Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Symud tŷ a biliau dŵr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r dudalen hon yn esbonio beth ddylech chi ei wneud ynglyn â dweud wrth eich cwmni dwr pan fyddwch chi'n symud ty.

Pan fyddwch chi'n symud allan

Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr pryd yr ydych chi'n bwriadu symud, ac i ble, fel ei fod yn glir na fyddwch yn gyfrifol mwyach am y biliau dwr yn eich hen dy.

Os oes mesurydd dwr gennych, rhowch o leiaf bum niwrnod gwaith o rybudd i'ch cwmni dwr fel ei fod yn medru trefnu cymryd darlleniad terfynol o'r mesurydd.  Os na wnewch chi hyn, efallai y gwelwch chi eich bod yn cael bil am ddwr a ddefnyddiwyd wedi i chi symud allan.

Pan fyddwch chi'n symud i mewn i'ch cartref newydd

Fe fydd angen i chi ddweud wrth eich cwmni dwr newydd pryd y symudoch chi i mewn.  Os ydych yn symud ty ond yn aros gyda'r un cwmni dwr, fe fydd angen iddo wybod am y newid i'ch cyfeiriad.

Mae yna fesurydd dwr yn eich cartref newydd

Os ydych yn symud i eiddo ble mae yna fesurydd yn barod, gallwch ofyn am gael ei wared.  

Os oes mesurydd gennych yn eich cartref newydd, cymerwch ddarlleniad unwaith fyddwch chi wedi symud i mewn.

Taliadau carthffosiaeth

Pan fyddwch chi'n symud ty, efallai y gwelwch chi fod y cwmni sy'n cyflenwi'ch dwr hefyd yn cyflenwi'ch carthffosiaeth, neu efallai mai cwmni arall sy'n ei gyflenwi.  Os mai cwmni gwahanol ydyw, efallai y cewch fil ar wahân, neu efallai y bydd eich cwmni dwr yn cynnwys costau carthffosiaeth ar y bil ar ran y cwmni carthffosiaeth.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr yn: www.ccwater.org.uk
  • I gael help pellach ar faterion dwr,  ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)