Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Coronafirws - beth mae’n ei olygu i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i gyngor y llywodraeth fod ar gael.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu chi i osgoi cael coronafirws neu COVID-19. Mae yna hefyd bethau y gallwch chi eu gwneud i atal y firws rhag lledaenu os ydych chi’n meddwl bod gennych chi ef. 

Gallwch ddarllen mwy am symptomau coronafirws a sut i’w osgoi ar wefan y GIG.

Gallwch hefyd wylio fersiynau Iaith Arwyddion Prydain o gyngor y Llywodraeth ar wefan SignHealth

Gwiriwch a yw rhywbeth yn sgâm

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy yn unig o ran coronafirws.

Os ydych chi’n gweld negeseuon e-bost am coronafirws gan rywun nad ydych chi’n eu hadnabod, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na phrynu unrhyw beth.

Peidiwch â rhoi arian na manylion personol i unrhyw un nad ydych chi’n ei hadnabod neu’n ymddiried ynddo - er enghraifft, os bydd rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig helpu.

Gallwch wirio a yw rhywbeth yn sgâm

Gwiriwch y deddfau a'r canllawiau coronafirws diweddaraf

Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno deddfau ac arweiniad i ddelio â coronafirws.

Mynd allan a chwrdd â phobl

Ar hyn o bryd mae yn erbyn y gyfraith i:

  • cwrdd â phobl nad ydych yn byw gyda nhw yn eu tŷ neu ardd

  • cwrdd yn yr awyr agored neu mewn mannau cyhoeddus fel caffi neu fwyty mewn grŵp o fwy na 4 o bobl

  • gadael Cymru heb reswm da

Darganfod mwy am fynd allan a chwrdd â phobl.

Gwiriwch a oes angen i chi wisgo mwgwd neu orchudd wyneb

Mae'n rhaid i chi wisgo mwgwd wyneb neu orchudd ar gyfer eich ceg a'ch trwyn pan fyddwch mewn man cyhoeddus dan do.

Efallai na fydd yn rhaid i chi wisgo mwgwd neu orchudd wyneb, os:

  • rydych chi o dan 11 oed

  • mae gennych salwch neu anabledd sy'n golygu na allwch wisgo un

  • rydych chi'n bwyta neu'n yfed
  • rydych chi'n defnyddio cludiant ysgol

Gallwch gwiriwch pwy sydd ddim yn gorfod gwisgo mwgwd wyneb ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Os ydych chi'n dod i mewn i'r DU o dramor

Mae yna reolau arbennig os ydych chi'n bwriadu cyrraedd y DU. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi'n dod yn ôl i'r DU ar ôl treulio amser dramor.

Efallai y bydd yn rhaid i chi:

  • llenwch ffurflen gyda manylion am ble y byddwch chi'n aros yn y DU

  • aros y tu mewn am 10 diwrnod ar ôl i chi gyrraedd - weithiau gelwir hyn yn ‘cwarantîn’

Gallwch wirio'r rheolau ynghylch dod i mewn i'r DU o dramor. 

Cymorth y gallwch ei gael

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi dulliau eraill o sut maent yn helpu pobl.

Byddwn yn cyhoeddi cyngor newydd i’ch helpu chi i ddeall unrhyw newidiadau pan fyddant wedi’u cyhoeddi. Byddwn hefyd yn diweddaru ein cyngor presennol.

Mae’r cyngor hyd yn hyn yn cynnwys pethau fel:

  • cael eitemau a gofal hanfodol os ydych yn ‘hynod o agored i niwed’
  • talu biliau, gan gynnwys eich rhent
  • cael eich talu os na allwch weithio oherwydd coronafirws
  • cael nodyn hunan-ynysu ar-lein os oes angen i chi brofi eich bod yn sâl
  • gohirio neu ganslo trefniadau teithio

Os yw'ch partner neu aelod o'ch teulu yn gwneud ichi deimlo'n bryderus neu dan fygythiad

Gallwch barhau i gael cymorth yn ystod y cyfnod hwn. Cysylltwch â sefydliad cam-drin domestig i weld pa wasanaethau sydd ar gael.

Gallwch hefyd wirio'r canllaw ar gadw'n ddiogel ar wefan SafeLives

Os ydych chi'n cysgodi

Bydd y GIG wedi cysylltu â chi os ydych yn ‘hynod o agored i niwed/fregus’. Byddant wedi dweud wrthych sut i osgoi dod i gysylltiad â coronafirws. Gelwir hyn yn ‘cysgodi’.

Os ydych chi'n cysgodi, mae'r llywodraeth yn argymell eich bod yn aros gartref ac yn osgoi cyswllt wyneb yn wyneb â phobl eraill gymaint â phosibl tan o leiaf 16 Awst 2020. Gallwch wirio canllawiau'r llywodraeth ar beth i'w wneud os ydych chi am dreulio amser y tu allan.

Darganfyddwch fwy am gysgodi ac os ydych chi wedi’ch ystyried yn agored i niwed ar wefan Llywodraeth Cymru

Os oes angen help arnoch i gael gofal neu gyflenwadau hanfodol fel bwyd

Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.

Gallwch ddod o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK neu wirio'r llythyr a anfonodd y GIG atoch ynglŷn â chysgodi.

Os ydych chi’n ofalwr

Gallwch chi fod yn ofalwr o hyd cyn belled nad oes gennych symptomau coronafirws.

Gwiriwch y canllawiau ar wefan Carers UK i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Os oes angen i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n cael gofal fel arfer mewn ffordd wahanol, darganfyddwch pa opsiynau sydd gennych chi.

Os oes gennych chi lai o arian oherwydd coronafirws

Gallwch wirio pa help y gallwch ei gael os na allwch dalu'ch biliau. Mae hyn yn cynnwys pethau fel eich morgais, biliau ynni, treth gyngor neu ddirwyon llys.

Gallwch hefyd ddarganfod beth i'w wneud os na allwch dalu'ch rhent neu os oes gennych broblemau gyda'ch cartref a rhentir.  

Cael budd-daliadau

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau neu gael mwy o arian os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl salwch statudol (SSP) y gallai eich cyflogwr ei roi i chi.

Gwiriwch pa fudd daliadau y gallwch eu cael.

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau, gwiriwch a yw'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw newidiadau i'ch budd-daliadau.

Os nad oes gennych arian ar gyfer bwyd

Efallai y gallwch gael help gan fanc bwyd. Gallwch:

Os yw eich plentyn yn absennol o'r ysgol oherwydd coronafirws ac fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim oherwydd eich budd-daliadau, bydd yr ysgol yn darparu parseli bwyd neu arian.

Darganfyddwch fwy am gael parseli bwyd am ddim neu arian tra bod eich plentyn yn absennol o'r ysgol.

Os ydych yn cysgu tu allan neu mewn lloches lle na allwch hunan-ynysu

Gelwir hyn yn 'cysgu ar y stryd'. Mae’r llywodraeth wedi dweud y dylid eich ystyried fel 'blaenoriaeth’. Dylai eich cyngor lleol eich helpu i ddod o hyd i rywle i aros, hyd yn oed os na fyddech fel arfer yn gymwys i gael help.

Gallwch gael help i wneud cais am gymorth digartrefedd gan y cyngor. 

Mynd i’r gwaith

Mae'r llywodraeth wedi dweud y gallwch chi fynd i'r gwaith os yw'n ddiogel.

Cael eich gwneud yn weithiwr ar fyrlo

Os yw'ch gwaith wedi cau neu os nad oes unrhyw waith oherwydd coronafirws, gallai'ch cyflogwr ddefnyddio'r cynllun Cadw Swydd Coronafirws i'ch talu. Gelwir hyn yn weithiwr ar ffyrlo.

Darganfyddwch mwy am sut mae'r cynllun yn gweithio

Os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eich bod chi’n hunan-ynysu 

Efallai y gallwch gael dâl salwch statudol (SSP) o’ch cyflogwr os ydych chi'n dilyn arweiniad y llywodraeth i hunan-ynysu.

Gallwch ddarganfod mwy am gael tâl salwch statudol. 

Darganfyddwch fwy am hunan-ynysu ar GOV.UK.

Os ydych chi'n cysgodi oherwydd eich bod chi'n hynod o agored i niwed

Mae'r llywodraeth wedi dweud y dylech weithio gartref os gallwch chi. Os yw hyn yn anodd i chi, dylai eich cyflogwr helpu - er enghraifft, tra'ch bod chi'n cysgodi gallent:

  • rhoi rôl wahanol i chi

  • newid eich patrymau gwaith

Gallwch wirio beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am fod yn ddiogel yn y gwaith oherwydd coronafirws.

Ni fyddwch yn gallu cael tâl salwch statudol (SSP) ar ôl 16 Awst os ydych chi'n cysgodi. Efallai y byddwch yn dal i allu cael SSP os na allwch weithio gartref ac nad yw'n ddiogel ichi fynd i'r gwaith. Bydd angen nodyn arnoch gan eich meddyg i'w roi i'ch cyflogwr.

Gwiriwch a allwch gael SSP. 

Darllenwch ganllaw'r llywodraeth ar gysgodi ar GOV.UK.

Os ydych chi'n ‘agored i niwed’ ond ddim yn hynod fregus

Rydych yn ‘agored i niwed' os ydych yn 70 oed neu'n  hŷn, yn feichiog neu os oes gennych gyflyrau iechyd penodol - mae’n wahanol i fod yn hynod o agored i niwed. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio os ydych chi'n agored i niwed. Darganfyddwch a ydych chi wedi'ch ystyried yn agored i niwed ar GOV.UK.

Os ydych chi am roi'r gorau i weithio, ni chewch Tal Salwch Statudol oni bai eich bod yn dilyn arweiniad y llywodraeth i hunan-ynysu neu os oes gennych nodyn gan eich meddyg.

Os ydych chi’n poeni am fynd i weithio oherwydd coronafirws

Os ydych chi'n poeni am orfod mynd i'r gwaith, mae yna bethau y dylai'ch cyflogwr eu gwneud i sicrhau eich bod chi'n ddiogel.

Os penderfynwch beidio â gweithio, efallai y bydd ffyrdd o dal gael eich talu.

Os ydych chi'n poeni am weithio a'ch bod chi'n feichiog neu'n anabl, efallai y bydd pethau eraill y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu gwneud.

Gwiriwch beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am weithio.

Os oes gennych blant ifanc

Os oes angen i chi gymryd amser i ffwrdd i ofalu am eich plant, siaradwch â'ch cyflogwr. Darllenwch fwy am gymryd amser i ffwrdd i ofalu am blant.

Dim ond os byddant yn ddiogel y dylech adael eich plant gartref ar eu pennau eu hunain - gwiriwch ganllawiau'r llywodraeth ar adael plant ar eu pennau eu hunain. 

Os ydych chi’n bwriadu teithio dramor

Fe ddylech chi:

  • gwiriwch y sefyllfa yn y wlad rydych chi'n bwriadu teithio iddi - gallwch ddarllen y canllawiau teithio diweddaraf ar GOV.UK. 

  • cysylltwch â'ch yswiriwr i wirio bod eich yswiriant teithio yn cynnwys problemau meddygol a theithio a achosir gan coronafirws

Os ydych chi mewn ardal sydd â chlo lleol - gwiriwch y cyngor ar gyfer eich ardal chi ar deithio dramor ar GOV.UK.

Os ydych wedi trefnu gwyliau

Os oes gennych chi wyliau eisoes wedi’u harchebu mae’n werth gwirio canllawiau yr asiant teithio, cwmni hedfan neu ddarparwr gwyliau arall. Efallai y gallwch ail-archebu’ch gwyliau a mynd yn hwyrach yn y flwyddyn.

Darganfyddwch mwy am gael ad-daliad oherwydd coronafirws.

Gallwch hefyd gael gwybod beth i'w wneud os yw eich pecyn gwyliau yn cael ei ganslo. Os oes angen mwy o help, gallwch gael cyngor gan y gwasanaeth i ddefnyddwyr.

Os yw'ch fisa yn dod i ben ac na allwch adael y DU

Os bydd eich fisa yn dod i ben ar unrhyw adeg rhwng 24 Ionawr a 31 Awst 2020, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i adael i chi aros tan 31 Awst.

Cysylltwch â'r Swyddfa Gartref os na allwch adael erbyn 31 Awst oherwydd, er enghraifft

  •  mae'r llywodraeth wedi dweud wrthych chi i hunan-ynysu 

  •  mae'r wlad y mae angen i chi fynd iddi, ddim yn gadael i chi ddod i mewn oherwydd coronafirws

  • ni allwch drefnu i deithio yno mewn pryd

 Dylech ddweud wrth y Swyddfa Gartref gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar GOV.UK. Bydd angen i chi roi tystiolaeth pam na allwch adael mewn pryd.

Os ydych chi’n meddwl nad yw siopau’n gweithredu’n deg

Gall siopau a busnesau godi eu prisiau os ydyn nhw eisiau. Os ydych chi wedi sylwi bod pethau'n costio mwy na'r arfer, bydd angen i chi benderfynu a ydych chi am dalu am yr eitem ai peidio.

Gallwch roi gwybod i Safonau Masnach os ydych chi'n meddwl eu bod nhw: 

Efallai na fydd Safonau Masnach yn ymateb i'ch cwyn.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)