Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’n anodd cyfrifo’ch union swm o’r Credyd Cynhwysol, ond gallwch gael syniad bras. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen ei gyfrifo’n fwy manwl.

Mae yna 5 cam:

  1. chwilio am eich swm safonol
  2. ychwanegu unrhyw symiau eraill y gallwch eu cael, megis tai neu ofal plant – ‘elfennau’ yw’r enw ar y rhain
  3. gwneud gostyngiadau ar gyfer eich incwm a’ch cyfalaf
  4. cael gwared ar unrhyw gosbau neu ostyngiadau eraill
  5. gweld a yw’r Cap Budd-daliadau’n berthnasol i chi

Gall eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis os ydych chi’n ennill swm gwahanol, neu os yw’ch amgylchiadau’n newid.

Os ydych chi'n hunangyflogedig

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid bob mis yn dibynnu ar eich enillion ac amgylchiadau eraill. Bydd y swm a gewch yn dibynnu hefyd ar a ydych chi mewn cwpwl neu a oes gennych chi blant.

Gall eich taliad gael ei effeithio gan y terfyn isafswm incwm hefyd - edrychwch i weld a yw'n berthnasol i chi.

Fyddwch chi ddim yn gallu gweld yn union faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael bob mis. Os hoffech chi syniad bras, gallwch ddefnyddio cyfrifydd budd-daliadau entitledto.

1. Chwilio am eich swm safonol

Mae eich swm safonol yn dibynnu ar eich oedran ac os ydych chi’n byw gyda’ch partner. Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd gennych hawliad ar y cyd a chewch un taliad i’w rannu.

Eich amgylchiadau Swm safonol
Sengl a dan 25 oed £251.77
Sengl a 25 oed neu drosodd £317.82
Hawliad ar y cyd, y ddau dan 25 oed £395.20
Hawliad ar y cyd, un neu’r ddau’n 25 oed neu drosodd £498.89

 Pan fyddwch chi’n troi’n 25 oed byddwch chi’n cael y cynnydd yn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch chi’n symud i mewn gyda’ch partner neu’n gwahanu oddi wrth eich partner - bydd eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf yn wahanol. Gallwch gael gwybod rhagor am roi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol.

2. Cyfrifo pa symiau eraill y gallwch eu cael

Gallwch chi gael symiau ychwanegol wedi’u hychwanegu at eich taliad Credyd Cynhwysol ar gyfer:

  • tai
  • plant
  • gofal plant
  • gofalu am rywun
  • methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd

‘Elfennau’ yw’r enw ar y symiau ychwanegol hyn, a gallwch gael mwy nag un ohonyn nhw. Maen nhw’n cael eu hychwanegu at eich swm safonol.

Os ydych chi’n talu rhent, morgais neu dâl gwasanaeth

Gall yr elfen costau tai dalu rhywfaint neu'r cyfan o'ch rhent neu dâl gwasanaeth. Bydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cyngor lleol.

Os oes gennych chi forgais neu fenthyciad cartref, mae'n bosibl y gallwch gael benthyciad i helpu i dalu'ch llog - nid yw hwn yn rhan o'r Credyd Cynhwysol.

I gael yr elfen tai mae angen i chi:

  • fod yn byw ym Mhrydain
  • bod yn talu'r costau tai ar gyfer ble rydych chi'n byw
  • bod yn 22 neu'n hŷn fel rheol

Os ydych chi rhwng 18 a 21 oed, ni allwch chi gael yr elfen tai fel rheol, ond gofynnwch i'r Ganolfan Waith a oes unrhyw eithriadau sy'n berthnasol i chi. Dywedwch wrth y Ganolfan Waith am eich costau tai hyd yn oed os nad oes eithriad yn berthnasol, oherwydd mae'n bosib y byddant yn newid y rheol hon yn y dyfodol.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os hoffech fwy o gyngor ynghylch eich costau tai.

Beth na fydd yr elfen tai yn talu amdano

Allwch chi ddim cael yr elfen tai ar gyfer:

  • dyledion os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent ar eich cartref presennol neu'ch cartref blaenorol
  • gofal cartref
  • rhent tir

Os ydych chi mewn tŷ dros dro neu dŷ argyfwng

Bydd angen i chi hawlio Budd-dal Tai os ydych chi'n gorfod byw i ffwrdd o'ch cartref arferol. Er enghraifft, gallech fod yn talu am loches ar ôl dioddef trais domestig.

Byddwch yn parhau i gael Credyd Cynhwysol ond byddwch yn cael taliad Budd-dal Tai ar wahân yn hytrach nag elfen tai Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi mewn cynllun rhanberchnogaeth

Byddwch chi'n talu morgais a rhent fel rheol. Gall Credyd Cynhwysol eich helpu gyda'r rhent, ond nid eich morgais. Bydd angen i chi weld os gallwch chi gael benthyciad i helpu gyda'r llog ar eich morgais.

Cael mwy o help gyda chostau tai

Gallwch gael help gyda chostau rhentu preifat neu help gyda'r rhent ar gyfer eich tŷ cyngor.

Mae'n bosib y gallech gael arian ychwanegol gan y cyngor os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau neu os nad yw'ch elfen tai yn talu'ch rhent i gyd.

Os oes gennych chi blant

Byddwch yn cael yr elfen plant os ydych chi'n gfyrifol am blentyn sy'n byw gyda chi fel rheol. Byddwch yn cael symiau ychwanegol ar gyfer ail blentyn ac os oes unrhyw un o'ch plant yn anabl.

Plentyn yw unrhyw un o dan 16 oed, neu rywun o dan 20 oed sydd mewn addysg lawn amser nad yw'n addysg uwch, er enghraifft, yn yr ysgol neu'r coleg.

Eich amgylchiadau Elfen plant
Eich plentyn hynaf, os cafodd ei eni cyn 6 Ebrill 2017 £277.08
Eich plentyn hynaf, os cafodd ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 £231.67
Eich ail blentyn - a phob plentyn cymwys wedi hynny £231.67
Os oes gan un o'ch plant anabledd £126.11
Os oes gan un o'ch plant anabledd difrifol £383.86

Cael taliad ar gyfer 3 neu fwy o blant

Fel rheol, byddwch chi ond yn cael taliad Credyd Cynhwysol ar gyfer 3 neu fwy o blant os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 a'ch bod yn hawlio Credyd Cynhwysol yn barod.

Mae rhai eithriadau -  gallech gael taliad ar gyfer 3 neu fwy o blant o hyd:

  • os yw'ch trydydd plentyn neu un wedyn yn anabl - rhaid ei fod yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) neu'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu fod wedi ei ardystio'n ddall
  • os ydych chi'n cael genedigaeth luosog - os oes gennych chi blant eraill a anwyd cyn 6 Ebrill 2017 fyddwch chi ddim yn cael taliad ar gyfer y plentyn cyntaf mewn genedigaeth luosog
  • os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn o'r DU (oni bai eich bod chi'n llys riant i'r plentyn yn union cyn ei fabwysiadu)
  • os ydych chi'n gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant gofal ffurfiol
  • os ydych chui'n gofalu am blentyn rhywun arall mewn trefniant gofal anffurfiol lle byddai'r plentyn mewn gofal fel arall
  • os oes gennych chi blentyn o ganlyniad i gael eich treisio neu o berthynas lle'r oedd eich partner yn ceisio'ch rheoli - darllenwch i weld sut mae rhoi gwybod am hyn a chael cymorth os oes ei angen arnoch
  • os ydych chi'n gyfrifol am blentyn o dan 16 oed sydd â phlentyn ei hun a bod y ddau ohonynt yn byw gyda chi

Edrychwch ar yr eithriadau a gweld sut mae gwneud cais amdanynt ar GOV.UK.

Os oes gan unrhyw un o'ch plant anabledd

Byddwch yn cael taliad anabledd os oes gan unrhyw un o'ch plant anabledd. Fyddwch chi ddim yn cael eich effeithio gan yr uchafswm y gallwch ei gael mewn budd-daliadau - y 'cap budd-daliadau'.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys taliad anabledd ar gyfer pob plentyn ag anabledd. Does dim gwahaniaeth faint o blant sydd gennych.

Byddwch yn cael yr elfen plentyn ag anabledd difrifol os yw un o'ch plant yn gallu cael naill ai:

  • elfen gofal cyfradd uwch Lwfans Byw i'w Anabl (os yw'ch plentyn yn iau na 16 oed)
  • cyfradd uwch y Taliad Annibyniaeth Personol (os yw'ch plentyn yn 16 oed neu'n hŷn)
  • neu ei fod wedi'i gofrestru'n ddall

Byddwch chi'n cael yr elfen plentyn anabl os yw un o'ch plant yn gallu cael naill ai:

  • Lwfans Byw i'r Anabl heb yr elfen gofal cyfradd uwch
  • Taliad Annibyniaeth Personol heb y gyfradd uwch

Os ydych chi’n talu am ofal plant

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gynnwys 85% o'ch costau gofal plant. Allwch chi ddim cael hwn os nad yw'ch darparwr gofal plant wedi'i gofrestru neu os yw'ch cyflogwr yn talu am eich gofal plant.

Y mwyaf y gallwch chi ei gael yw £646.35 y mis ar gyfer 1 plentyn neu £1,108.04 y mis ar gyfer 2 neu fwy o blant.

Gallwch hawlio costau gofal plant os ydych chi:

  • yn gweithio am dâl
  • yn mynd i ddechrau gweithio am dâl yn y mis nesaf
  • wedi gadael swydd lai na mis yn ôl
  • ar absenoldeb salwch
  • ar unrhyw fath o absenoldeb rhiant

Mae'ch plentyn yn gymwys i gael costau gofal plant hyd at 1 Medi ar ôl ei benblwydd yn 16 oed.

Os ydych chi'n byw gyda'ch partner bydd angen i'r ddau ohonoch fod yn gweithio i gael costau gofal plant - oni bai na all eich partner ddarparu gofal plant am y rhesymau isod:

Rhoi gwybod am gostau gofal plant

Bob mis bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau faint rydych chi wedi ei dalu am ofal plant. Bydd 85% o'r swm yn cael ei ychwanegu at eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Gofynnwch i'ch darparwr gofal plant am ei rif cofrestru - rhowch hwn i'r Adran Gwaith a Phensiynau pan fyddwch chi'n rhoi gwybod am y costau gofal plant.

Rhowch wybod am eich costau cyn gynted â phosib i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr arian yn ôl. Mae'r dyddiad hwyraf gallwch chi roi gwybod am y costau, a sut mae gwneud hynny, yn dibynnu ar a oes gennych gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, dylech ei ddefnyddio i roi gwybod am eich costau gofal plant. Bydd angen i chi roi gwybod am bob taliad cyn y diwrnod rydych chi'n cael eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, rhowch wybod am eich costau gofal plant drwy ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol (gwasanaeth byw)

Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm

Mae galwadau i'r rhifau hyn am ddim.

Mae gennych chi hyd at fis ar ôl eich taliad Credyd Cynghwysol nesaf i roi gwybod am bob taliad gofal plant.

Os byddwch chi'n rhoi gwybod am eich costau gofal plant yn hwyr, dywedwch wrth y Ganolfan Waith pan na lwyddoch chi i roi gwybod amdanynt ar amser - er enghraifft, os oeddech chi'n sâl neu i ffwrdd. Byddwch yn cael eich talu o hyd os ydynt yn cytuno nad oedd modd i chi roi gwybod iddynt yn gynharach.

Os ydych chi’n sâl neu’n anabl

Gallech gael taliad ychwanegol os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n golygu na allwch chi weithio. Bydd angen i chi ddangos i'r Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych chi 'allu cyfyngedig i weithio' neu 'allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith'.

Dim ond 1 taliad ychwanegol fyddwch chi'n ei gael os ydych chi a'ch partner yn sâl neu'n anabl.

Os ydych chi'n cael taliad am fod yn ofalwr allwch chi ddim cael taliad ar gyfer salwch neu anabledd hefyd - byddwch yn cael p'un bynnag sydd fwyaf.

Faint fyddwch chi'n ei gael

Os oes gennych chi allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, byddwch yn cael £328.32 y mis yn ychwanegol, ac ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod uchafswm ar gyfer yr hyn y gallwch chi ei gael mewn budd-daliadau -  y 'Cap Budd-daliadau'.

Gan amlaf, ni fyddwch yn cael arian ychwanegol os oes gennych chi allu cyfyngedig i weithio. Yr eithriad yw y byddwch yn cael £126.11 yn ychwanegol os ydych chi wedi bod yn sâl ers cyn 3 Ebrill 2017 a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau eisoes wedi dweud bod gennych chi allu cyfyngedig i weithio. Gallai hyn fod wedi bod at ddibenion Credyd Cynhwysol neu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Pryd fyddwch chi'n cael y swm ychwanegol

Bydd y swm ychwanegol yn dechrau yn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf os oedd gennych chi allu cyfyngedig i weithio neu i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith o hawliad blaenorol am fudd-daliadau.

Fel arall, byddwch yn cael y taliad ychwanegol o 3 mis ar ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno bod gennych allu cyfyngedig i wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Os bydd yn cymryd mwy o amser na hyn, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ôl-ddyddio eich taliad fel nad ydych chi ar eich colled.

Os ydych chi’n ofalwr

Byddwch yn cael £156.45 y mis yn ychwanegol os ydych chi'n gofalu am rywun ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos.

Mae'n werth dweud wrth y sawl rydych chi'n gofalu amdano am eich hawliad - gallai golli rhai o'i fudd-daliadau os ydych chi'n cael y swm ychwanegol.

Fyddwch chi ddim yn cael arian ychwanegol os ydych chi'n cael eich cyflogi fel gofalwr.

Rhaid bod y sawl rydych chi'n gofalu amdano yn cael un o'r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Gofalwyr
  • cyfradd safonol neu uwch elfen byw dyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
  • elfen gofal cyfradd uchaf neu ganol Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweini Cyson sy'n cael ei dalu gyda phensiwn anabledd rhyfel neu fudd-daliadau anafiadau diwydiannol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Allwch chi ddim cael taliad gofalwr yn ogystal â thaliad ar gyfer salwch neu anabledd - byddwch yn cael p'un bynnag sydd fwyaf.

Os oes gennych chi hawliad ar y cyd, gallwch gael 2 daliad gofalwr os ydych chi a'ch partner yn gofalu am bobl wahanol.

Os oes rhywun arall yn gofalu am yr un person, ni all y ddau ohonoch gael budd-daliadau am ofalu amdano. Dim ond un ohonoch all gael Lwfans Gofalwyr neu elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.

3. Gwneud gostyngiadau ar gyfer eich incwm a’ch cyfalaf

Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n cael arian am weithio neu o ffynonellau eraill, neu os oes gennych fwy na £6,000 mewn cynilion.

Gwirio effaith eich enillion am weithio

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer enillion os ydych chi’n hunangyflogedig. Gallwch gael gwybod rhagor am gael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n hunangyflogedig.

Mae eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill mwy - ni fydd yn stopio’n sydyn os bydd eich cyflog neu’ch oriau’n cyrraedd lefel benodol.

Mae pob £1 lawn rydych chi neu’ch partner yn ei hennill yn golygu gostyngiad o 63c yn eich Credyd Cynhwysol.

Gallwch gael rhywfaint o incwm heb leihau eich taliad Credyd Cynhwysol os ydych chi’n gyfrifol am blentyn neu os oes gennych allu cyfyngedig i weithio. ‘Lwfans gwaith’ yw’r enw ar hyn.

Mae maint eich lwfans gwaith yn dibynnu a ydych chi’n derbyn elfen tai’r Credyd Cynhwysol hefyd:

Eich sefyllfa  Eich lwfans gwaith
Rydych chi’n derbyn yr elfen tai £198
Dydych chi ddim yn derbyn yr elfen tai  £409

Enghraifft

Mae Zoe’n ennill £900 y mis. Heb lwfans gwaith, mae ei holl incwm yn gostwng ei Chredyd Cynhwysol 63c am bob £1 mae hi’n ei ennill. Byddai hyn yn lleihau ei Chredyd Cynhwysol fel hyn: 900 x 63p = £567.

Mae hi’n gofalu am ei phlentyn ifanc, ac nid yw’n cael elfen tai’r Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu ei bod yn derbyn lwfans gwaith o £409.

Mae’r lwfans gwaith yn golygu bod £409 o incwm Zoe yn cael ei anwybyddu, gan adael £491 a fydd yn lleihau ei thaliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu bod ei thaliad yn cael ei ostwng fel hyn: 491 x 63p = £309.33.

Mae enillion o weithio’n golygu’r holl dâl rydych chi’n ei gael i fynd adref, gan gynnwys:

  • cyflog a goramser
  • unrhyw gildwrn a chomisiwn
  • unrhyw daliadau bonws
  • tâl gwyliau
  • tâl salwch
  • tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu gyflog rhiant a rennir

Does dim angen i chi gynnwys:

  • arian rydych chi’n ei dalu fel treth incwm
  • arian rydych chi’n ei dalu fel yswiriant gwladol dosbarth 1
  • arian rydych chi’n ei dalu i mewn i bensiwn
  • treuliau
  • lwfansau milltiroedd
  • talebau gofal plant a thalebau eraill nad ydynt yn arian parod

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n cyfrifo’ch enillion ar gyfer pob taliad Credyd Cynhwysol misol, hyd yn oed os nad yw eich swydd yn eich talu’n fisol. Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n dechrau neu’n gadael swydd – mwy o wybodaeth am newidiadau y dylech roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau amdanynt.

Gweld a yw’ch cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth

Os oes gennych fwy na £6,000 o gyfalaf bydd yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn didynnu £4.35 y mis am bob £250 (neu ran o £250) o gyfalaf uwchlaw £6,000.

Ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol mwyach os oes gennych £16,000 neu fwy o gyfalaf.

Mae cyfalaf yn cynnwys pethau fel cynilion, llog, eiddo a chyfranddaliadau. Nid yw’n cynnwys:

  • eiddo personol
  • asedau busnes
  • eich cartref, os yw’n eiddo i chi

Enghraifft

Mae gan Niamh gynilion o £7,700. Mae hyn yn £1,700 dros £6,000 - sef 6 cyfran lawn o £250 ac un £250 rhannol. Mae hyn yn golygu bod ei chynilion yn lleihau ei Chredyd Cynhwysol fel hyn: 7 x £4.35 = £30.45

Didynnu rhai mathau eraill o incwm

Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan yr un swm a gewch o rai mathau o incwm. Maen nhw’n cynnwys:

  • pensiynau neu flwydd-daliadau
  • taliadau cynhaliaeth gan bartner presennol neu gynbartner (ond nid taliadau cynhaliaeth plant - nid yw hyn byth yn lleihau eich Credyd Cynhwysol)
  • taliadau yswiriant
  • rhai budd-daliadau, megis Lwfans Gofalwr, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Mamolaeth, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Ceisio Gwaith

Does dim angen i chi ddidynnu incwm o rai budd-daliadau, gan gynnwys:

  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • pensiynau rhyfel

Os yw’ch incwm a’ch cyfalaf yn lleihau eich taliad i sero 

Bydd hyn yn dod â’ch hawliad Credyd Cynhwysol i ben - bydd y Ganolfan Waith yn dweud wrthych chi os bydd hyn yn digwydd.

Bydd angen i chi gyflwyno hawliad newydd os bydd eich enillion yn disgyn wedi hynny a’ch bod am gael Credyd Cynhwysol eto. Gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein unwaith eto. Os nad oes gennych gyfrif Credyd Cynhwysol efallai y bydd angen i chi hawlio budd-daliadau eraill yn lle hynny - edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

4. Cael gwared ar gosbau a gostyngiadau eraill

Gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau ddidynnu arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol ar gyfer:

  • arian mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i roi’n gynnar i chi, megis blaenswm neu ragdaliad cyllidebu
  • cosbau
  • gordaliadau
  • taliadau cynhaliaeth plant
  • talu dyledion am filiau cyfleustodau
  • twyll budd-daliadau

Gallwch gael gwybod rhagor am ostyngiadau i’ch taliad Credyd Cynhwysol.

5. Cymhwyso’r Cap Budd-daliadau

Os yw gweddill eich taliad dros swm penodol, gallai’r Adran Gwaith a Phensiynau ei leihau er mwyn ei ostwng i uchafswm o’r enw ‘Cap Budd-daliadau’.

Gweld a fydd y Cap Budd-daliadau’n effeithio arnoch chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)