Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Apelio yn erbyn tocyn parcio os oes gennych chi Fathodyn Glas

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'n werth apelio yn erbyn eich tocyn parcio os oeddech chi wedi parcio’n gywir, neu os cawsoch chi docyn oherwydd eich problemau symudedd.

Mae Bathodyn Glas yn gadael i chi ddefnyddio mannau parcio penodol ar y stryd yn agos i’ch cyrchfan. Os nad ydych chi’n siŵr a oeddech chi wedi parcio yn unol â rheolau’r Bathodyn Glas, edrychwch i weld ble gallwch chi barcio yn y canllawiau ar y cynllun Bathodyn Glas ar GOV.UK. 

Bydd angen i chi anfon prawf o’ch Bathodyn Glas gyda’ch apêl. Gallai hwn fod yn gopi wedi’i sganio o’ch bathodyn neu rif cyfresol eich bathodyn.

Gofynnwch am lythyr gan eich cyngor yn cadarnhau eich bod yn ddeiliad Bathodyn Glas, os ydych chi wedi colli’ch bathodyn. 

Ni welodd camera CCTV eich bathodyn

Mae’n debyg y byddwch chi’n cael llythyr os yw hyn wedi digwydd. Bydd yn cynnwys lluniau o’ch car wedi parcio.

Dylech apelio os oeddech chi wedi arddangos eich Bathodyn Glas yn gywir.

I helpu i brofi eich bod wedi defnyddio’ch Bathodyn Glas, wrth apelio cofiwch gynnwys:

  • llythyr gan unrhyw un a oedd gyda chi yn cadarnhau eich bod wedi arddangos eich Bathodyn Glas – dylent nodi ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen
  • copi o unrhyw luniau a anfonwyd gyda’r tocyn parcio os ydych chi’n gallu gweld eich bathodyn – gofalwch roi cylch o amgylch y bathodyn ar y llun
  • copi o unrhyw luniau a gymerwyd o’ch bathodyn pan oedd yn cael ei arddangos yn eich car - mae’n syniad da tynnu llun bob tro y byddwch chi’n defnyddio eich bathodyn.

Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld beth i’w wneud nesa

Methu cyrraedd eich car oherwydd problemau symudedd

Os mai’r rheswm dros gael Bathodyn Glas - er enghraifft, nad ydych chi’n gallu cerdded yn bell iawn - oedd i gyfrif am y ffaith nad oeddech chi wedi gallu cyrraedd eich car ar amser, mae’n syniad da apelio.

Mae hyn gan fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu nad yw cwmnïau parcio yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich problemau symudedd.

I ddangos ei bod yn anodd i chi gyrraedd yn ôl i’ch car mewn pryd, pan fyddwch chi’n apelio cofiwch gynnwys:

  • manylion yr hyn a ddigwyddodd
  • llythyr gan unrhyw un a oedd gyda chi, yn cadarnhau’r hyn a ddigwyddodd – dylent ysgrifennu ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen

Gofalwch eich bod yn egluro eich bod yn apelio dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan eich bod yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn.

Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld beth i’w wneud nesaf.

Roedd y swyddog parcio yn meddwl eich bod wedi arddangos eich Bathodyn Glas yn anghywir

Dylech apelio os ydych chi’n credu eich bod wedi arddangos y bathodyn yn gywir.

I helpu i brofi eich bod wedi arddangos eich bathodyn yn gywir, pan fyddwch chi’n apelio, cofiwch gynnwys:

  • llythyr gan unrhyw un a oedd gyda chi yn cadarnhau eich bod wedi arddangos eich Bathodyn Glas yn gywir – dylent nodi ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen
  • disgrifiad o sut roeddech chi wedi arddangos eich bathodyn, er enghraifft roedd ar banel blaen y car ac wedi’i arddangos gyda chloc
  • copi o unrhyw luniau a gymerwyd o’ch bathodyn pan oedd yn cael ei arddangos yn eich car - mae’n syniad da tynnu llun bob tro y byddwch chi’n defnyddio’ch bathodyn.

Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld beth i’w wneud nesaf.

Rydych chi wedi torri’r rheolau parcio yn anfwriadol

Mae’n syniad da apelio o hyd – mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu bod yn rhaid trin deiliaid Bathodyn Glas gyda dealltwriaeth ac ni cheir gwahaniaethu yn eu herbyn.

Gofalwch eich bod yn egluro yn eich apêl pam eich bod wedi camddeall y rheolau parcio, gan gynnwys:

  • os oedd eich anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi ddeall y rheolau, er enghraifft, roedd yr arwydd yn bell i ffwrdd a dydych chi ddim yn gallu cerdded yn bell
  • doedd yr arwyddion neu’r marciau ffyrdd ddim yn glir, er enghraifft roedd hi’n dywyll a doedden nhw ddim wedi eu goleuo’n dda.

Gweler apelio yn erbyn tocyn parcio i weld beth i’w wneud nesaf.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)