Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Symud o Lwfans Byw i’r Anabl i PIP

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

PIP (Taliad Annibyniaeth Personol) yw’r budd-dal sy’n cymryd lle’r DLA (Lwfans Byw i’r Anabl) yn raddol.

Byddwch yn parhau i gael DLA os oeddech chi’n 65 oed neu’n hŷn ar 8 Ebrill 2013. I bawb arall 16 oed a throsodd, bydd DLA yn dod i ben a bydd angen i chi hawlio PIP yn lle – hyd yn oed os ydych chi wedi cael dyfarniad ‘oes’ neu ‘amhenodol’ ar gyfer DLA.

Fyddwch chi ddim yn symud i PIP yn awtomatig. Byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gofyn i chi wneud hawliad newydd.

Mae’n bwysig eich bod chi’n llenwi’r ffurflenni hawlio’n gywir fel eich bod chi’n cael y swm cywir o PIP. Siaradwch â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen help i wneud hyn.

Symud o DLA i PIP os oes gennych chi salwch angheuol

Os oes gennych chi salwch angheuol a’ch bod wedi cael PIP ar gyfradd uwch na’ch DLA, byddwch yn cael y swm hwnnw o’r cynharaf o’r dyddiadau hyn:

  • diwrnod olaf eich cyfnod o daliadau DLA
  • y dydd Mawrth cyntaf yn dilyn eich penderfyniad PIP

Pryd fyddwch chi’n dechrau hawlio PIP

Byddwch yn cael cais i hawlio PIP pan fydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd:

  • mae’ch DLA yn dod i ben oherwydd iddo gael ei ddyfarnu am gyfnod penodol – e.e. am 5 mlynedd
  • rydych chi’n troi’n 16
  • mae’ch cyflwr yn newid
  • mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi hawlio

Gallech golli’ch DLA os ydych chi’n hawlio’n rhy gynnar. Siaradwch â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl hawlio cyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ofyn i chi wneud hynny.

Pan gewch chi lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Bydd angen i chi hawlio PIP o fewn 4 wythnos neu bydd eich DLA yn cael ei atal.

Ffoniwch y llinell hawlio PIP os oes angen mwy o amser arnoch chi. Gallai Adran Gwaith a Phensiynau roi estyniad i chi a pharhau i dalu’ch DLA.

Os ydych chi’n colli’r dyddiad cau a bod eich taliadau’n cael eu hatal, bydd angen i chi hawlio PIP o fewn 4 wythnos o ddechrau’r cyfnod atal neu bydd eich DLA yn cael ei atal yn gyfan gwbl.

Llinell hawlio PIP
Ffôn: 0800 917 2222
Ffôn testun: 0800 917 7777
Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Sut i baratoi ar gyfer hawlio PIP

Bydd llawer o bobl sy’n cael DLA yn gymwys i gael PIP ond does dim sicrwydd o hynny. I roi’r siawns gorau i chi’ch hun o gael PIP ar y gyfradd sydd ei hangen arnoch, mae’n werth:

  • edrych ar eich ffurflenni hawlio DLA – mae’r ffurflen hawlio PIP yn gwbl wahanol ond efallai bydd rhai o’r manylion i chi eu defnyddio wrth hawlio DLA yn ddefnyddiol
  • ceisio cael tystiolaeth feddygol o sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch – gallwch siarad â’ch meddyg ac unrhyw arbenigwyr meddygol eraill
  • cadw dyddiadau eich diwrnodau da a drwg – defnyddiwch ein dyddiadur templed [ 78 kb] i gael syniad o beth fyddwch chi’n cael eich asesu arno
  • creu rhestr o fanylion unrhyw gymhorthion neu ddyfeisiau rydych chi’n eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd –fyddech chi ddim wedi cael eich holi am hyn wrth hawlio DLA

Sut i ddechrau’ch cais am PIP

Gallwch ddechrau’ch cais am PIP drwy ffonio’r llinell hawlio PIP.

Os ydych chi’n mynd i golli’r dyddiad cau o fewn 4 wythnos, ffoniwch y llinell hawlio ac eglurwch pam.

Llinell hawlio PIP
Ffôn: 0800 917 2222
Ffôn testun: 0800 917 7777
Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Ar ôl i chi ffonio i hawlio

Byddwch yn cael pecyn gwybodaeth a ffurflen gais gan yr Adran Gwaith a Phensiynau – o fewn pythefnos fel rheol.

Dim ond 4 wythnos sydd gennych i lenwi’r ffurflen. Siaradwch â’ch chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen cymorth i wneud hyn neu dilynwch ein canllaw ar hawlio.

Dylech drefnu gweld meddyg neu arbenigwyr meddygol eraill cyn gynted â phosib, i gael y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer eich cais.

Os na allwch chi gael apwyntiad mewn pryd, peidiwch ag oedi’ch cais. Dylech anfon unrhyw dystiolaeth sydd gennych yn barod, er enghraifft, llythyron diweddar gan yr ysbyty sy’n disgrifio sut mae’ch cyflwr ar hyn o bryd.

Os oes gennych chi gerbyd Motability

Bydd eich symudedd yn cael ei ailasesu pan fyddwch chi’n symud i PIP. Fyddwch chi ddim yn gymwys am y Cynllun Motability oni bai eich bod chi’n cael y gyfradd uwch ar gyfer symudedd.

Mae’n anoddach cael y gyfradd hon ar PIP, ac mae hynny’n golygu efallai na fyddwch yn gallu cadw’ch cerbyd.

Gallwch siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Bydd yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cynnwys y manylion cywir yn eich hawliad i gael y gyfradd sydd ei hangen arnoch.

Os na chewch chi’r gyfradd uwch, bydd rhaid i chi ddychwelyd eich cerbyd.

Os gofynnir i chi ddychwelyd eich cerbyd Motability

Dylech ddychwelyd eich cerbyd o fewn 8 wythnos i’ch taliadau DLA ddod i ben – neu 26 wythnos os gwnaethoch chi ymuno â Motability cyn 2014.

Efallai y bydd gennych chi hawl i gael taliad untro gan Motability pan fyddwch chi’n dychwelyd eich cerbyd, yn dibynnu ar ei gyflwr a phryd wnaethoch chi ymuno â Motability. Os byddwch chi’n cadw’ch car am 26 wythnos yn lle 8 wythnos, byddwch yn cael taliad llai.

Os cawsoch chi gyfradd is na’r disgwyl, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried faint o PIP maen nhw wedi penderfynu ei roi i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 1 mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Dylech siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf cyn i chi ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailystyried oherwydd mae siawns bach y byddwch yn colli’r hyn rydych chi wedi ei gael.

Bydd dal angen i chi ddychwelyd eich cerbyd cyn y dyddiad cau tra’ch bod yn aros am benderfyniad.

Gallwch gael gwybodaeth gan Motability am ddychwelyd eich cerbyd a'r taliad, sef 'cymorth pontio'.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)