Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cysylltu â ni

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae yna sawl ffordd o gysylltu â ni os na allwch chi ddod o hyd i’r cyngor sydd ei angen arnoch ar y wefan hon.

Dod o hyd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf

Teipiwch eich cod post neu eich tref i gael manylion cyswllt eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Dim ond os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn eu hardal y gall y rhan fwyaf o ganolfannau Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu.  

Ffonio ein llinell ffôn genedlaethol

Gallwch chi gysylltu â chynghorydd drwy ein gwasanaeth ffôn cenedlaethol, Advicelink:

Advicelink:  0800 702 2020

Relay UK (Saesneg) - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych chi am ei ddweud: 18001 ac yna 0800 144 8884

Gallwch ddefnyddio Relay UK trwy ap neu ffôn testun. Does dim tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Cewch wybodaeth am sut i ddefnyddio Relay UK a gwefan Relay UK.

Mae Advicelink ar gael rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar ei brysuraf ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd fel arfer. Dyw’r gwasanaeth ddim ar gael ar wyliau banc.

Byddwn ni’n ateb cyn gynted ag y gallwn – ar adegau prysur efallai y bydd angen i chi ddisgwyl hyd at awr. Os ydych chi’n disgwyl am amser maith, byddwn ni’n dweud wrthych chi am ffyrdd eraill o gael cyngor. Gallwch chi geisio ffonio eto’n nes ymlaen hefyd.

Mae galwadau i Advicelink yn rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir. Rhagor o wybodaeth am gostau ein galwadau.

Siarad â ni ar-lein

Mae’r gwasanaeth sgwrsio’n golygu y gallwch chi siarad â chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Gallwch:

Cael cymorth os ydych chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch chi gysylltu â'n gwasanaeth Help i Hawlio am gymorth gyda’r broses hawlio – o wneud cais i gael eich taliad cyntaf.

Cael cymorth gyda phroblem defnyddiwr

Gallwch chi gysylltu â'n gwasanaeth defnyddwyr os oes gennych chi broblem defnyddiwr fel nwyddau sydd wedi torri neu nwyddau diffygiol, neu broblemau gydag ynni, dŵr neu’r post.

Gall y gwasanaeth defnyddwyr eich cynghori a throsglwyddo cwynion i’r Adran Safonau Masnach.

Gwneud cwyn amdanom ni

Gallwch chi wneud cwyn am ein cyngor neu’r ffordd rydych chi wedi cael eich trin wedi i chi gysylltu â ni neu yn dilyn ymweliad â’n canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Darllen ein polisi preifatrwydd 

Deall sut rydyn ni'n storio a defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi’n cysylltu â ni.

Darllen ein polisi ymddygiad

Mae gan ein staff yr hawl i gyflawni eu swyddi heb gael eu trin yn wael - deall sut rydyn ni'n ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)