Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Talu'ch biliau dŵr os ydych yn denant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych yn denant, efallai y bydd gennych fil dwr yn eich enw chi, neu efallai y byddwch yn talu am ddwr fel rhan o'ch rhent. Mae'n arbennig o gyffredin i denantiaid yr awdurdod lleol dalu am ddwr fel rhan o'u rhent. Os nad ydych yn siwr a ydych chi'n talu am ddwr fel rhan o'ch rhent, darllenwch eich cytundeb tenantiaeth.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am y math o faterion a allai godi wrth i chi dalu am eich dwr os ydych yn denant.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae yna rai mathau o denantiaethau, a elwir yn denantiaethau byrddaliad sicr, ble mae'n hawdd iawn i'r landlord eich troi chi allan. Os ydych yn ceisio cymryd camau yn erbyn eich landlord, er enghraifft dwyn achos llys neu siarad â’r Swyddog Cysylltiadau Tenantiaeth, efallai y bydd hyn peri i'ch landlord gymryd camau i'ch troi chi allan.

Cyn i chi gymryd unrhyw gamau fel hyn, fwy na thebyg y bydd yn well i chi gael cyngor yn gyntaf.

Mwy am denantiaethau byrddaliad sicr

Os yw'ch rhent yn cynnwys taliadau dwr

Os ydych yn talu'ch landlord neu berchennog safle cartrefi symudol am ddwr, yn lle talu'ch cwmni dwr yn uniongyrchol, mae hyn yn golygu eu bod yn adwerthu'r dwr i chi. Mae yna reolau a dylech sicrhau nad ydynt yn codi gormod arnoch. Ni ddylid codi mwy na'r swm y byddai'r cwmni dwr yn ei godi, a ffi gweinyddol rhesymol ar ei ben.

Codi mwy nag y dylech fod wedi ei dalu

Os ydych yn credu eu bod wedi codi gormod arnoch, cadwch gofnod o'r swm yr ydych wedi ei dalu a faint o ddwr yr ydych wedi ei ddefnyddio.  Os oes mesurydd gennych, sicrhewch ei fod yn cofnodi eich defnydd o ddwr yn gywir, holwch faint mae'ch landlord yn ei godi arnoch am ddwr ac yna cymharwch y ddau swm.

Os ydych yn credu eu bod yn codi gormod arnoch, esboniwch y broblem i'ch landlord a thrafodwch i dalu'r swm cywir.

Os na fydd eich landlord yn rhoi'r swm ychwanegol yn ôl i chi, efallai mai eich unig opsiwn fydd dwyn achos llys yn ei erbyn. Dylech feddwl am hyn fel y cam olaf un.

Os nad yw'ch landlord yn talu'r bil dwr

Os nad yw'ch landlord yn talu'r bil dwr, nid yw'r cwmni dwr yn cael datgysylltu'r cyflenwad, ond mae'n medru dwyn achos llys yn erbyn y landlord.  

Os yw'ch landlord yn datgysylltu'ch cyflenwad, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol neu’r Swyddog Cysylltiadau Tenantiaid, os oes un yn bodoli, a gofynnwch iddynt ailgysylltu’ch cyflenwad.  

Gallwch hefyd geisio i'r llys am orfodeb i gael y cyflenwad wedi'i ailgysylltu, a hawlio iawndal am unrhyw gostau sydd wedi codi oherwydd y datgysylltiad. Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn.    

Os yw'ch landlord yn datgysylltu eich cyflenwad dwr i geisio gwneud i chi adael yr eiddo, mae hyn yn fath o aflonyddu ac yn drosedd.  Os yw hyn yn digwydd, dylech gysylltu â Cyngor ar Bopeth neu gael cyngor cyfreithiol.

Biliau dwr wedi eu hôl-ddyddio

Os ydych yn cael bil dwr wedi ei ôl-ddyddio, edrychwch i weld i ba ddyddiadau y mae'n berthnasol. Os yw'r dyddiadau'n cyfeirio at denantiaeth flaenorol neu adeg pan nad oeddech yn byw yn yr eiddo, dylech anfon y bil at eich landlord. Dylech hefyd holi i weld pwy sy'n gyfrifol am dalu'r taliadau dwr i'r cwmni dwr. Os yw'r taliadau dwr wedi eu cynnwys yn eich rhent, eich landlord fydd hwn felly anfonwch y bil ato.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)