Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Paratoi i herio’r penderfyniad i’ch troi allan os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Cyn i chi gymryd unrhyw gamau, mae angen i chi sicrhau bod eich problem wahaniaethu wedi'i chynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Efallai y byddwch chi’n gallu atal y camau i'ch troi allan:

  • os yw’ch landlord yn eich troi allan oherwydd nodwedd warchodedig (gwahaniaethu uniongyrchol)
  • os yw penderfyniad eich landlord i’ch troi allan yn eich rhoi chi a phobl gyda’ch nodwedd warchodedig dan anfantais arbennig (gwahaniaethu anuniongyrchol)
  • os mai’r rheswm dros y troi allan yw rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd (gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd)
  • os mai’r rheswm eich bod yn cael eich troi allan yw rhywbeth sy’n gysylltiedig â methiant eich landlord i wneud addasiad rhesymol - er enghraifft, ei fod wedi gwrthod gwneud addasiad i’r ffordd rydych chi’n talu’ch rhent a bod gennych ôl-ddyledion rhent oherwydd hynny
  • os yw'ch landlord yn eich troi allan oherwydd eich bod wedi herio gwahaniaethu yn y gorffennol, gan gynnwys gofyn am addasiadau rhesymol (erledigaeth) - edrychwch i weld beth sy'n cyfrif fel erledigaeth.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu atal cael eich troi allan os ydych chi’n cael eich troi allan oherwydd bod gennych chi rent yn ddyledus, ond bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Gallech ddweud wrth y llys am y gwahaniaethu a gofyn i unrhyw iawndal y byddwch chi’n ei gael fynd tuag at y rhent dyledus - ‘gwrth-hawliad’ yw'r enw ar hyn.

Yr enw cyfreithiol am atal troi allan yw ‘amddiffyn hawliad adennill meddiant’.

Mae’r gyfraith sy’n eich amddiffyn rhag cael eich troi allan oherwydd gwahaniaethu gan landlordiaid neu reolwyr eiddo yn adran 35 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

I amddiffyn yr hawliad bydd angen i chi ddangos beth ddigwyddodd a’i fod yn achos o wahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai y bydd angen i chi ddangos hefyd pam fod penderfyniad y landlord i’ch troi allan ac unrhyw beth arall y mae'n ei wneud wrth geisio eich troi allan yn achos o wahaniaethu. Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i’r llys yn ddiweddarach.

Gallai tystiolaeth fod yn bethau fel llythyron gan feddyg yn dangos bod gennych chi nodwedd warchodedig, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu dystion a welodd beth ddigwyddodd.

Os nad ydych chi wedi cael hysbysiad troi allan eto

Meddyliwch yn ofalus sut rydych chi’n siarad gyda’ch landlord a thenantiaid eraill am y gwahaniaethu. Gallai’ch landlord ymateb yn wael os ydych chi’n bygwth mynd ag ef i’r llys a gallai geisio gymryd camau yn eich erbyn yn gynt. Rydych chi’n fwy tebygol o gael gwell canlyniadau os ydych chi’n bwyllog ac yn gwrtais.

Yn ogystal â dadlau eich bod wedi bod yn destun gwahaniaethu, efallai y byddwch chi'n gallu herio’r penderfyniad i’ch troi allan am resymau eraill hefyd. Er enghraifft, efallai na fydd eich landlord wedi defnyddio’r broses gywir i ddechrau’r troi allan.

Gweld a allwch chi herio’r troi allan mewn ffyrdd eraill

Mae amddiffyniadau eraill o dan gyfraith dai y gall pawb eu defnyddio, dim pts a ydyn nhw wedi bod yn destun gwahaniaethu ai peidio. Er enghraifft, bod y landlord heb ddefnyddio'r weithdrefn gywir i’ch troi allan neu mewn rhai achosion os yw’r camau y maen nhw’n eu cymryd yn afresymol. Yna gallwch ychwanegu'ch dadleuon gwahaniaethu at y rhain.

Yn y lle cyntaf mae angen i chi weld pa reolau ar droi allan sy’n berthnasol i’ch math chi o denantiaeth a sut mae’ch landlord yn ceisio eich troi allan.

Os ydych chi’n byw mewn cartref cyngor neu gymdeithas dai mae angen i chi edrych i weld a yw'ch hysbysiad troi allan yn ddilys a gweld y ffyrdd eraill y gallwch herio'r penderfyniad i'ch troi allan.

Os ydych chi’n byw mewn cartref sy'n cael ei rentu'n breifat, y peth cyntaf ddylech chi ei wneud yw:

Os oes gennych chi fath gwahanol o hysbysiad troi allan, efallai y bydd dal modd i chi allu defnyddio gwahaniaethu i geisio ei amddiffyn, ond dylech gael cymorth gan gynghorydd.

Hyd yn oed os nad oes gennych amddiffyniad yn seiliedig ar gyfreithiau tai eraill, efallai y byddwch yn gallu amddiffyn y penderfyniad i’ch troi allan gan ddefnyddio cyfraith wahaniaethu. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu amddiffyn y penderfyniad i'ch troi allan os ydych chi:

  • yn denant byrddaliad sicr neu ac mae’ch landlord wedi defnyddio hysbysiad adran 21
  • yn denant diogel neu sicr ac mae'ch landlord wedi defnyddio ‘seiliau cymryd meddiant gorfodol'
  • yn denant cychwynnol gyda chymdeithas dai
  • yn denant rhagarweiniol
  • yn denant sydd wedi cael ei israddio
  • yn is-osod eich cartref

Llunio’ch dadl wahaniaethu

Mae’ch dadl yn dibynnu ar y math o wahaniaethu. Gallai gyfrif fel mwy nag un math – er enghraifft gallai fod yn ‘wahaniaethu uniongyrchol’ a 'gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd’.

Os oedd yn mwy nag un math o wahaniaethu, bydd angen i chi eu cynnwys i gyd. Mewn rhai achosion, byddwch yn gallu defnyddio’r un dystiolaeth i ddangos y gwahanol fathau o wahaniaethu. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r un ffeithiau a thystiolaeth i ddangos hawliad o wahaniaethu sy’n deillio o anabledd ynghyd â methiant i wneud addasiadau rhesymol.

Dylech grybwyll yr holl fathau o wahaniaethu rydych chi wedi’u hwynebu pan fyddwch chi’n herio’r penderfyniad i’ch troi allan, ond mae tactegau penodol y gallwch eu defnyddio mewn rhai sefyllfaoedd. Edrychwch i weld pa dactegau sy’n gymwys i chi.

Gofynnwch am gyngor os nad ydych chi’n siŵr pa ddadleuon gwahaniaethu y gallwch chi eu defnyddio.

Os yw’n wahaniaethu sy’n deillio o anabledd

Bydd yn rhaid i chi ddangos bod y rheswm eich bod yn cael eich troi allan yn gysylltiedig â’ch anabledd - y term cyfreithiol am hyn yw cael eich ‘trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o ganlyniad i’ch anabledd’.

Bydd y gwahaniaethu'n cael ei ganiatáu os gall eich landlord roi rheswm da i chi dros eich trin fel hyn.

I fod â rheswm da, mae’n rhaid iddo allu dangos bod y ffordd y cawsoch eich trin yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae 2 ran i ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddo ddangos bod yr amcan yn un dilys. Gallai amcan dilys gynnwys:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gofalu bod y busnes yn cael ei redeg yn iawn
  • gwneud yn siŵr nad oes gormod o anghyfleustra i gymdogion

Yn ail, mae’n rhaid i’w ymddygiad fod yn gymesur hefyd – mae hyn yn golygu na all wahaniaethu mwy nag sydd raid. Os oes ffyrdd gwell a thecach o wneud pethau, bydd yn anoddach cyfiawnhau gwahaniaethu.

Er enghraifft, yn hytrach na'ch troi allan, gallai fod wedi rhoi cymorth neu gyngor i chi gael trefn ar eich arian neu geisio trafod gyda chi gyntaf.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, gallwch edrych i weld a yw'ch problem yn achos o wahaniaethu sy'n deillio o anabledd.

Enghraifft

Cafodd Mitch lythyr yn hawlio meddiant gan ei landlord – mae’n cael ei droi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd rhai cymdogion wedi cwyno ei fod yn gweiddi ac yn rhegi atyn nhw drwy'r amser.

Mae gan Mitch syndrom Tourette, sy’n golygu nad yw’n gallu atal ei hun rhag gweiddi a rhegi o bryd i’w gilydd.

Mae Mitch yn mynd i’w wrandawiad cymryd meddiant yn y llys ac yn egluro bod ei ymddygiad yn cael ei achosi gan syndrom Tourette, felly mae’n cael ei droi allan oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’i anabledd.

Mae’r landlord yn dweud ei bod wedi gorfod troi Mitch allan oherwydd bod ei ymddygiad yn creu gofid i'w gymdogion. Mae amcan y landlord yn ddilys gan ei fod yn ymwneud ag amddiffyn cymdogion Mitch.

Mae’r llys yn dweud nad oedd camau’r landlord yn gymesur oherwydd ei fod yn ymwybodol o anabledd Mitch, a gallai fod wedi trafod gydag ef a’r cymdogion gyntaf.

Mae’r llys yn cytuno â Mitch bod ei droi allan yn achos o wahaniaethu yn deillio o anabledd. Mae’r llys yn gwrthod hawliad y landlord ac mae Mitch yn cael aros yn ei gartref.

Gallwch ddefnyddio’r amddiffyniad hwn:

  • os yw’ch landlord wedi rhoi rheswm cyfreithiol yn ei hawliad yn eich erbyn (gelwir y rhesymau hyn yn ‘seiliau dros gymryd meddiant’)
  • lle nad yw wedi rhoi rheswm ond bod y gwir reswm mae'n eich troi allan yn gysylltiedig â’ch anabledd

Mae gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd wedi’u cynnwys yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os i'ch landlord fethu â gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich anabledd hefyd

Gallwch grybwyll hyn ynghyd â’r gwahaniaethu sy’n deilio o anabledd pan fyddwch chi’n mynd i’r llys. Dylech geisio dangos sut mae ei fethiant i wneud addasiadau wedi arwain at ei benderfyniad i'ich troi allan.

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol wedi’i chynnwys yn adrannau 20, 21, 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol

Efallai y gallwch chi ddangos bod y penderfyniad i’ch troi allan yn annheg gan ei fod yn rhoi pobl gyda nodwedd warchodedig dan anfantais arbennig.

Ni fydd y gwahaniaethu’n anghyfreithlon os gall eich landlord gyfiawnhau bod y driniaeth am reswm da.

I gael rheswm da, mae’n rhaid iddo allu dangos bod rhoi'r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ar waith yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae 2 ran i ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddo ddangos bod yr amcan yn un dilys. Gallai amcan dilys gynnwys:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gofalu bod ei fusnes yn cael ei redeg yn iawn
  • gwneud yn siŵr nad yw cymdogion yn cael eu tarfu ormod

Yn ail, mae’n rhaid i’w ymddygiad fod yn gymesur hefyd – mae hyn yn golygu na all wahaniaethu mwy nag sydd raid. Os oes ffyrdd gwell neu decach o wneud pethau, bydd yn anoddach cyfiawnhau gwahaniaethu.

Er enghraifft, yn hytrach na'ch troi allan, gallai fod wedi newid un o’i reolau neu roi cymorth ychwanegol i chi ddilyn allu cadw at y rheolau.

Enghraifft

Mae Cam yn cael ei throi allan am ôl-ddyledion rhent – mae ar ei hôl hi gyda’i rhent ac mae’r ddyled yn cadw i godi.

Mae Cam yn cynnig i’w landlord ei bod yn dechrau talu £5 ychwanegol fel rhan o'i rhent bob wythnos i glirio'i dyled. Mae’r landlord yn gwrthod oherwydd nad yw Cam wedi dilyn ei broses ar gyfer pobl sydd mewn dyled iddo. Y broses yw bod rhaid i bobl lenwi datganiad cymhleth yn egluro ei sefyllfa ariannol.

Mae gan Cam anhawster dysgu sy’n ei gwneud yn anodd iddi ddarllen a deall pethau. Nid yw’n gallu deall a llenwi’r datganiad.

Mae Cam yn mynd i’w gwrandawiad troi allan ac yn dweud wrth y llys bod rheol ei landlord yn wahaniaethu anuniongyrchol yn erbyn pobl anabl. Fel person anabl sy’n cael trafferth darllen ac ysgrifennu, mae o dan anfantais arbennig o gymharu â rhywun heb anabledd.

Mae Cam yn dweud bod y penderfyniad i’w throi allan yn cyfrif fel gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd hefyd gan ei bod yn cael ei thrin yn llai ffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’i hanabledd.

Mae’r landlord yn dweud bod yn rhaid iddo gael pobl i lenwi’r datganiad er mwyn sicrhau na fydd yn colli arian. Mae’r llys yn dweud nad yw hyn yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’ gan y gallai’r landlord fod wedi derbyn cynnig Cam heb iddi orfod llenwi’r ffurflen. Gallai fod wedi’i helpu i’w llenwi hefyd.

Mae’r llys yn cytuno â Cam ac yn dweud bod y penderfyniad i’w throi allan yn erbyn y gyfraith gan fod rheol y landlord yn rhoi rhywun sydd yn sefyllfa Cam dan anfantais arbennig o gymharu â rhywun heb ei hanabledd. Mae’r llys yn dweud ei fod yn achos o wahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

Os i'ch landlord fethu â gwneud addasiadau rhesymol hefyd

Gallwch grybwyll hyn law yn llaw â’r gwahaniaethu anuniongyrchol pan fyddwch chi’n mynd i’r llys. Dylech geisio dangos sut i fethiant y landlord i wneud addasiadau arwain at ei benderfyniad i'ch troi allan.

Os nad ydych chi eisoes wedi gofyn i’ch landlord am yr addasiadau rhesymol, dylech wneud hynny nawr.

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol wedi'i chynnwys yn adrannau 20, 21, 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi’n cael eich troi allan oherwydd bod gennych chi rent yn ddyledus i’ch landlord

Efallai y byddwch chi’n gallu cael iawndal tuag at y rhent sydd gennych chi’n ddyledus os gallwch chi brofi bod eich landlord wedi gwahaniaethu yn eich erbyn - gelwir hyn yn ‘wrth-hawliad’.

Gallwch wneud gwrth-hawliad hyd yn oed os nad oedd y gwahaniaethu yn gysylltiedig â'r troi allan ei hun. Y llys fydd yn penderfynu a fyddant yn caniatáu i'r hawliadau gael eu clywed o fewn yr un achos. Gofalwch eich bod yn ei gynnwys ar yr un adeg ag y byddwch yn cyflwyno’ch amddiffyniad.

Os yw hawliad cymryd meddiant gwreiddiol eich landlord wedi’i seilio ar eich ôl-ddyledion rhent, gallai’r iawndal y byddwch chi’n ei gael dalu eich dyled i gyd neu ran ohoni. Gallai hyn olygu eich bod yn gallu aros yn eich cartref – 'gwrthgyfrifiad' yw'r enw ar hyn.

Os yw’r iawndal ond yn clirio rhan o’ch ôl-ddyledion rhent, bydd y llys yn parhau i edrych ar hawliad eich landlord a phenderfynu a allwch chi aros yn y cartref.

Enghraifft

Roedd landlord Charlotte wedi dechrau achos llys i’w throi allan am ôl-ddyledion rhent – mae arni £1,000 i’w landlord. Yn ystod y misoedd diwethaf mae landlord Charlotte wedi bod yn gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus drwy wneud sylwadau rhywiol ati.

Digwyddodd un o gymdogion Charlotte glywed rhai o’r sylwadau ac mae’n barod i ddod i’r llys fel tyst. Gall Charlotte ddefnyddio’r dystiolaeth hon i helpu i brofi bod ei landlord wedi bod yn aflonyddu arni oherwydd ei rhyw.

Mae Charlotte yn gwneud gwrth-hawliad yn erbyn ei landlord yn ei gwrandawiad cymryd meddiant. Mae’r llys yn derbyn ei thystiolaeth bod ei landlord wedi aflonyddu arni ac maent yn dyfarnu digon o iawndal i ddileu ei dyled o £1,000.

Mae’r iawndal yn golygu nad oes gan Charlotte unrhyw ddyled i’w landlord bellach felly penderfynodd y llys beidio â gwneud gorchymyn cymryd meddiant. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i Charlotte adael ei chartref os nad yw’n dymuno gwneud hynny.

Os yw’r rheswm nad ydych chi wedi talu yn gysylltiedig â’ch nodwedd warchodedig

Efallai y byddwch chi’n gallu atal cael eich troi allan os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol neu'n wahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

Os yw’r rheswm nad ydych chi wedi talu’ch rhent yn gysylltiedig â’ch nodwedd warchodedig, gallai penderfyniad eich landlord i’ch troi allan fod yn wahaniaethu. Gallai’ch landlord ddadlau bod ganddoreswm da dros ei benderfyniad. Er enghraifft, gallai ddweud ei fod angen i’r rhent gael ei dalu'n llawn ac ar amser er mwyn iddo allu cynnal ei eiddo.

I gael rheswm da, mae’n rhaid iddo allu dangos bod y ffordd y cawsoch eich trin yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae 2 ran i ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddo ddangos bod yr amcan yn un dilys. Gallai amcan dilys gynnwys:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gofalu bod ei fusnes yn cael ei redeg yn iawn
  • gwneud yn siŵr nad yw cymdogion yn cael eu tarfu ormod

Yn ail, mae’n rhaid i’w ymddygiad fod yn gymesur hefyd – mae hyn yn golygu na all wahaniaethu mwy nag sydd raid. Os oes ffyrdd gwelld a thecach o wneud pethau, bydd yn anoddach cyfiawnhau gwahaniaethu.

Gallwch awgrymu ffyrdd eraill o ddatrys y broblem. Er enghraifft, efallai y gall eich landlord:

  • helpu gyda chais am fudd-daliadau a fydd yn eich helpu i dalu’r rhent
  • gwneud cytundeb gyda chi ar gyfer sut byddwch yn talu’ch ôl-ddyledion rhent
  • rhoi mwy o amser i chi dalu
  • gwneud rhywbeth i’ch gwneud yn fwy tebygol o gofio'ch taliadau yn y dyfodol

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi dalu rhent, felly ceisiwch ddatrys unrhyw broblemau sy’n golygu na allwch dalu, a dechrau talu cyn gynted ag y gallwch. Fel arfer, bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi aros yn eich cartref.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol wedi'i gynnwys yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd wedi'i gynnwys yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi wedi gofyn am addasiadau rhesymol, ac yn cael eich troi allan nawr

Gallai hyn fod yn ‘erledigaeth’. Mae’r gyfraith yn dweud ei fod yn erledigaeth os ydych chi’n ‘destun niwed’ oherwydd eich bod wedi gwneud neu am wneud ‘gweithred warchodedig’ o bosibl. Mae gofyn am addasiadau rhesymol yn enghraifft o weithred warchodedig, Mae hyn yn golygu os ydych chi'n cael eich troi allan am eich bod wedi gofyn am addasiadau rhesymol, byddai hynny’n erledigaeth.

Mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod yn cael eich troi allan oherwydd eich cais am addasiadau rhesymol, nei ei fod yn un o’r rhesymau.

Os ydych chi’n herio’r penderfyniad i’ch troi allan mewn llys, bydd yn rhaid i’ch landlord ddangos nad oes gan y rheswm unrhyw beth i’w wneud â chi’n gofyn am addasiadau rhesymol.

Mae rheolau arbennig am “y baich profi” yn adran 136 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae erledigaeth wedi’i gynnwys yn adran 27 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad ydych chi’n gwneud gwrth-hawliad

Efallai y byddwch chi’n gallu cael iawndal am unrhyw wahaniaethu rydych chi wedi’i brofi gan eich landlord. Bydd angen i chi drin hyn ar wahân i’r penderfyniad i’ch troi allan – gallwch ddarllen mwy am benderfynu beth i'w wneud am wahaniaethu mewn perthynas â thai.

Camau nesaf

Ar ôl i chi benderfynu pa ddadleuon y gallwch chi eu defnyddio, bydd angen i chi gasglu tystiolaeth o'r gwahaniaethu cyn i chi lenwi’ch ffurflen amddiffyn.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)