaid i chi ei wneud i gael Credyd Cynhwysol.

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith:

  • os oes gennych chi blant
  • os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd
  • os ydych chi’n gofalu am rywun ag anabledd
  • os oedd gennych chi bartner, plentyn neu berson ifanc a fu farw yn y 6 mis diwethaf
  • os ydych chi’n derbyn triniaeth am broblem cyffuriau neu alcohol
  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen neu ysgrifennu
  • os ydych chi’n ddigartref
  • os oes rhaid i chi wasanaethu ar reithgor
  • os byddwch chi’n ei chael hi’n anodd talu costau teithio – efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gallu rhoi arian i chi i helpu

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith os ydych chi wedi dioddef trais domestig yn y 6 mis diwethaf – efallai na fydd rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion cysylltiedig â gwaith am 13 wythnos.

Cytunwch i’ch ymrwymiad hawlydd

Ar ôl i chi ddweud wrth eich anogwr gwaith am eich sefyllfa, bydd yn dweud wrthych chi ym mha ‘grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’ y byddwch chi. Mae gan bob grŵp wahanol dasgau i baratoi ar gyfer gwaith – gallai’r rhain fod yn wneud cais am swyddi neu ddiweddaru eich CV.

Grŵp Beth y bydd angen i chi ei wneud
Grŵp dim gofynion cysylltiedig â gwaith Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i baratoi na chwilio am waith
Grŵp cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith  Rhaid i chi fynd i gyfarfodydd rheolaidd gyda’ch anogwr gwaith
Grŵp paratoi ar gyfer gwaith Rhaid i chi gyfarfod â’ch anogwr gwaith yn rheolaidd a pharatoi ar gyfer gwaith. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ysgrifennu CV a chael hyfforddiant neu brofiad gwaith
Grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith Rhaid i chi wneud popeth allwch chi i ddod o hyd i swydd neu ennill mwy o arian. Mae hyn yn cynnwys chwilio am swyddi, gwneud cais am swyddi a mynd i gyfweliadau

Bydd eich anogwr gwaith yn ysgrifennu eich tasgau ar eich ymrwymiad hawlydd.

Gofalwch fod eich ymrwymiad hawlydd yn iawn i chi

Peidiwch â llofnodi eich ymrwymiad hawlydd os ydych chi’n teimlo na allwch chi wneud unrhyw un o’r tasgau arno. Os byddwch chi’n cytuno i’r ymrwymiad hawlydd ac yn methu â gwneud y tasgau, gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu hatal.

Byddwch yn onest gyda’ch anogwr gwaith ac esboniwch iddo pam y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd cwblhau’r tasgau. Gofynnwch iddo ystyried eich rhoi chi mewn ‘grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’ arall.

Rhaid i’ch anogwr gwaith ystyried eich ceisiadau a bod yn rhesymol. Os na fydd yn newid eich ymrwymiad hawlydd, gallwch chi ofyn am i aelod arall o staff adolygu’r penderfyniad.

Gallwch chi gymryd hyd at wythnos i benderfynu a yw’r ymrwymiad hawlydd yn iawn i chi. Gofalwch eich bod chi’n dweud wrth eich anogwr gwaith beth rydych chi wedi ei benderfynu o fewn wythnos. Os na fyddwch chi’n dweud wrtho mewn pryd, bydd yn cau eich hawliad.

Os ydych chi angen help i gael eich ymrwymiad hawlydd yn iawn, siaradwch â chynghorydd.

Gofynnwch am y Gronfa Cymorth Hyblyg

Mae’r Gronfa Cymorth Hyblyg yn arian y gallech chi ei gael i’ch helpu chi i dalu am bethau fel:

  • costau teithio
  • cyrsiau hyfforddiant
  • costau gofal plant
  • ffôn symudol
  • dillad cyfweliad

Ni fydd angen i chi ad-dalu’r arian. Gofalwch eich bod chi’n dweud wrth eich anogwr gwaith pam y byddai’n helpu gan nad oes rhaid iddo ei roi i chi.

Bydd angen i chi lofnodi eich ymrwymiad hawlydd a dim ond ar gyfer rhywbeth a gytunwyd gyda’ch anogwr gwaith y gallwch chi ddefnyddio’r arian.

Ar ôl eich cyfweliad

Fel arfer, byddwch chi’n cael eich taliad cyntaf 5 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich hawliad ar-lein.

Os nad ydych chi wedi anfon eich holl dystiolaeth neu os nad ydych chi wedi cytuno i’ch ymrwymiad hawlydd, gwnewch hyn cyn gynted â phosibl – os na fyddwch chi’n gwneud hynny, efallai y bydd rhaid i chi wneud hawliad newydd.

Os nad ydych chi’n credu y bydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno wrth aros am eich taliad cyntaf, gallwch chi ofyn am ragdaliad Credyd Cynhwysol.  Benthyciad yw’r rhagdaliad - bydd rhaid i chi ei ad-dalu, ond ni fydd angen i chi dalu unrhyw log. Dysgwch sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os bydd unrhyw beth yn newid rhwng eich cyfweliad a’ch taliad cyntaf, er enghraifft, os byddwch chi’n cael swydd newydd neu’n symud tŷ. Gwiriwch pa newidiadau mae angen i chi roi gwybod amdanyn nhw.

Gwiriwch pa fudd-daliadau eraill y gallwch chi eu cael

Efallai y byddwch chi’n gallu cael budd-daliadau eraill hefyd – er enghraifft, os ydych chi’n ofalwr neu os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir.

Gallwch chi ddefnyddio’r teclynnau cyfrifo budd-daliadau am ddim Turn2us neu Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael. Bydd angen i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig i ddefnyddio’r cyfrifydd.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon neges i’ch cyfrif ar-lein os bydd eich cais yn aflwyddiannus. Gallwch chi ofyn iddyn nhw ailystyried y penderfyniad os ydych chi’n meddwl ei fod yn anghywir.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)