Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cwyno i’r ombwdsmon telathrebu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad yw eich cwyn i’ch darparwr teledu, ffôn neu ryngrwyd wedi llwyddo, gallwch drosglwyddo’r gwyn i ombwdsmon telathrebu a all eich helpu.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth y gall ombwdsmon ei wneud drosoch chi a sut i gysylltu â nhw.

Gair o gyngor

Os nad yw eich darparwr gwasanaeth yn aelod o ombwdsmon, gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach drwy wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio gwasanaeth datrys anghydfod arall
  • defnyddio gwasanaeth cyflafareddu
  • mynd â’r darparwr i’r llys.

Mynd â masnachwr i’r llys

Defnyddio cyflafareddu i ddatrys eich problem fel defnyddiwr

Defnyddio gwasanaeth datrys arall i ddatrys eich problem fel defnyddiwr

Cyn cyflwyno cwyn i ombwdsmon

Cyn i chi allu cwyno i’r ombwdsmon, rhaid i chi geisio dod i gytundeb gyda’ch darparwr gwasanaeth yn uniongyrchol yn gyntaf. Mae angen i chi gael llythyr o sefyllfa ddiddatrys oddi wrth y darparwr gwasanaeth yn cadarnhau nad yw’n barod i ddatrys y sefyllfa yn y ffordd rydych chi’n ei ddymuno.

Sut gall ombwdsmon eich helpu chi

Sefydliad annibynnol yw ombwdsmon sy’n gallu eich helpu chi gyda’ch cwyn yn erbyn eich darparwr gwasanaeth. Gall gysylltu â’ch darparwr gwasanaeth ar eich rhan a cheisio datrys y broblem i chi. Gall hyn gymryd nifer o wythnosau.

Er mwyn i’r ombwdsmon eich helpu chi rhaid i’ch darparwr gwasanaeth fod yn aelod o’r cynllun ombwdsmon. I wybod a yw eich darparwr gwasanaeth yn aelod gallwch naill ai ddefnyddio’r cyfleuster chwilio aelodau ar wefan yr ombwdsmon neu gallwch holi’ch darparwr gwasanaeth.

Ombwdsmyn Telathrebu

Gwasanaethau Ombwdsmon: Cyfathrebu

Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn testun: 0330 440 1600
Fax: 0330 440 1615

Ebost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: www.os-communications.org

CISAS (Cynllun Dyfarnu Gwasanaeth Cyfathrebu a Rhyngrwyd)

Ffôn: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829

Ebost: info@cisas.org.uk
Gwefan: www.cisas.org.uk

NIACT (Pwyllgor Ymgynghorol Gogledd Iwerddon ar Delathrebu)

Ffôn: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024

Gwefan: www.ofcom.org.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)