Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sut i ddod i drefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi'n  gwahanu, mae'r ddau/ddwy ohonoch yn dal i fod yn gyfrifol am gostau ariannol magu unrhyw blant.

Os yw'n bosib, gallwch wneud y trefniadau ariannol hyn eich hun i gefnogi'r plant yn ariannol. Gelwir y rhain yn gytundebau cynhaliaeth plant gwirfoddol neu'n drefniadau cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth yw trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu a sut i ddod i drefniant o'r fath.  Mae hefyd yn dweud wrthych ble i fynd i gael help i wneud trefniant sy'n seiliedig ar y teulu.

Manteision trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu

Nid yw trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu'n costio dim i'w drefnu. Mae'n medru bod yn syml ac yn hawdd ei drefnu oherwydd nid oes rhaid i chi ddelio gydag unrhyw reolau nac awdurdodau swyddogol. Mae'n golygu eich bod yn medru cytuno:

  • rhyngoch chi'n hun faint o gynhaliaeth ddylid ei dalu
  • sut y dylid talu a phryd
  • i newid trefniadau os bydd amgylchiadau'n newid
  • i dalu am eitemau yn lle arian. Er enghraifft, gallech brynu dillad ysgol newydd yn lle gwneud un o'ch taliadau arferol.

Anfanteision cytundeb cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu

Nid yw cytundebau cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu yn rhwymo'n gyfreithiol ac nid oes modd eu gorfodi. Mae hyn yn golygu na ellir gorfodi unrhyw riant sy'n stopio talu i dalu.

Efallai y bydd yn anodd dod i drefniant ynghylch cynhaliaeth plant. Er enghraifft, efallai eich bod wedi gadael perthynas dreisgar ble byddai'n anniogel i chi fod mewn cyswllt a'ch cynbartner. Neu efallai y bydd gennych syniadau gwahanol ynghylch faint fyddai'n swm rhesymol o gynhaliaeth plant.

Efallai, felly, y bydd angen i chi gael help i lunio cytundeb cynhaliaeth sy'n seiliedig ar y teulu. Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn ar wefan o'r enw Child Maintenance Options.

Beth i'w gynnwys mewn trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu

Fe fydd angen i chi gofio'r pwyntiau canlynol:

  • faint o gynhaliaeth ddylid ei dalu
  • pa mor aml ddylid talu
  • sut fydd y taliadau'n cael eu gwneud a phryd
  • dyddiad adolygu i siarad am y trefniant ac i wneud unrhyw newidiadau os nad yw'n gweithio.

Mae cyngor pellach ar wefan Child Maintenance Options ynghylch yr hyn ddylech chi ei gynnwys mewn trefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu.

Cyfrifo faint o gynhaliaeth plant ddylid ei dalu

Fel arfer, mae swm y cynhaliaeth plant yn seiliedig ar incwm y rhiant sydd heb ofal y plant o ddydd i ddydd. Dylech gytuno i'r hyn sy'n fforddiadwy ac yn realistig yn unig.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Child Maintenance Options i gael syniad o'r hyn y gallech orfod ei dalu neu'r hyn y gallech chi ei dderbyn petai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi trefnu cynhaliaeth plant i chi.

Mae'r ffigwr hwn yn medru bod yn fan cychwyn i drafod faint o gynhaliaeth plant i gytuno iddo.

Newid mewn amgylchiadau

Os oes gennych drefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu, ni fydd yn rhaid i chi ddweud wrth y rhiant arall am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Ond, mae'n syniad da cynnwys dyddiad adolygu fel eich bod yn medru ailystyried y cytundeb a'i newid os oes angen.

Os ydych chi'n talu cynhaliaeth plant ac mae'ch amgylchiadau'n newid cyn y dyddiad adolygu, efallai y bydd angen i chi geisio trafod eich trefniant eto. Er enghraifft, os ydych yn colli'ch swydd, neu os ydych yn cael babi gyda phartner newydd, efallai na fyddwch yn medru fforddio'r cynhaliaeth yr oeddech yn ei dalu o'r blaen mwyach.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein gwefan Child Maintenance Options i gyfrifo faint fyddai'r ffigwr newydd petai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi trefnu cynhaliaeth plant ar eich cyfer.

Sicrhau bod trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn rhwymo'n gyfreithiol

Os yw'r ddwy ochr yn cytuno, fe allech gyflwyno cais i'r llys i droi cytundeb sy'n seiliedig ar y teulu yn Orchymyn Cydsynio sy'n rhwymo'n gyfreithiol.

Gallwch ond cyflwyno cais am Orchymyn Cydsynio os nad yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant eisoes wedi trefnu cytundeb cynhaliaeth.

Os nad yw'ch cynbartner yn cydymffurfio â Gorchymyn Cydsynio.

Os ydych wedi sefydlu Gorchymyn Cydsynio ac nid yw'n gweithio, gallwch gyflwyno cais o hyd i'r Asiantaeth Cynnal Plant i drefnu cynhaliaeth, ond dim ond pan fydd y gorchymyn wedi bod yn ei le ers 12 mis, o leiaf. Gelwir hyn yn rheol 12 mis. Neu fe allwch fynd yn ôl i'r llys i gael y Gorchymyn Cydsynio wedi ei orfodi.

Cymorth i lunio cytundeb cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu

Child Maintenance Options

Mae Child Maintenance Options yn wasanaeth diduedd a chyfrinachol, rhad ac am ddim, a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ogystal â chyngor ar sut i lunio cytundeb cynhaliaeth sy'n seiliedig ar y teulu, mae’n medru cynnig:

  • cyfrifydd cynhaliaeth ar-lein
  • ffurflen cytundeb wag i chi ei defnyddio i lunio'ch trefniant eich hun.

Cyngor cyfreithiol

Efallai yr hoffech chi gael cyngor cyfreithiol cyn cytuno i gytundeb cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu.

Mae cymorth cyfreithiol ar gael mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig.

Cyngor ariannol

Efallai yr hoffech chi gael cyngor ariannol cyn cytuno i gytundeb sy'n seiliedig ar y teulu. Er enghraifft, fe allai hyn eich helpu i ddeall sefyllfa ariannol eich cynbartner yn well a'ch helpu chi i drafod cytundeb cynhaliaeth sy’n drefniant sy'n seiliedig ar y teulu ac sy'n fwy realistig. Ni fyddwch yn cael help ariannol i dalu am gynghorydd ariannol.

Cyfryngu

Os ydych yn ei chael yn anodd dod i gytundeb ynghylch cynhaliaeth, fe allech gael help cyfryngwr teuluol. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid bod y ddau ohonoch yn barod i fynd. Ni fydd unrhyw benderfyniadau yr ydych yn eu gwneud yno'n rhwymo'n gyfreithiol, onid ydych yn cael y cytundeb wedi ei lunio yn y llys.

Mewn rhai achosion, efallai y cewch help ariannol gyda chostau cyfryngwr.

Os yw'ch trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn methu

Os yw'ch trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn methu, gallech ofyn i gyfryngwr teuluol geisio eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau

Fel yr opsiwn olaf un, fe allwch ddefnyddio cynllun statudol i drefnu cynhaliaeth plant.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

I ddod o hyd i gyfryngwr teuluol lleol, ewch at:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)