Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012: cyfrifo taliadau cynhaliaeth - faint o blant sydd yn eich teulu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Wedi i chi gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth plant, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sydd angen eu talu.

Fe fydd y cyfrifiad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys faint o blant sydd yn y teulu ac a ydyn nhw'n gymwys i gael eu cynnwys wrth gyfrifo. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am y plant sy'n medru cael eu cyfrif.

Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o bobl sy'n gymwys ar gyfer Cynllun 2012. Caiff y rhan fwyaf o geisiadau am daliadau cynhaliaeth eu trafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gynllun yr ydych chi'n ei ddefnyddio cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Pa blant sy'n cael eu cyfrif wrth gyfrifo taliadau cynhaliaeth?

Mae cyfrifiad y taliadau cynhaliaeth yn seiliedig ar y nifer o blant sydd yn y teulu, hynny yw:

  • faint o blant sy'n cael gofal gan y rhiant a ddylai fod yn cael y taliadau cynhaliaeth. Gelwir y rhain yn blant cymwys, a
  • faint o blant eraill sydd gan y rhiant a ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill.

Pa blant cymwys sy'n cael eu cyfrif wrth gyfrifo taliadau cynhaliaeth?

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cyfrifo taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012 dim ond os oes o leiaf pedwar plentyn cymwys ac mae gan o leiaf pedwar ohonynt yr un ddau riant. Fe fydd y plant hyn ond yn cael eu cyfrif yn y cyfrifiad os ydyn nhw dan oed penodol.

Plant cymwys sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad

Hyd yn oed os ydyn nhw o fewn y grwp oedran ar gyfer cael eu cyfrif wrth gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth, ni fydd plant yn cael eu cyfrif yn yr achosion canlynol:

  • maen nhw'n briod neu mewn partneriaeth sifil, neu
  • maen nhw wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os ydych chi hefyd yn talu taliadau cynhaliaeth am blant eraill

Efallai eich bod eisoes yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth am blant eraill sydd heb eu henwi yn y cais am daliadau cynhaliaeth.

Caiff taliadau Cynhaliaeth Plant eu rhannu yn gyfraddau yn ôl eich amgylchiadau a faint o arian yr ydych chi'n ei ennill.

Os oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd sylfaenol neu ostyngol, efallai y bydd plant eraill yn cael eu cyfrif fel plant cymwys wrth gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth.

Er enghraifft, mae hyn yn medru bod oherwydd:

  • trefnwyd y taliadau cynhaliaeth gan lys tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • mae'r plentyn yn byw tu allan i'r Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth dan reolau'r wlad honno, hyd yn oed os nad oes gorchymyn llys
  • rydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth dan drefniant sy'n seiliedig ar y teulu.

Yn yr achosion hyn, mae swm y taliadau cynhaliaeth y mae'n rhaid i chi eu talu yn cael ei rannu rhwng yr holl blant y mae'n rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth ar eu cyfer. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth o unrhyw orchmynion cynhaliaeth neu drefniadau sy'n seiliedig ar y teulu.

Os byddai'r cyfrifiad hwn yn gostwng swm wythnosol y taliadau cynhaliaeth y mae'n rhaid i chi eu talu i lai na'r gyfradd unradd o £5 yr wythnos, fe fyddwch yn talu'r gyfradd unradd. Os oes sawl un yn rhannu gofal bob dydd y plant, gellir rhannu'r gyfradd unradd rhyngddynt.

Trefniadau cynhaliaeth sydd eisoes mewn lle

Fe fydd unrhyw orchmynion cynhaliaeth neu drefniadau sy'n seiliedig ar y teulu sydd eisoes mewn lle yn aros yn eu lle. Ond, os oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth i blant eraill, fe allwch ofyn:

  • i'r llys addasu'r gorchymyn cynhaliaeth, neu
  • i'r rhiant arall addasu'r trefniant sy'n seiliedig ar y teulu.

Os oes plentyn cymwys yn marw

Os oes plentyn cymwys yn marw cyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth, fe fydd y cyfrifiad yn cael ei addasu i adlewyrchu'r newid mewn amgylchiadau. Fe fydd y taliadau cynhaliaeth yn dal i gael eu cyfrifo o dan reolau Cynllun 2012.

Plant perthnasol eraill

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant hefyd yn ystyried faint o blant eraill sydd gennych chi a'ch partner presennol pan fyddan nhw'n cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth. Cyfeirir at y plant hyn fel plant perthnasol eraill.

Er mwyn cyfrif fel plentyn perthnasol arall, rhaid eich bod chi neu'ch partner presennol yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Nid oes rhaid mae eich plant biolegol yw nhw, ac nid oes rhaid bod gennych orchymyn rhiant ar eu cyfer. Mae plant perthnasol eraill yn cynnwys:

  • plant eich partner presennol
  • nrhyw blant sydd gennych gyda'ch partner newydd
  • plant sy'n byw yn rhywle arall, er enghraifft, am eu bod mewn ysgol breswyl neu yn yr ysbyty
  • plant ble mae'r gofal yn cael ei rannu gyda rhywun arall
  • plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol am rhan o'r amser neu drwy'r amser.

Er mwyn fod plentyn yn cyfrif fel plentyn perthnasol arall, rhaid iddo fodloni'r un amodau â'r rheiny sy'n berthnasol i blant cymwys. Er enghraifft, rhaid ei fod o fewn y grwp oedran cymwys.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am gyfrifiadau gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003: www.cmoptions.org
  • Mwy am sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth: www.dwp.gov.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)