Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut i hawlio PIP os oes gennych chi salwch angheuol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os oes gennych chi salwch angheuol a’ch bod rhwng 16 a 64 oed, dylech gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Mae yna lai o waith papur a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn prosesu’ch cais yn gyflym fel na fydd rhaid i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb a dylech gael eich taliad cyntaf o fewn 2 wythnos i gyflwyno’ch cais.

Rheolau cymhwyster os oes gennych chi salwch angheuol

I gael PIP:

  • rhaid i chi fod rhwng 16 a 64 oed
  • rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban pan fyddwch yn gwneud cais amdano fel arfer
  • rhaid bod eich meddygon o’r farn bod gennych chi 6 mis neu lai i fyw

Bydd mwy o reolau’n berthnasol i chi os nad ydych chi'n ddinesydd y DU.

Sut i hawlio

I hawlio, ffoniwch linell hawlio PIP a threfnwch i’ch meddyg neu ymgynghorydd anfon ffurflen feddygol o’r enw DS1500 i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Ni fydd angen i chi gael asesiad iechyd neu gwblhau ffurflen hawlio PIP yn disgrifio sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi.

Bydd gennych chi hawl i’r gyfradd uwch o elfen byw dyddiol PIP ar unwaith. Does dim rhaid i chi aros 3 mis i’r cyfnod cymhwyso PIP ddod i ben.

Fyddwch chi ddim yn cael elfen symudedd PIP yn awtomatig. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n cael trafferth wrth symud o gwmpas neu fynd allan y rhan fwyaf o’r amser. Er enghraifft, dywedwch wrthynt pa mor bell a pha mor gyflym rydych chi’n gallu cerdded cyn i’r problemau hyn ddechrau.

Dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os na allwch chi gerdded heb boen, heb fynd allan o wynt neu heb help
  • os ydych chi angen cadair olwyn, ffon neu gymorth arall
  • os yw straen a gorbryder yn ei gwneud hi’n anodd i chi fynd allan

Gallwch weld beth mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau ei wybod am broblemau gyda:

Werth gwybod

Gall rhywun arall hawlio ar ran person â salwch angheuol. Er enghraifft, oherwydd nad yw’r person yn gwybod bod ganddo salwch angheuol. Os ydych chi’n gwneud hyn, dywedwch wrth y person fod cais am PIP yn cael ei wneud, hyd yn oed os nad yw’n gwybod mai’r rheswm am hynny yw bod ganddo salwch angheuol.

Llinell hawlio PIP

Ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gwybodaeth fyddwch chi ei hangen cyn ffonio

Dylai gymryd llai na 20 munud i gwblhau’r alwad. Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn
  • eich rhif yswiriant gwladol
  • manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • eich cenedligrwydd neu statws mewnfudo
  • manylion cyswllt eich meddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n eich gweld
  • os ydych chi wedi aros mewn ysbyty neu fath arall o ofal preswyl, y dyddiadau a’r manylion
  • os ydych chi wedi bod dramor am 4 wythnos neu fwy yn y 3 blynedd diwethaf (y dyddiadau a’r rheswm)
  • os ydych chi wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) – efallai na fydd angen iddynt weld y DS1500 os ydych chi wedi ei anfon i hawlio ESA

Pan fyddwch yn ffonio, bydd y cynghorydd yn gofyn cwestiynau i chi ynghylch pa mor anodd yw hi i chi symud o gwmpas. Er enghraifft, eich gallu i ddilyn llwybr, ac a oes angen help arnoch i gyrraedd pen eich taith. Diben hyn yw gweld a allwch chi gael rhagor o PIP i’ch helpu gyda’ch anghenion symudedd.

Cael eich adroddiad meddygol DS1500

Bydd angen i chi anfon adroddiad meddygol o’r enw DS1500 i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dim ond eich meddyg neu ymgynghorydd all gwblhau’r adroddiad hwn. Does dim rhaid i chi dalu amdano. Os ydych chi yn Lloegr neu’r Alban, gofynnwch iddo e-bostio’r DS1500 i’r Adran Gwaith a Phensiynau i arbed amser.

Werth gwybod

Peidiwch ag oedi’ch cais drwy aros am yr adroddiad DS1500. Gwnewch eich hawliad cyn gynted â phosib ac anfonwch yr adroddiad DS1500 maes o law. Os ydych chi wedi defnyddio DS1500 ar gyfer hawliad ESA yna dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau oherwydd mae’n bosib na fydd angen iddynt weld DS1500 arall.

Cyfeiriad ar gyfer anfon yr adroddiad DS1500

Rhadbost
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
PIP 10

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)