Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Hawlio iawndal gan gwmnïau dŵr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rhaid i gwmnïau dwr ddilyn rhai safonau penodol, sydd wedi eu gosod gan reoleiddiwr y diwydiant, Ofwat, ynglyn â phethau fel apwyntiadau, cwestiynau ynglyn â chyfrifon a tharfu ar gyflenwad dwr. Os nad yw cwmni'n cadw at y safonau hyn, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am y safonau y mae'n rhaid i gwmnïau dwr gadw atynt a phryd fedrwch chi hawlio iawndal.

Safonau y mae'n rhaid i  gwmnïau dwr gadw atynt

Rhaid i bob cwmni dwr ddilyn y cynllun gwarantu safonau a osodir gan OFWAT.  Os nad yw cwmni'n bodloni'r safonau hyn, efallai y byddwch yn medru hawlio iawndal.

Mae'r cynllun gwarantu safonau'n cynnwys safonau ynghylch sut mae'n rhaid i gwmni:

  • wneud apwyntiadau a chadw atynt
  • gadw'r pwysedd dwr yn iawn
  • ddelio gydag achosion o darfu ar gyflenwad
  • ateb cwestiynau ynglyn â chyfrifon a chwynion.

Nid yw'r safonau'n berthnasol mewn rhai achosion - er enghraifft, os yw'r broblem yn ganlyniad i dywydd garw iawn, gweithredu diwydiannol neu weithredoedd rhywun arall.

Mae gan rai cwmnïau safonau uwch na'r safonau lleiaf sy'n angenrheidiol o dan OFWAT. I ddarganfod os oes gan eich cwmni dwr safon gwasanaeth uwch na'r safonau sydd wedi eu gwarantu, holwch y cwmni neu borwch trwy eu gwefan.

Mewn rhai achosion, telir yr iawndal yn awtomatig, naill ai fel taliad i chi neu fel arian wedi'i gredydu i'ch cyfrif dwr.  Mewn achosion eraill, efallai y bydd yn rhaid i chi hawlio gan y cwmni dwr, yn ysgrifenedig, o fewn tri mis i'r digwyddiad.

Os oes arnoch arian ar eich biliau dwr, fe fydd yr iawndal yn dod oddi ar eich cyfrif bob tro.  

Os ydych yn gwsmer busnes, telir iawndal ar gyfradd uwch na'r swm a delir i gwsmeriaid domestig.

Apwyntiadau

Rhaid i gwmnïau dwr ddweud wrthych a yw'ch apwyntiad yn y bore neu'r prynhawn, a gallwch ofyn am apwyntiad o fewn bwlch o ddwy awr.

Os nad yw'r cwmni'n cadw at amser yr apwyntiad, rhaid iddo dalu £20 i chi o fewn deng niwrnod gwaith. Os nad yw'n eich talu ar amser, gallwch hawlio taliad ychwanegol o £10 o fewn tri mis.

Rhaid i gwmni hefyd eich talu os yw'n canslo'r apwyntiad gyda rhybudd o lai na 24 awr.

Dylech dderbyn iawndal awtomatig am apwyntiadau a fethwyd.

Pwysedd dwr isel

Fel arfer, dylai cwmnïau dwr gyflenwir dwr gyda phen statig o saith metr, o leiaf, os nad yw'r pwysedd isel yn ganlyniad i sychder neu waith cynnal a chadw hanfodol.

Os yw'r pwysedd yn disgyn yn is na hyn am awr neu fwy ar ddau achlysur, o leiaf,  mewn cyfnod o 28 niwrnod, mae gennych yr hawl i gael taliad neu gredyd o £25. Dim ond un taliad o £25 gellir ei gael mewn unrhyw un flwyddyn ariannol. Ni chewch unrhyw daliad os yw'r gostyngiad mewn pwysedd yn ganlyniad i weithredu diwydiannol neu weithredoedd rhywun heblaw'r cwmni dwr.

Dylai'r cwmni dwr dalu'r iawndal hyn i chi'n awtomatig. Ond, fe fydd yna adegau pan nad yw'n ymarferol i'r cwmni ddarganfod pa gwsmeriaid y mae wedi effeithio arnynt. Yn yr achos hwn, fe fydd angen i chi hawlio eich hun trwy ysgrifennu at y cwmni dwr. Rhaid i chi wneud hyn o fewn tri mis i'r ail achlysur pan ddisgynnodd y pwysedd dwr o dan y safon isaf, neu fe fyddwch yn colli'ch hawl i iawndal.

Dylech gofio fod pwysedd dwr isel weithiau'n ganlyniad i'r angen i wneud gwaith ar eich eiddo, fel gosod pibau newydd, a chi, ac nid y cwmni dwr, sy'n gyfrifol am hyn yn ariannol.

Cwestiynau ynglyn â'ch cyfrif

Os ydych yn ysgrifennu at eich cwmni dwr i holi am eich cyfrif, rhaid i'r cwmni ymateb o fewn deng niwrnod gwaith.

Os ydych yn ysgrifennu at eich cwmni dwr i ofyn am ffordd wahanol o dalu'ch biliau ac nid yw'r cwmni'n cytuno i'r cais, rhaid iddo dweud wrthych o fewn pum niwrnod gwaith.

Os nad yw'r cwmni'n gwneud hynny, fe allwch hawlio iawndal o £20.  Dylai'r cwmni dwr dalu'r iawndal hwn i chi'n awtomatig.

Ni fyddwch yn medru hawlio iawndal os ydych:

  • wedi newid eich meddwl ac nid ydych am iddo ddelio â'ch cwestiwn mwyach
  • rydych wedi anfon y cwestiwn at gyfeiriad gwahanol i'r un a hysbysebwyd
  • rydych wedi anfon cwestiwn sy'n wamal neu'n flinderus - mae hyn yn golygu cwestiynau nad ydynt yn hollol ddifrifol, neu pan fyddwch chi'n gwybod nad oes diben hawlio.

Os na chewch eich talu o fewn deng niwrnod gwaith, gallwch hawlio £10 ychwanegol o fewn tri mis.

Tarfu ar eich cyflenwad dwr

Gellir talu iawndal ble mae yna darfu ar eich cyflenwad dwr ar gyfer gwaith trwsio neu oherwydd argyfwng fel piben wedi byrstio ac ni chedwir at safonau'r cwmni dwr.

Iawndal ar gyfer gorchmynion sychder brys

Rhaid i'ch cwmni dwr dalu iawndal os oes tarfu ar gyflenwadau dwr hanfodol ar gyfer y cartref oherwydd gorchymyn sychder brys. Mae hyn yn rhan o amodau eu trwydded. Mae hyn yn cynnwys cyflenwadau dwr ar gyfer pethau fel:

  • coginio
  • ymolchi
  • yfed
  • fflysio'r ty bach.

Nid yw'n cynnwys pethau fel dyfrhau'r ardd, golchi'r car neu lenwi pwll padlo.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)