Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Herio penderfyniad i'ch troi allan gyda chyfraith gwahaniaethu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Y peth cyntaf mae angen i chi ei wneud yw gwneud yn siŵr bod eich problem gwahaniaethu’n dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Yna bydd angen i chi benderfynu beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r gyfraith i herio’r troi allan a chasglu tystiolaeth i'ch helpu i gyflwyno'ch achos.

Gallwch ddal ati i geisio datrys y broblem yn anffurfiol, hyd yn oed pan fo'ch landlord wedi dechrau’r broses troi allan - efallai gallwch chi gael ateb cyn i'ch achos fynd i'r llys.

Cael cymorth cyfreithiol

Dylech chi geisio dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol a fydd yn helpu gyda'ch sefyllfa arbennig chi. Gall helpu i egluro prosesau'r llys, paratoi'ch achos a'ch cynrychioli chi.

Efallai gall eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu chi ddod o hyd i rywun.

Edrychwch i weld a allwch chi gael cymorth cyfreithiol am ddim - mae hyn yn cynnwys cyngor cyfreithiol am ddim a chynrychiolaeth gyfreithiol weithiau hefyd. Weithiau gall dalu eich costau llys hefyd.

Gallwch chi gael gafael ar gymorth cyfreithiol mwy fforddiadwy hefyd.

Efallai y gallwch chi gael gostyngiad ar ffioedd y llys neu efallai na fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd:

  • os ydych chi ar incwm isel neu rydych chi'n derbyn budd-daliadau ac
  • os nad oes gennych fawr ddim cynilion, os o gwbl

Os na allwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol, gallwch gynrychioli'ch hun. Bydd y tudalennau hyn yn dangos y prif gamau i chi, gan gynnwys y rheolau llys mwyaf cyffredin mae angen i chi eu dilyn.

Os ydych chi'n gwneud gwrth-hawliad

Dim ond os wnaethon nhw ddigwydd yn ystod y chwe mis diwethaf y gallwch chi wneud gwrth-hawliad am unrhyw ddigwyddiadau eraill o wahaniaethu.

Mae angen i'r llys dderbyn eich gwrth-hawliad chwe mis llai un diwrnod ar ôl i'r gwahaniaethu ddigwydd. Fel arfer byddech chi’n cynnwys eich gwrth-hawliad ar eich ffurflen amddiffyn.

Er enghraifft, os digwyddodd y gwahaniaethu ddiwethaf ar 12 Mawrth, mae angen i'r llys gael eich ffurflen erbyn 11 Medi. Os bydd eich terfyn amser yn digwydd bod ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, y peth gorau yw cymryd y camau gofynnol ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod eich hawliad yn cael ei wneud mewn pryd.

Gallai'r dyddiad ddigwyddodd y gwahaniaethu fod pan wnaeth rhywun:

  • wneud penderfyniad - er enghraifft y dyddiad y gwrthododd eich landlord eich cais i wneud addasiad rhesymol
  • gwahaniaethu yn eich erbyn trwy wrthod rhentu eiddo i chi

Os oes gennych chi fwy nag un gwrth-hawliad, efallai y bydd gennych chi ddyddiadau cau gwahanol ar gyfer pob un. Edrychwch ar yr holl ddyddiadau i chi ddioddef gwahaniaethu a chyfrifwch y dyddiad cau ar gyfer pob gwrth-hawliad.

Os i chi ofyn am addasiadau rhesymol, gall fod yn anodd cyfrifo'r dyddiad i ddechrau cyfrif ohono. Edrychwch i weld sut i gyfrifo dyddiadau cau ar gyfer addasiadau rhesymol.

Os byddwch chi’n methu'r dyddiad cau, efallai y gallwch chi wneud gwrth-hawliad os yw'r llys yn credu bod hynny’n deg – ‘cyfiawn a theg' yw hyn. Efallai y byddan nhw’n ystyried pethau fel y rheswm dros yr oedi, hyd yr oedi ac effaith yr oedi ar yr ochr arall.

Byddai angen i chi nodi pam rydych chi'n meddwl ei fod yn 'gyfiawn a theg' i ganiatáu'ch gwrth-hawliad yn hwyr ar eich ffurflen amddiffyn pan fyddwch chi’n dweud eich bod chi am wneud gwrth-hawliad. Mae'r gyfraith am hyn yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os digwyddodd y gwahaniaethu fwy nag unwaith

Bydd angen i chi benderfynu a allai'r digwyddiadau gwahanol gael eu hystyried yn rhai sy'n ‘parhau’ dros gyfnod o amser. Dyma lle maen nhw’n gysylltiedig â'i gilydd, er enghraifft os yw'ch landlord yn defnyddio iaith homoffobig i'ch disgrifio chi ar sawl achlysur neu'n parhau i ddefnyddio polisi gwahaniaethol mewn perthynas â chi.

Os yw'r digwyddiadau'n gysylltiedig, mae'r gyfraith yn eu galw nhw’n 'gyfres barhaus o weithredoedd' neu’n 'weithred barhaus' a dim ond pan fydd y weithred olaf wedi'i chwblhau y mae’r cyfnod o amser yn cychwyn. Mae adran 118(6)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod hyn.

Os nad yw'r digwyddiadau'n gysylltiedig, bydd angen i chi wneud hawliadau gwahaniaethu ar wahân gyda dyddiadau cau gwahanol. Er enghraifft, os gwnaeth eich landlord sylw hiliol a bod yr asiant gosod wedi gwneud sylw rhywiaethol, efallai na fyddan nhw’n rhan o’r un weithred barhaus. Yna dylech chi ddefnyddio'r dyddiad cynharaf i gyfrifo'ch dyddiad cau.

Dylech chi ystyried:

  • a yw’r digwyddiad diwethaf yn wahaniaethu heb os - os nad yw’n wahaniaethu a bod hyn yn golygu eich bod wedi gwneud hawliad hwyr, gallai'r llys wrthod eich achos
  • oes yna fwlch hir rhwng y gwahanol ddigwyddiadau - os oes bwlch mawr rhyngddyn nhw, efallai nad ydyn nhw’n un weithred barhaus

Os nad ydych chi'n siŵr o'r dyddiad, mae'n well defnyddio'r dyddiad cynharaf fel arfer. Os ydych chi'n defnyddio dyddiad diweddarach i gyfrifo'r dyddiad cau, gallai'r llys benderfynu nad oedd y digwyddiad diweddarach yn wahaniaethu neu nad yw’r gweithredoedd yn gysylltiedig â’i gilydd ac wedyn ni fyddai gennych amser i wneud gwrth-hawliad newydd.


Gweld pa mor gryf yw'ch achos

Dylech chi asesu pa mor gryf yw'ch achos ac ailystyried hyn pan gewch chi unrhyw dystiolaeth gan yr ochr arall.

Dylech chi sicrhau eich bod chi:

  1. yn gwybod beth yw'ch hawliau cyfreithiol
  2. wedi dangos sut cafodd yr hawliau cyfreithiol hynny eu torri
  3. yn gwybod beth yw’r elfennau sy'n rhaid i chi eu dangos i brofi bod gennych chi hawl gyfreithiol - mae hyn yn wahanol ar gyfer pob math gwahanol o wahaniaethu felly darllenwch fwy os nad ydych chi’n siŵr

Dylech chi wneud nodyn o wahanol elfennau'ch achos ac ychwanegu'r ffeithiau sydd gennych chi i'w cefnogi nhw. Yna gallwch chi nodi a oes gennych chi unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ffeithiau hynny - megis e-bost yn dweud pam eich bod chi'n cael eich troi allan.

Bydd gwneud hyn yn eich helpu chi i weld hefyd pa dystiolaeth ychwanegol allai fod ei hangen arnoch chi i allu profi eich achos a gweld unrhyw fylchau neu wendidau yn eich achos.

Os ydych chi'n hawlio mwy nag un math o wahaniaethu

Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob un. Weithiau byddwch chi’n gallu defnyddio'r un dystiolaeth i ddangos y gwahanol fathau o wahaniaethu. Er enghraifft, efallai y gallwch chi ddefnyddio'r un ffeithiau a thystiolaeth i ddangos hawliad o wahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn ogystal â methiant i wneud addasiadau rhesymol.

Edrych i weld oes yna unrhyw amddiffyniad ar gyfer y gwahaniaethu

Unwaith y byddwch chi wedi paru’r dystiolaeth sydd gennych chi ag elfennau pob math gwahanol o wahaniaethu, dylech chi ystyried a fydd eich landlord neu reolwr/rheolydd yr eiddo yn ceisio amddiffyn yr achos, hyd yn oed os gallwch chi brofi bod y gwahaniaethu wedi digwydd.

Ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd, gallai ddweud bod modd cyfiawnhau'r weithred gan ei bod yn 'fodd cymesur o gyflawni amcan dilys'. Caiff gwahaniaethu anuniongyrchol ei drafod yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chaiff gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd ei drafod yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ar gyfer addasiadau rhesymol gallai ddweud nad yw'r hyn rydych chi wedi gofyn amdano’n ‘rhesymol’ neu nad oes rhaid iddo wneud yr addasiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt. Caiff addasiadau rhesymol eu trafod yn adrannau 20, 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech feddwl am unrhyw beth a fydd yn gwanhau ei ddadl, er enghraifft os oes ffordd sy’n gwahaniaethu llai o gyflawni ei amcan neu os yw ei resymau wedi bod yn anghyson, fel nad ydyn nhw’n ymddangos yn gredadwy.

Os byddwch chi’n sylwi ar fylchau yn eich tystiolaeth neu os ydych chi'n meddwl, ar ôl edrych ar eich tystiolaeth chi a thystiolaeth eich landlord neu reolwr/rheolydd yr eiddo, bod ganddo achos cryfach, efallai y byddwch chi’n penderfynu casglu mwy o dystiolaeth ac yna ailasesu'ch achos.

Gweld pa mor gryf yw'ch tystiolaeth

Does dim rhaid i chi gael llawer o dystiolaeth i gael achos cryf - mae'n bwysicach fel arfer bod y dystiolaeth o ansawdd da.

Gallai tystiolaeth gref gynnwys tystiolaeth:

  • gan rywun a welodd y digwyddiad gwahaniaethol
  • gan rywun nad yw'n gysylltiedig â'r naill barti na'r llall
  • ffeithiol
  • a gasglwyd adeg y digwyddiad neu’n fuan wedyn

Byddwch yn ofalus rhag gwneud honiadau neu ddibynnu ar ddigwyddiadau nad oes gennych chi dystiolaeth i'w cefnogi nhw. Mae yna risg y bydd yn rhaid i chi dalu rhai neu holl gostau'r ochr arall os ydych chi wedi gwastraffu amser y llys oherwydd nad oedd eich hawliad yn gryf iawn neu ei fod yn siŵr o fethu. Mae yna risg hefyd y gallai dynnu sylw'r llys oddi wrth eich dadleuon cryfach. Dylech chi gael cymorth gan gyngorydd os oes angen cymorth arnoch chi i wneud hyn.

Gweld pa reolau'r llys mae'n rhaid i chi eu dilyn

Os byddwch chi’n mynd i’r llys i amddiffyn y penderfyniad i'ch troi allan, bydd disgwyl i chi ddilyn y rheolau ar ddwyn achos llys. Mae'r rheolau hyn yn cynnwys:

  • Rheolau Trefniadaeth Sifil
  • y Cyfarwyddyd Ymarfer - Achosion o dan Ddeddfiadau sy'n Ymwneud â Chydraddoldeb

Os na fyddwch chi neu'r ochr arall - rydych chi'n cael eich galw'n 'bartïon' – yn dilyn y rheolau hyn, bydd y llys yn ystyried hyn pan fydd yn gwneud ei benderfyniad. Os nad ydych chi wedi gwneud yr hyn rydych chi i fod i’w wneud, efallai:

  • na fydd eich achos yn cael ei glywed
  • na chewch chi ddibynnu ar dystiolaeth neu ddadleuon penodol
  • y gallech chi gael eich gorchymyn i dalu costau cyfreithiol yr ochr arall os byddwch chi’n colli’r achos neu'n mynd i gostau cyfreithiol yn ddiangen trwy fod yn afresymol
  • efallai na fyddwch chi’n adennill eich costau yn erbyn yr ochr arall os byddwch chi’n ennill yr achos os byddwch chi’n mynd i gostau cyfreithiol yn ddiangen trwy fod yn afresymol

Rheolau Trefniadaeth Sifil

Prif nod y llys yw sicrhau bod pob achos yn cael ei drin yn deg. Os ydych chi’n penderfynu eich bod chi am fynd â rhywun i'r llys, bydd y llys yn disgwyl i'r ddau barti gydweithredu cyn belled â phosib.

Mae’r Rheolau Trefniadaeth Sifil yno i sicrhau:

  • bod y partïon ar sail gyfartal
  • bod y partïon wedi ceisio defnyddio dulliau eraill i ddatrys y broblem - megis dull amgen o ddatrys anghydfod
  • bod y partïon yn ceisio arbed costau lle bo modd
  • bod y ffordd mae'r achos yn cael ei drin yn adlewyrchu faint o arian sydd dan sylw, pa mor bwysig neu gymhleth yw'r broblem a sefyllfa ariannol y partïon
  • bod yr achos yn cael ei drin yn gyflym, yn effeithlon ac yn deg – ‘cyflym a theg’ yw’r term cyfreithiol am hyn

Amddiffyn y penderfyniad i'ch troi allan

Mae'r broses yn cynnwys sawl cam. Bydd angen i chi wneud hyn:

  1. cymryd camau pan fyddwch chi’n derbyn hysbysiad troi allan
  2. llenwi ffurflen amddiffyniad
  3. anfon y ffurflen amddiffyniad
  4. paratoi ar gyfer y llys
  5. mynd i wrandawiad llys
Go to step 1
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)