Llythyr i gwyno am nwyddau diffygiol a brynwyd gan gwmni
Mae'r llythyr hwn yn berthnasol i nwyddau a brynwyd ar 1 Hydref 2015 neu ar ôl hynny.
Os gwnaethoch chi brynu'r nwyddau cyn 1 Hydref 2015, defnyddiwch ein llythyr i gwyno am nwyddau a brynwyd cyn 1 Hydref 2015.
Defnyddiwch y templed llythyr hwn i gwyno i fasnachwr am nwyddau diffygiol. Dylai helpu'r masnachwr i ddeall eich safbwynt a'i rwymedigaeth gyfreithiol i ddatrys y broblem.
Gallwch anfon y llythyr trwy'r post neu gopïo'r testun mewn e-bost. Os byddai'n well gennych siarad â'r masnachwr ar y ffôn neu'n bersonol, fe allech chi ei ddarllen iddynt.
Cyn i chi ddefnyddio'r templed hwn, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ein cyngor ar sut i ddychwelyd nwyddau diffygiol.