Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’ch cyn-bartner yn cymryd eich plant heb ganiatâd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallwch atal eich cyn-bartner rhag mynd â’ch plant i unrhyw le heb eich caniatâd.

Mae angen i chi weithredu ar unwaith – os ydych chi’n meddwl eu bod yn mynd i gael eu cymryd i rywle yn y DU neu dramor.

Os ydych chi’n meddwl eu bod yn mynd i gael eu cymryd dramor i fyw

Dylech gael cyngor cyfreithiol ar unwaith – gall cyfreithiwr ddweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Efallai y gallech gael cymorth cyfreithiol, neu gymorth gyda ffioedd os ydych chi ar incwm isel. Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr a gweld sut gallwch chi dalu.

Gallwch hefyd gysylltu â Reunite, elusen sy’n arbenigo mewn achosion herwgipio plant i wledydd tramor.

Os ydych chi’n meddwl y bydd eich plant yn cael eu cymryd allan o’r wlad yn y 48 awr nesaf, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Os gallwch chi, cuddiwch eu pasbortau. Os nad ydynt yn eich meddiant, edrychwch ar GOV.UK i weld a allwch chi atal eu pasbortau.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud

Gall yr heddlu roi rhywbeth a elwir yn ‘rhybudd porthladdoedd’ a fydd yn atal y plentyn rhag cael ei gymryd allan o’r wlad.

Ceisiwch gasglu unrhyw dystiolaeth y gallwch chi fod eich partner yn bwriadu mynd â nhw dramor i ddangos i’ch cyfreithiwr a’r heddlu - er enghraifft, negeseuon testun, e-bost a thocynnau.

Os ydynt yn symud o fewn y DU

Os nad ydych chi’n gallu cytuno ble fydd eich plant yn byw, dylech fynd at wasanaeth cyfryngu. Bydd cyfryngwr proffesiynol yn ceisio eich helpu i ddod i gytundeb sy’n gweithio i chi a’ch plant.

Oni bai bod trais domestig yn eich perthynas, bydd angen i chi fynd i o leiaf 1 sesiwn gyfryngu cyn i chi allu mynd i’r llys - hyd yn oed os nad yw eich partner am fynd gyda chi. Gelwir y sesiwn hon yn gyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu (‘MIAM’).

Dylech ofalu bod gennych chi gyfrifoldeb rhiant. Mae gan bob mam a’r rhan fwyaf o dadau y cyfrifoldeb hwn. Os nad ydych chi’n siŵr, gallwch edrych a oes gennych chi gyfrifoldeb rhiant ar GOV.UK a gwneud cais os nad oes gennych chi.

Os na allwch chi gytuno

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu neu eisoes wedi bod mewn MIAM, gallwch wneud cais i’r llys am ‘orchymyn camau gwaharddedig’.

Rydych chi ond yn debygol o gael gorchymyn camau gwaharddedig os gallwch chi ddangos bod eich cyn-bartner yn ceisio symud eich plant am reswm nad yw er eu budd - er enghraifft, i atal eich plant rhag eich gweld.

Efallai y byddwch yn gallu dangos hyn os ydynt wedi ceisio eich atal rhag gweld eich plant yn y gorffennol - er enghraifft, drwy ddileu trefniadau rydych chi wedi’u gwneud i dreulio amser gyda nhw.

Os yw’ch cyn-bartner yn gallu dangos y bydd bywydau eich plant yn well wrth symud, mae’n fwy tebygol y bydd y llys yn penderfynu o’u plaid.

Os gallwch chi, ceisiwch gael cyngor cyn mynd i'r llys. Bydd cyfreithiwr yn gallu dweud wrthych chi a yw’r llys yn debygol o benderfynu o’ch plaid. Gallech ofyn am gael siarad â chynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol.

Bydd angen i chi fynd i’r llys i wneud cais am orchymyn camau gwaharddedig. Dylech lenwi'r ffurflen i ddechrau ar GOV.UK. Yna bydd y llys yn cysylltu â chi am eich gwrandawiad. Mae rhagor o wybodaeth am beth sy'n digwydd nesaf ar GOV.UK.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)