Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwirfoddoli gyda’n Gwasanaeth Tystion

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rydym ni’n chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar, aeddfed sy’n dangos empathi tuag at eraill. Mae angen i chi fod â sgiliau gwrando a chyfathrebu llafar da. Rydym ni hefyd yn chwilio am bobl sydd ddim yn feirniadol ac sy’n ddiduedd o ran cefnogi pawb, ac sydd â’r hyder i gefnogi pobl sy’n agored i niwed a phobl sydd ag anghenion penodol.

Stori Malcolm

Mae Malcolm yn wirfoddolwr llys gyda'r Gwasanaeth Tystion. Yma mae'n siarad am yr hyn y mae'n ei wneud a pham ei fod yn ei wneud.

Eisiau ymuno â'n tîm?

Mae gennym gyfleoedd yng Nghymru a Lloegr. Byddwch chi’n derbyn hyfforddiant llawn, cefnogaeth ac achrediad - a chroeso cynnes.

Gallwch chi wneud cais os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn. Hefyd, bydd angen i chi ymrwymo i:

  • o leiaf 18 mis (os ydych chi’n astudio gallwn drafod beth fydd yn digwydd yn ystod y gwyliau)

  • ymgymryd â’n hyfforddiant ar-lein

  • cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

  • Parodrwydd i ddefnyddio TG - e-bost, hyfforddiant ar-lein, ac o bosibl tabledi i fewnbynnu gwybodaeth ar ffurflenni ar-lein. Byddwch angen mynediad i'r rhyngrwyd, gan fod y rhan fwyaf o'n hyfforddiant ar-lein. Bydd angen cyfrif e-bost arnoch hefyd, gan y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i’ch cofrestru gyda’n systemau TG, a’n prif declyn cyfathrebu. Os nad oes gennych gyfrif e-bost ar hyn o bryd gallwn eich helpu i sefydlu un.

Diogelwch Covid-19

Mae gennym ddyletswydd i sicrhau amgylchedd gwaith diogel i’n gwirfoddolwyr, ac nid yw’r sefyllfa bresennol o ran COVID-19 yn eithriad i hyn. Rydym wedi cymryd yr holl gamau angenrheidiol i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel, gan gynnal asesiadau risg, darparu masgiau a hylif diheintio dwylo, a newid arferion gwaith i gynnal pellter cymdeithasol. Yn ogystal, mae gan Wasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ddyletswydd debyg dros ddiogelwch yr adeiladau rydym yn gweithredu ynddynt, ac maent yn cymryd mesurau lleol i alluogi treialon i fynd yn eu blaenau yn unol â chyngor y llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.

Cwestiynau cyffredin a gwybodaeth ychwanegol

Mae ein proffiliau rôl isod yn rhoi trosolwg o'n rolau, ond os hoffech wybod mwy am wirfoddoli efallai y bydd ein cwestiynau cyffredin o gymorth. 

Rydyn ni hefyd wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol g-doc am wirfoddoli gyda ni - rydyn ni'n gobeithio y bydd yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi'n teimlo bod ein rolau'n addas i chi

Y rolau

Gwirfoddolwr yn y llys

Fel gwirfoddolwr yn y llys, byddwch chi’n cefnogi tystion a’u ffrindiau a’u teulu pan fyddan nhw’n dod i’r llys. Byddwch chi’n rhoi gwybodaeth ymarferol iddyn nhw am y broses, ynghyd â chefnogaeth emosiynol i helpu tystion i deimlo’n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth.

Byddwn eich angen yn ystod oriau arferol y llys (9am tan 5pm). Edrychwch ar broffil rôl llawn gwirfoddolwr yn y llys g-doc am ragor o wybodaeth.

Gwirfoddolwr allgymorth

Fel gwirfoddolwr allgymorth, byddwch yn cefnogi tystion sy’n teimlo’n agored i niwed neu sy’n teimlo dan fygythiad drwy eu cyfarfod mewn lle diogel fel eu cartref, ysgol neu ganolfan gymunedol.

Bydd angen i chi fod ar gael ar adegau amrywiol – gall ymweliadau allgymorth ddigwydd fin nos tan 6.30pm. Edrychwch ar broffil rôl llawn gwirfoddolwr allgymorth g-doc  i weld mwy neu beth am ddarllen ein blog am sut beth yw bod yn wirfoddolwr allgymorth.

Sut i wneud cais

Byddwch yn ymwybodol, efallai nad yw rhai ardaloedd yn recriwtio ar hyn o bryd oherwydd y pandemig COVID-19. Bydd y daenlen isod yn rhoi gwybod i chi ble/pa geisiadau sy'n agored. 

Yn gyntaf, gallwch wirio i weld a ydym yn recriwtio yn eich ardal chi.

Darganfod lle mae ein cyfleoedd presennol g-sheet

Rydym yn defnyddio ffurflen gais ar-lein. Bydd hwn yn gofyn rhai cwestiynau amdanoch chi'ch hun, ac yna am unrhyw sgiliau, rhinweddau neu brofiad sydd gennych sy'n berthnasol i'r rôl. Meddyliwch yn ofalus am yr atebion hyn. Ceisiwch roi enghreifftiau lle bo hynny'n berthnasol - yn gyffredinol mae angen iddynt fod yn fwy nag un llinell o ymateb. Y mwyaf o wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi i ni, gwelwn ddarlun gwell os fyddwch chi'n addas ar gyfer y rôl.

Weithiau byddwn yn derbyn ceisiadau y mae'n rhaid i ni eu gwrthod, gan nad yw'r ymgeisydd wedi rhoi digon o wybodaeth i wybod a fyddent yn iawn ar gyfer y rôl. Nid ydym am golli allan ar bobl a allai fod yn wirfoddolwyr gwych i ni, felly rydym wedi creu rhywfaint o arweiniad ar lenwi ein ffurflen. g-doc

Apply now

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais Cymraeg  g-form

Ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU: sylwch mai dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu hynny y cewch wirfoddoli. Gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i wirfoddoli, er mwyn osgoi torri amodau eich statws. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol reolau fisa ar dudalen we'r llywodraeth. Mae gan ddinasyddion Gwyddelig, dinasyddion yr UE/AEE â statws sefydlog neu cyn-sefydlog, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches hawl lawn i wirfoddoli.

Eich gwybodaeth

Mae'r wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen gais yn cael ei defnyddio i'n helpu ni i benderfynu a fyddwch chi'n iawn ar gyfer ein rôl. Bydd yn cael ei weld gan ein Harweinwyr Tîm Datblygu Gwirfoddolwyr a’i rannu ar lefel leol gyda’r aelodau staff priodol a fydd yn arwain y broses recriwtio. Rydym hefyd yn gofyn ar wahân am wybodaeth a fydd yn ein helpu i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Mae hwn yn ddienw ac ni fydd yn cael ei weld gan yr Arweinwyr Tîm.

Pam gwirfoddoli gyda ni?

“Dangos eich ochr orau drwy helpu rhywun drwy ddiwrnod anoddaf eu bywydau o bosib: mae’r profiad wir yn talu ar ei ganfed.”

Peter - Caernarfon

"Gwirfoddolais gyda’r Gwasanaeth Tystion ar adeg pan roedd fy mywyd wedi cyrraedd isafbwynt go iawn. Cefais gefnogaeth ac anogaeth anhygoel gan fy rheolwr yn ogystal â gwirfoddolwyr eraill, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd. Rwyf wedi magu hyder ac rwyf wrth fy modd yn cyfarfod pobl newydd bob tro rydw i’n mynd i’r gwaith gan wybod mod i’n helpu rhywun drwy gyfnod anodd."
Anne - Llys y Goron Bournemouth

"Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Tystion i unrhyw un sydd â diddordeb yn y System Cyfiawnder Troseddol ac sy'n dymuno ymgyfarwyddo â gweithrediadau llys. Mae'r rôl hon yn darparu her newydd bob dydd a all roi boddhad mawr a chaniatáu i chi ehangu a dysgu sgiliau newydd - mewn amgylchedd proffesiynol."
Jack - Worcester Crown Court

Os oes gennych chi fwy o gwestiynau am wirfoddoli, cysylltwch â: ws-volunteering@citizensadvice.org.uk 

Neu dysgwch ragor ar Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)