Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - herio penderfyniad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae ffyrdd gwahanol y gellir cwestiynu neu herio penderfyniad cynhaliaeth a wneir gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o bobl sy’n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012. Caiff tâl cynhaliaeth y mwyafrif o bobl ei gyfrif gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynlluniau 1993 neu 2003. Os cafodd y penderfyniad ei wneud gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynlluniau 1993 neu 2003, ni ddylech ddefnyddio’r wybodaeth hon oherwydd gallai’r rheolau fod yn wahanol.

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y gallwch herio penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a lle y gallwch gael rhagor o gymorth.

Sut y gallwch chi herio penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os nad ydych chi’n hapus am benderfyniad cynhaliaeth a wnaed gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a’ch bod yn credu eu bod wedi gwneud camgymeriad, gallech ofyn iddyn nhw edrych arno eto. Gelwir hyn hefyd yn ofyn am adolygiad neu ailystyriaeth.

Y terfyn amser ar gyfer gofyn am adolygiad yw un mis o ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu chi am y penderfyniad.

Os ydych chi’n colli’r terfyn amser hwn gallech ofyn am adolygiad hwyr mewn amgylchiadau eithriadol. Fodd bynnag rhaid i chi wneud y cais o fewn 13 mis i chi gael eich hysbysu am y penderfyniad ar yr hwyraf.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Mewn llawer o achosion mae gennych chi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol. Y terfyn amser yw un mis ar ôl:

  • y dyddiad y gwnaeth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant y penderfyniad rydych chi’n anhapus amdano, neu
  • y dyddiad yr edrychodd y Gwasanaeth ar y penderfyniad a’ch hysbysu chi nad ydyn nhw am ei newid.

O fis Ebrill 2013, ni chewch apelio tan fod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi edrych ar y penderfyniad unwaith eto. Gelwir hyn yn ailystyriaeth.

Gellir derbyn apeliadau hwyr, ond rhaid cael rhesymau da ac efallai yr holir y rhiant arall a yw’n gwrthwynebu derbyn yr apêl ar ôl y terfyn amser o un mis.

Pryd na chewch chi apelio i dribiwnlys

Ni chewch apelio i dribiwnlys

  • os ydych chi’n gwadu mai chi yw rhiant y plentyn
  • os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn gan y  Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
  • os ydych chi’n dymuno apelio yn erbyn gorchymyn didynnu enillion. Bydd rhaid i chi apelio i’r llys sirol
  • os ydych chi am herio penderfyniad oherwydd bod eich amgylchiadau wedi newid

Os yw eich amgylchiadau’n newid, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid cyfrifiad cynhaliaeth plant i adlewyrchu’r newidiadau. Mae newid amgylchiadau’n cynnwys:

  • os yw incwm yn codi neu ostwng 25 y cant neu fwy
  • os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn dod yn gyfrifol yn ariannol am blentyn newydd
  • os yw plant oedd yn derbyn cynhaliaeth bellach yn anghymwys i’w dderbyn.

Gelwir hyn yn ddisodliad. Gallwch ymgeisio am ddisodliad ar unrhyw adeg. Nid oes terfyn amser.

Amrywio penderfyniad

Gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant amrywio penderfyniad y mae wedi’i wneud am gynhaliaeth plant. Gallwch wneud hyn os oes rhywbeth wedi newid yn eich bywyd a bod rheolau newydd yn gymwys ar gyfer gwneud y cyfrifiad cynhaliaeth. Er enghraifft, mae gennych chi bellach dreuliau arbennig na chafodd eu cyfrif yn y cyfrifiad gwreiddiol ac a allai effeithio ar faint y dylech ei dalu.

Gallwch ymgeisio am amrywiad ar unrhyw adeg cyhyd â bod gennych chi sail. Nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hyn.

Gofyn am adolygiad barnwrol

Os ydych chi’n credu nad yw’r gyfraith wedi’i chymhwyso’n gywir yn eich achos chi, efallai y gallech chi ofyn i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol arbenigol ynglyn â hyn.

Rhaid i chi wneud hawliad am adolygiad barnwrol cyn gynted â phosibl ac o fewn tri mis i’r penderfyniad rydych chi am ei herio. Mewn amgylchiadau eithriadol gellir estyn y terfyn amser hwn, ond ni allwch chi ddibynnu ar hyn.

Os ydych chi’n dymuno cwyno am y gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Mae’n bosibl eich bod yn anhapus â’r ffordd rydych chi wedi cael eich trin gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, er nad ydych chi ddim yn dadlau â phenderfyniad mae wedi’i wneud. Er enghraifft efallai y cafwyd oedi wrth ddelio â’ch hawliad.

Gallwch gwyno am wasanaeth gwael, naill ai’n anffurfiol neu’n ffurfiol. Mae’n well dechrau drwy siarad â’r sawl y buoch yn delio â nhw i geisio datrys y broblem yn anffurfiol. Os nad yw hyn yn gweithio gallwch wneud cwyn ffurfiol gan ddefnyddio gwasanaeth cwyno’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Nid oes terfyn amser y mae’n rhaid i chi gwyno oddi fewn iddo. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y cewch chi iawndal ond bydd hynny’n dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.

Y camau nesaf

Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cynhyrchu taflen sy’n dweud rhagor wrthych chi am sut i wneud y canlynol:

  • dadlau â phenderfyniad
  • gofyn am adolygiad
  • gwneud apêl
  • gwneud cwyn am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
  • beth i’w wneud os ydych chi’n gwadu mai chi yw tad y plant.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Cewch wybod rhagor am ofyn am adolygiad barnwrol ar wefan y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus: www.publiclawproject.org.uk
  • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn gwadu mai fe yw rhiant y plentyn: www.gov.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)