Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dod o hyd i gymorth cyfreithiol am ddim neu gymorth fforddiadwy

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os na allwch chi fforddio cyngor cyfreithiol neu gymorth yn y llys, efallai y gallech gael cymorth rhatach neu gymorth am ddim.

Efallai y gallwch gael:

  • cymorth cyfreithiol ar gyfer problem ddifrifol
  • cyngor am ddim, am bris gostyngol neu am swm penodol gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol neu elusennau sy’n darparu cyngor
  • cyngor cyfreithiol am ddim gan eich undeb llafur neu sefydliad lle’r ydych chi’n aelod
  • cyngor cyfreithiol trwy bolisïau yswiriant

Os cawsoch eich arestio a’ch bod yn mynd i gael eich croesholi yng ngorsaf yr heddlu, gallwch ddysgu rhagor am eich hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim yn GOV.UK – dydy eich incwm ddim yn berthnasol ar gyfer hyn.

Cael cymorth cyfreithiol

Os yw eich achos yn ddifrifol a’ch bod yn methu talu eich costau cyfreithiol, efallai y bydd cymorth cyfreithiol yn talu ychydig o’r costau neu’r costau i gyd.

Efallai y cewch chi gymorth cyfreithiol, er enghraifft:

  • os ydych chi neu eich plant mewn perygl o drais domestig neu briodas dan orfod
  • os oes perygl i chi golli eich cartref
  • os oes angen cyfryngu teuluol arnoch
  • os ydych yn destun gwahaniaethu
  • os ydych chi’n mynd ag achos i’r llys o dan y Ddeddf Hawliau Dynol
  • os cawsoch eich cyhuddo o drosedd ac y gallech gael eich anfon i garchar

Mae dau fath o gymorth cyfreithiol, ar gyfer achosion troseddol a sifil.

Os mai achos sifil sydd gennych chi gallwch:

Os yw’n achos troseddol, dylech ofyn i’ch cyfreithiwr neu fargyfreithiwr a oes modd i chi gael cymorth cyfreithiol. Ar ôl i chi adael gorsaf yr heddlu, bydd unrhyw gymorth cyfreithiol y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich incwm.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr. Hefyd gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i ofyn a oes ganddyn nhw restr o gyfreithwyr sy’n darparu cymorth cyfreithiol.

Cael cymorth am ddim

Mae rhai elusennau neu gyfreithwyr gwirfoddol yn gallu bod o gymorth os na allwch chi gael cymorth cyfreithiol neu eich bod yn methu fforddio talu am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr eich hun.

Gofynnwch yn eich Cyngor ar Bopeth lleol

Efallai y gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu chi gyda phroblemau fel:

  • budd-daliadau
  • dyled
  • gwahaniaethu
  • hawliau cyflogaeth
  • teulu
  • gofal cymdeithasol neu iechyd
  • tai a digartrefedd
  • mewnfudo a lloches

Gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i weld a allan nhw roi cyngor i chi ar eich problem.

Cael cymorth gyda phroblemau defnyddwyr

Gallwch ffonio llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen cymorth arnoch gyda phroblemau defnyddwyr.

Chwilio am ganolfan gyfreithiol

Efallai y cewch chi gyngor gan gyfreithiwr neu gynghorydd wedi’i hyfforddi yn y gyfraith mewn canolfan gyfreithiol. Mae canolfannau cyfreithiol yn ymdrin â phroblemau fel:

  • budd-daliadau
  • gofal yn y gymuned
  • gwahaniaethu
  • addysg
  • cyflogaeth
  • teulu
  • tai a digartrefedd
  • mewnfudo a lloches

Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan gyfreithiol agosaf ar wefan Rhwydwaith y Canolfannau Cyfraith (Law Centres Network).

Cysylltu â LawWorks

Gallwch chwilio am glinig cynghori cyfreithiol am ddim ar wefan LawWorks - mae gwybodaeth yno hefyd am sefydliadau eraill a allai eich helpu chi.

Cael cymorth gan yr elusen Advocate

Os yw eich achos yn mynd i’r llys neu i dribiwnlys, efallai y gallech gael bargyfreithiwr i’ch cynrychioli am ddim drwy Advocate. Gallwch weld a fyddai Advocate yn eich helpu chi trwy edrych ar eu gwefan.

Cyllid achos eithriadol

Os na allwch chi gael cymorth cyfreithiol, mae siawns fach y gallech gael cymorth drwy ‘gyllid achos eithriadol’.

Gallwch weld sut i wneud cais am gyllid ar gyfer achos eithriadol heb ddefnyddio gweithiwr cyfreithiol proffesiynol ar wefan Public Law Project.

Gallwch ofyn am gymorth i wneud cais yn eich Canolfan ar Bopeth agosaf.

Defnyddio cyfreithiwr mewn ffordd ratach

Efallai y gallech gael cyfarfod byr gyda chyfreithiwr am ddim neu am gost sefydlog. Mae cyfreithwyr eraill yn barod i weithio drosoch ar sail ‘dim llwyddiant, dim ffi’.

Gallwch wirio’r prisiau am rai gwasanaethau cyffredin ar wefannau cyfreithwyr. Mae’n rhaid iddyn nhw gyhoeddi’r pris am gyngor ar faterion fel:

  • trefnu arian, meddiant ac eiddo rhywun sydd wedi marw – sef profiant
  • prynu a gwerthu tŷ - sef ‘trosglwyddo anheddau preswyl’
  • rhai achosion tribiwnlys cyflogaeth

Cael cyngor am ddim neu am ffi sefydlog

Mae rhai cyfreithwyr yn rhoi 30 munud o gyngor cyfreithiol am ddim. Mae rhai yn gofyn am ffi sefydlog - fel y byddwch yn gwybod ymlaen llaw faint fydd y gost. Gallwch ffonio swyddfa cyfreithiwr a gofyn a ydyn nhw’n cynnig hanner awr am ddim neu am ffi sefydlog.

Gall cyfarfod am ddim neu am ffi sefydlog eich helpu chi i ddysgu am eich hawliau a’ch sefyllfa gyfreithiol. Mae’n ffordd dda o weld a yw’n werth mynd â rhywun arall i gyfraith neu a yw eich achos yn werth ei amddiffyn.

Dylech fanteisio i’r eithaf ar eich cyfarfod. Gwnewch nodyn ymlaen llaw o’r hyn sydd angen i chi ei ddweud a’i wybod. Gallech siarad â chynghorydd yn eich Canolfan ar Bopeth agosaf i’ch helpu i benderfynu pa gwestiynau y dylech eu gofyn i’r cyfreithiwr.

Ewch ag unrhyw ddogfennau perthnasol gyda chi i’r cyfarfod. Ffoniwch swyddfa’r cyfreithiwr i ofyn a ydyn nhw am i chi ddod ag unrhyw ddogfennau penodol gyda chi, fel pasbort.

Dod o hyd i gynllun ‘dim llwyddiant dim ffi’

Mae rhai cyfreithwyr yn cynnig cynllun 'dim llwyddiant dim ffi’ fel ffordd o dalu am achosion sifil, megis anaf personol. Weithiau bydd rhai yn defnyddio’r term ‘cytundeb ffi amodol’ (CFA) am gytundeb dim llwyddiant dim ffi.

Os enillwch chi’r achos, bydd y ffioedd a’r costau cyfreithiol y cytunoch chi yn cael eu didynnu o’ch iawndal. Fel rheol, gallwch adennill rhai costau oddi wrth eich gwrthwynebydd.

Os byddwch chi’n colli, fel rheol fyddwch chi ddim yn talu ffi eich cyfreithiwr ond bydd rhaid i chi dalu rhywfaint. Efallai bydd rhaid i chi dalu costau’r gwrthwynebydd ac efallai bydd rhaid i chi dalu costau eich cyfreithiwr am adroddiadau meddygol neu adroddiadau ar y ddamwain er enghraifft.

Dylech ddarllen y cytundeb yn ofalus a gofyn i’ch cyfreithiwr egluro faint fyddai disgwyl i chi ei dalu pe byddech chi’n colli’r achos.

Efallai y gallech chi brynu polisi yswiriant arbennig cyn yr achos i dalu eich costau pe byddech chi’n colli.

Cofiwch ddarllen eich cytundeb dim llwyddiant dim ffi yn ofalus

Mae’n bwysig eich bod yn darllen eich cytundeb yn ofalus cyn ei lofnodi. Bydd manylion y costau sy’n rhaid i chi eu talu yn y cytundeb. Peidiwch â llofnodi’r cytundeb os nad ydych chi’n siŵr ei fod yn addas i chi.

Dod o hyd i gyfreithiwr

Gallwch ofyn yn eich Cyngor ar Bopeth agosaf a oes ganddyn nhw restr o gyfreithwyr sy’n cynnig cyngor am ddim, am ffi sefydlog neu ar sail dim llwyddiant dim ffi. 

Gallwch ddysgu rhagor am ddefnyddio cyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn cynnwys sut i:

  • chwilio am y cyfreithiwr sy’n iawn ar gyfer eich problem chi
  • paratoi at eich cyfarfod
  • gwneud cwyn os ydych chi’n anhapus gyda’u gwaith

Cael cymorth trwy aelodaeth neu yswiriant

Os ydych chi’n aelod o sefydliad neu undeb llafur efallai y bydden nhw’n barod i gynnig cymorth cyfreithiol di-dâl i chi. Neu efallai y cewch gymorth i dalu costau cyfreithiol fel rhan o danysgrifiad arall, polisi yswiriant neu drefniant cerdyn credyd.

Gofynnwch i’ch undeb llafur

Gall undebau weithiau gynnig cymorth cyfreithiol am ddim fel dod o hyd i gyfreithiwr a thalu amdano - ac nid ar gyfer problemau gwaith yn unig.

Siaradwch â’ch stiward llawr gwaith neu gynrychiolydd yn y gweithle neu gallech gysylltu â phrif swyddfa eich undeb i weld a fydden nhw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi.

Darllenwch eich polisïau yswiriant

Darllenwch ddogfennau polisi eich yswiriant a’ch cartref ac eraill i weld a oes gennych chi unrhyw sicrwydd cyfreithiol. A fydden nhw’n rhoi cyngor ar y math o achos sydd gennych chi ac yn talu’r costau i gyd - mae eithriadau yn y rhan fwyaf o bolisïau.

Gallai eich yswirwyr fynnu eich bod yn defnyddio’r tîm cyfreithiol sydd ganddyn nhw. Os oes gennych eich cyfreithiwr eich hun, gall ef neu hi ddweud wrthych chi a yw’n cael gweithredu ar eich rhan trwy’r polisi yswiriant.

Cysylltu â’ch cymdeithas foduro

Os ydych chi wedi ymuno â chymdeithas foduro ar gyfer gwasanaeth torri i lawr, efallai y byddan nhw’n cynnig cymorth am ddim neu gymorth rhad yn enwedig gyda materion cyfreithiol yn ymwneud â char neu ddamweiniau. Darllenwch eich cytundeb aelodaeth neu ffoniwch nhw i ofyn a allen nhw eich helpu.

Edrychwch ar eich tanysgrifiadau

Meddyliwch am unrhyw sefydliadau eraill lle’r ydych chi’n aelod. Er enghraifft, mae Which? yn cynnig cyngor cyfreithiol os ydych chi’n talu tanysgrifiad. Gallwch weld gwasanaethau cyfreithiol Which? ar eu gwefan.

 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)