Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Trafod gyda'ch cwmni dŵr i ad-dalu'r hyn sydd arnoch chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os oes arnoch arian ar eich biliau dwr, dylech siarad â'ch cwmni dwr a dod i drefniant i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus.

Ni fydd eich cwmni dwr yn medru eich datgysylltu os oes arnoch arian iddo, ond os nad ydych yn talu mae’n medru dwyn achos llys. Efallai y cewch ddyfarniad llys sirol yn eich erbyn ac fe fydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol i'r llys. Os nad ydych yn talu wedi hynny, efallai y daw'r beilïaid i i'ch cartref a mynd â rhai o'ch nwyddau.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod sut i ddod i drefniant gyda'ch cwmni dwr os ydych mewn dyled.

Siaradwch â'ch cwmni dwr cyn gynted â phosib

Siaradwch â'ch cwmni dwr unwaith y sylweddolwch chi nad ydych yn medru talu'ch bil. Dylech ddod o hyd i fanylion cyswllt y cwmni ar eich bil. Mae gan rai cwmnïau linell dyledion arbennig y gallwch ei defnyddio i drafod unrhyw broblemau gyda thalu. Chwiliwch am y rhif ffon ar eich bil neu ar eu gwefan.

Os yw'r cwmni dwr wedi cysylltu â chi i ddweud eich bod chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, ewch yn ôl ato ar unwaith.  Os yw eisoes wedi dechrau dwyn achos llys, gofynnwch iddo beidio â pharhau gyda'r camau hyn. Os ydych yn dweud wrtho eich bod yn barod i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus, fe allai hyn ei berswadio i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.

Cynnig i ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus

Dylai fod gan bob cwmni dwr god ymarfer i ddelio gyda chwsmeriaid sydd mewn dyled - mae eich cwmni dwr yn medru rhoi copi o'r cod i chi. Defnyddiwch y cod ymarfer hwn i ddod i drefniant i ad-dalu'r hyn sydd arnoch chi.

Ffoniwch eich cwmni dwr, a chynigiwch swm fedrwch chi ei dalu ar sail y dwr yr ydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd a'r hyn fedrwch chi ei fforddio tuag at y swm sy'n ddyledus.   Dylech ysgrifennu llythyr i ddilyn eich galwad, yn cadarnhau yr hyn yr ydych wedi cytuno i'w dalu.

Os ydych yn dangos eich bod yn medru talu rhywbeth tuag at eich defnydd dwr presennol a hefyd yr hyn sy'n ddyledus, dylai eich helpu i ddod i gytundeb.

Cyfrifwch faint fedrwch chi fforddio'i dalu.  Nodwch faint o incwm sydd gennych, faint o wariant sydd gennych a pha ddyledion eraill sydd gennych.  Nid oes rhaid i'r cwmni ystyried eich gallu i dalu, ond dylai ddilyn canllawiau rheoleiddiwr y diwydiant, OFWAT, ar gyfer delio gyda chwsmeriaid sydd mewn dyled. Mae'r rhain yn dweud y dylai cwmnïau dwr ystyried eich gallu i dalu. Gallech ddweud hyn wrtho os ydych yn ei chael yn anodd dod i gytundeb.

Weithiau, efallai y bydd yn bosib dileu'r ddyled, felly ni fydd yn rhaid i chi ei thalu o gwbl.

Os ydych chi ar fesurydd dwr

Os oes mesurydd dwr gennych, mae'ch cwmni dwr yn debygol o roi amcan o'r defnydd dwr ar hyn o bryd ar sail y flwyddyn flaenorol.  Os ydych yn credu efallai bod hyn wedi newid, dylech esbonio hyn i'r cwmni dwr a sicrhau bod eich taliadau yn ystyried hyn. Efallai y credwch chi fod faint o ddwr yr ydych yn ei ddefnyddio wedi newid, er enghraifft, os oes llai o bobl yn byw ar eich aelwyd na chynt. Sicrhewch fod y cwmni dwr yn gwybod am bethau fel hyn.

Beth os yw'ch cwmni dwr yn gwrthod eich cynnig?

Efallai y bydd eich cwmni dwr yn gwrthod eich cynnig i dalu os nad yw'n ddigon i glirio'ch bil presennol a'r swm sy'n ddyledus.  Hyd yn oed os yw'n gwrthod eich cynnig, dylech barhau i dalu unrhyw beth fedrwch chi ei fforddio a chadw tystiolaeth o'ch taliad.  Os yw'n dwyn achos llys yn eich erbyn, fe allai hyn eich helpu i ddadlau eich bod wedi bod mor rhesymol â phosib ac wedi gwneud eich gorau i glirio unrhyw ddyledion.

Os ydych wedi cael rhybudd terfynol yn rhoi saith niwrnod i chi dalu'ch bil, cysylltwch â'r cwmni cyn gynted â phosib. Os ydych yn gwneud trefniadau i dalu o fewn saith niwrnod i dderbyn y rhybudd hwn, efallai y bydd yn eich helpu i osgoi achos llys - hyd yn oed os nad ydych yn dechrau talu ar unwaith.

Os ydych yn cael trafferth trafod, gallech ofyn am gael siarad â rhywun yn uwch. Mae help ar gael hefyd gan ganolfan Cyngor ar Bopeth neu'r Cyngor Defnyddwyr Dwr a fydd yn medru ymchwilio i'r mater ar eich rhan.

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch biliau dwr ac ar rai budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn medru ymuno â chynllun o'r enw Waterdirect.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mae canllawiau OFWAT i'r ffordd y dylai cwmnïau dwr ddelio ag aelwydydd sydd mewn dyled ar: www.oftwat.gov.uk.
  • I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
  • I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)