Cael blaenswm cyllidebu Credyd Cynhwysol
Efallai y gallwch gael benthyciad fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol os ydych chi angen talu costau penodol - ‘blaenswm cyllidebu’ yw’r enw ar hyn.
Os ydych chi’n cael blaenswm cyllidebu, fel arfer byddwch yn cael taliadau Credyd Cynhwysol gostyngol hyd nes y byddwch wedi talu’r benthyciad yn ôl. Fel arfer bydd hyn dros 12 mis.
Gallwch wneud cais am flaenswm cyllidebu i dalu am bethau fel:
- eitem unigol – e.e. prynu oergell newydd i gymryd lle hen un sydd wedi torri
- costau annisgwyl – e.e. bil annisgwyl
- costau cysylltiedig â gwaith – e.e. prynu gwisg neu gelfi
- atgyweiriadau yn eich cartref
- costau teithio
- costau mamolaeth
- costau angladd
- costau symud neu flaendal rhent
- eitemau hollbwysig, fel dillad
Os ydych chi wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ond heb gael eich taliad cyntaf eto, mae angen i chi gael taliad ymlaen llaw yn hytrach na blaendal cyllidebu.
Pryd allwch chi gael blaenswm cyllidebu
Os nad ydych chi angen yr arian ar gyfer costau cysylltiedig â gwaith, fel tocynnau trên i gyfweliadau swydd, bydd angen i chi fod wedi hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau hyn am 6 mis neu fwy:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n dibynnu ar brawf modd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n dibynnu ar brawf modd
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
Bydd angen i chi hefyd fod wedi ennill llai na £2,600 yn y 6 mis cyn eich cais. £3,600 yw’r ffigur os ydych chi’n gwpwl.
Ni allwch gael blaenswm cyllidebu os ydych chi neu’ch partner yn dal i dalu blaenswm cyllidebu blaenorol.
Faint allwch chi ei fenthyg
Y blaenswm cyllidebu lleiaf y gallwch ei gael yw £100. Mae’r uchafswm yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch fenthyg hyd at:
- £348 os ydych chi’n sengl a heb blant
- £464 os ydych chi mewn cwpwl heb blant
- £812 os oes gennych chi blant
Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf
Mae cyfalaf yn cynnwys unrhyw gynilion, a rhai mathau o eiddo.
Os oes gennych chi fwy na £1,000 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Gwaith yn gostwng eich blaenswm cyllidebu o’r swm dros ben.
Er enghraifft, os oes gennych chi £1,250 mewn cyfalaf, bydd y Ganolfan Gwaith yn gostwng eich blaenswm cyllidebu o £250.
Gwneud cais am flaenswm cyllidebu
Bydd angen i chi wneud cais am flaenswm cyllidebu dros y ffôn. I benderfynu a ydych chi’n gymwys, a faint y gallwch chi ei gael, bydd cynghorwr yn edrych ar:
- allwch chi fforddio talu’r benthyciad yn ôl – byddant yn gweld a oes gennych chi unrhyw ddyledion a faint o ddyled sydd gennych chi i helpu i gyfrifo hyn
- faint sydd gennych chi mewn cynilion
Fel arfer cewch y penderfyniad ar yr un diwrnod.
Mae’r rhif sydd angen i chi ei ffonio yn dibynnu ar sut rydych chi’n rheoli eich cais Credyd Cynhwysol fel arfer.
Os ydych chi’n rheoli eich cais Credyd Cynhwysol dros y ffôn
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)
Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim.
Os oes gennych chi gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth llawn)
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim. Gorau oll os gallwch chi ffonio o'r rhif i chi ei roi i'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth agor eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd llai o aros a byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r un person i chi siarad ag ef yn ystod eich galwadau blaenorol.
Os gwrthodir blaenswm cyllidebu i chi
Ni allwch apelio os gwrthodir eich cais, ond gallwch ofyn am gael y penderfyniad wedi ei ailystyried. Bydd yn helpu os gallwch roi tystiolaeth newydd neu ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid ers eich cais cyntaf.
Os ydych chi angen arian, edrychwch i weld pa gymorth ychwanegol y gallwch ei gael.
Gallwch ddarllen mwy am gael cymorth gyda'ch costau byw, neu gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych chi mewn dyled neu ôl-ddyledion rhent
Mae rhai camau y gallwch eu cymryd i'ch helpu i ostwng eich dyled os ydych chi newydd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor ar ddelio â dyled.