Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwneud trefniadau plant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os yw’ch perthynas yn dod i ben a bod gennych chi blant, bydd angen i chi gytuno ble bydd eich plant yn byw. Bydd angen i chi hefyd benderfynu faint o amser y byddant yn ei dreulio gyda’r naill a’r llall ohonoch. Gelwir hyn yn ‘drefniadau plant’.

Cytundeb anffurfiol yw trefniadau plant fel arfer – ond gall helpu i’w nodi ar bapur hefyd.

Bydd ond angen i chi fynd i’r llys os oes trais neu gam-drin wedi bod yn eich perthynas, neu os nad ydych chi’n gallu cytuno.

Mae trefnu sut i dalu am eich plant yn rhan arall o wneud trefniadau plant - dyma ragor o wybodaeth am wneud penderfyniadau am gynhaliaeth plant.

Dylech gael cymorth i wneud trefniadau plant os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu eich bod yn teimlo dan fygythiad.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gall Refuge neu’r Cymorth i Ferched roi cyngor, cymorth emosiynol ac ymarferol a gwybodaeth i chi am lefydd eraill i gael cymorth. Mae ganddynt linell gymorth 24 awr: 0808 2000 247.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Cytuno ar ble fydd eich plant yn byw

Bydd angen i chi benderfynu ble fydd eich plant yn aros. Er enghraifft, efallai y byddant yn byw gydag un rhiant y rhan fwyaf o’r amser - ond yn ymweld â’r rhiant arall ar benwythnosau.

Wrth benderfynu, dylech geisio meddwl am:

  • pwy sydd â’r amser mwyaf i ofalu am y plant, ac ar ba ddyddiau – er mwyn i chi sicrhau bod y plant yn treulio amser gwerth chweil gyda’r naill riant a’r llall
  • y pethau mae eich plant yn eu gwneud - er enghraifft, efallai na fydd yn syniad da iddynt aros yn rhywle sy’n bell o’u hysgolion ar noson ysgol
  • gallai pethau ddigwydd yn y dyfodol – er enghraifft, pe baent yn newid ysgolion, gofalwch eu bod yn gallu cyrraedd eu hysgol newydd yn hawdd ar noson ysgol

Os nad ydynt yn byw gyda chi, gallai’r amser y mae eich plant yn ei dreulio gyda chi effeithio ar faint o gynhaliaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Er enghraifft, gallwch dalu llai o gynhaliaeth os ydynt yn treulio 1 noson yr wythnos yn eich tŷ. Mae hyn er mwyn gwneud i fyny am yr arian y byddwch chi’n ei wario yn gofalu amdanynt. Gallwch weld faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at ofalu am eich plant ar GOV.UK.

Cadw mewn cysylltiad â’ch plant

Pan fyddwch chi’n cytuno ble fydd eich plant yn aros, dylech hefyd benderfynu sut byddwch chi’n cadw mewn cysylltiad â nhw pan fyddan nhw’n aros gyda’ch cynbartner.

Os ydych chi wedi symud tŷ a’i bod yn anodd i’ch plant ymweld â’ch cartref newydd, gallech gytuno i’w cyfarfod yn nhŷ perthynas neu ffrind i’r teulu.

Os ydych chi’n symud i ffwrdd o’ch plant, cytunwch sut y byddwch chi’n cadw mewn cysylltiad. Gallech ofyn i’ch cynbartner rannu costau teithio gyda chi neu eich cyfarfod rywle gyda’r plant.

Cytuno ar sut i gadw mewn cysylltiad â’ch cynbartner

Os gallwch chi, cytunwch ar ffordd y byddwch chi’n cysylltu â’ch gilydd mewn argyfwng.

Os nad ydych chi am siarad â’ch gilydd, gallech gytuno i e-bostio, anfon neges testun neu ddewis ffrind a allai gyfathrebu ar eich rhan.

Nodwch eich cytundeb ar bapur

Dylech nodi’r hyn rydych chi wedi’i gytuno ar bapur - gelwir hyn yn llunio cynllun rhianta. Bydd yn ddefnyddiol cyfeirio yn ôl at hwn yn y dyfodol, os nad ydych chi’n gallu cofio'r hyn y cytunwyd arno neu os nad yw rhywbeth yn gweithio.

Gallwch lunio eich cytundeb eich hun, llenwi templed ar-lein neu argraffu un a'i llenwi.

Gofalwch fod gennych chi a’ch cynbartner gopi. Gallwch newid eich cynllun gyda’ch gilydd ar unrhyw adeg.

Cael help gyda threfniadau plant

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i gytuno ar drefniadau plant, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu. Mae’n llawer haws a rhatach na mynd i’r llys am gymorth.

Mae cyfryngwr yn rhywun a fydd yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb gyda’ch gilydd - dyma ragor o wybodaeth am fynd at wasanaeth cyfryngu.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ganllawiau i'ch helpu chi a'ch cyn-bartner i wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer eich plant a chytuno ar drefniadau plant.

Mae gan Relate gyngor ar rianta ar wahân a delio â theimladau eich plant pan fyddwch chi'n gwahanu.

Os nad yw eich trefniadau yn gweithio

Gallwch geisio cytuno ar rywbeth gwahanol ymysg eich gilydd, neu fynd yn ôl at wasanaeth cyfryngu ar unrhyw adeg i geisio cael trefn ar unrhyw anghytuno. Hyd yn oed os ydych chi’n mynd yn ôl dro ar ôl tro at y gwasanaeth cyfryngu, mae’n siŵr y bydd yn rhatach na mynd i’r llys.

Os ydych chi a’ch cynbartner wedi ceisio a methu cytuno sawl tro, bydd angen i chi fynd i'r llys i gael penderfyniad y bydd yn rhaid i'r naill ochr a'r llall gadw ato.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)