Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, efallai y gallwch chi gael cymorth gan eich cyngor lleol neu fenthyciad di-log gan y llywodraeth.

Os ydych chi’n disgwyl i daliadau budd-dal gychwyn, efallai y byddwch chi’n gallu cael eich budd-dal yn gynnar.

Cael cymorth i dalu am hanfodion bob dydd

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth gan:

  • eich cyngor lleol
  • benthyciad y llywodraeth
  • Llywodraeth Cymru

Bwyd

Os ydych chi’n cael trafferth talu am fwyd, gallwch gael gwybod sut i gael cymorth o fanc bwyd.

Os ydych chi’n feichiog ers 10 wythnos o leiaf neu os oes gennych chi blentyn dan 4 oed, efallai bydd modd i chi gael fitaminau am ddim a thalebau Cychwyn Iach ar gyfer llaeth, ffrwythau a llysiau a llaeth fformiwla babanod.

I gael fitaminau am ddim a thalebau Cychwyn Iach mae’n rhaid eich bod hefyd yn hawlio naill ai:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm – ond dim ond os ydych chi’n feichiog
  • Credyd Treth Plant – ac mae eich aelwyd yn ennill £16,190 y flwyddyn neu lai
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol – ac mae eich aelwyd yn ennill £408 y mis neu lai

Os ydych chi’n cael Credyd Treth Plant allwch chi ddim cael y fitaminau a’r talebau os ydych chi’n cael Credyd Treth Gwaith hefyd – oni bai eich bod chi’n cael y taliad parhau (run-on). Credyd Treth Gwaith parhau yw’r taliad rydych chi’n ei gael am bedair wythnos ar ôl i chi beidio bod yn gymwys mwyach i gael Credyd Treth Gwaith.

Os ydych chi dan 18 oed ac yn feichiog, gallwch chi gael fitaminau a thalebau bwyd hyd yn oed os nad ydych chi’n cael unrhyw rai o’r budd-daliadau hyn.

Gofynnwch i’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd am ffurflen gais. Gallwch chi ffonio’r llinell gymorth Cychwyn Iach hefyd ar 0345 607 6823 a gofyn iddyn nhw anfon ffurflen atoch chi.

Mae galwadau’n costio hyd at 9c y funud o linellau tir a hyd at 55c y funud o ffonau symudol. Dylai fod am ddim os ydych chi’n ffonio o’ch ffôn symudol ac os yw galwadau llinell dir wedi’u cynnwys yn eich contract.

Gwirio pa gymorth gallwch chi ei gael gan eich cyngor lleol

Gall eich cyngor lleol roi talebau i chi er mwyn helpu i dalu am hanfodion bob dydd fel:

  • pryd o fwyd poeth
  • dodrefn ail-law
  • cyfarpar ar gyfer yr aelwyd, er enghraifft, cwcer

Y term ar gyfer y cymorth hwn yw ‘cymorth lles'. Mae pob cyngor yn trefnu ei gynllun ei hun. Mae’r cymorth sydd ar gael a phwy sy’n gymwys ar ei gyfer yn amrywio. Gallwch chi ddod o hyd i'ch cyngor lleol  ar GOV.UK a gofyn a oes ganddyn nhw gynllun cymorth lles a allai eich helpu.

Does dim rhaid i chi fod yn derbyn budd-daliadau i gael cymorth gan eich cyngor lleol.

Benthyciad di-log i dalu am hanfodion

Efallai y gallwch chi gael yr hyn a elwir yn 'fenthyciad cyllidebu' ar gyfer hanfodion fel dillad neu beiriant golchi os ydych chi’n hawlio budd-daliadau penodol. 

Efallai eich bod yn gymwys os ydych chi’n derbyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

Mae’r benthycid hwn yn ddi-log, felly dim ond yr hyn rydych chi’n ei fenthyg fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Fel arfer, bydd angen i chi dalu’r benthyciad yn ôl o fewn 2 flynedd.

Gwiriwch beth allwch chi ei gael a sut i wneud cais ar GOV.UK.

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, allwch chi ddim cael benthyciad cyllidebu. Gallwch chi wneud cais am daliad cyllidebu ymlaen llaw yn lle hynny.

Cymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol

Gallwch chi gael cymorth i dalu am gostau brys neu i ymdrin ag argyfwng, yn cynnwys:

  • costau byw, er enghraifft bwyd neu ddillad
  • eitemau ar gyfer y cartref, er enghraifft popty neu oergell
  • addasiadau i’ch cartref fel y gallwch chi neu berthynas barhau i fyw yno

Does dim angen i chi fod yn derbyn budd-daliadau, ond bydd angen i chi ddangos eich bod mewn angen ariannol brys – a’ch bod wedi cyrraedd y sefyllfa os na chewch chi gymorth y bydd yn cael effaith ddifrifol arnoch chi neu eich teulu.

Cael gwybod mwy am ffyrdd o wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cael cymorth i dalu eich rhent

Os nad yw Budd-dal Tai neu’r Credyd Cynhwysol yn talu eich rhent i gyd ac rydych chi angen mwy o arian, gallech chi wneud hawliad am daliad disgresiwn at gostau tai (DHP). Mae DHP yn arian ychwanegol gan eich cyngor lleol i helpu i dalu eich rhent.

Mae angen i chi hawlio Budd-dal Tai neu elfen costau tai’r Credyd Cynhwysol i gael DHP.

Nid yw’ch cyngor lleol yn gorfod rhoi DHP i chi – mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os yw’r cyngor yn penderfynu rhoi DHP i chi, byddan nhw’n ysgrifennu i roi gwybod i chi.

  • faint fyddwch chi’n ei gael
  • pryd fydd y DHP yn dod i ben

Os ydych chi’n dal i fod angen DHP wedi iddo ddod i ben, gallwch chi wneud cais arall.

Gwneud Cais am DHP

Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn sut i wneud cais am DHP. Efallai byddan nhw am i chi wneud cais dros y ffôn neu ar-lein. Gallwch chi gael gwybod sut i gysylltu â'ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch mor glir ac y gallwch chi pan fyddwch chi’n egluro pam eich bod angen DHP. Er enghraifft, dylech egluro:

  • pam allwch chi ddim fforddio talu’r rhent
  • pam allwch chi ddim symud i rywle rhatach
  • os yw’n achosi problemau i rywun rydych chi’n gofalu amdano, fel plentyn neu aelod oedrannus o’r teulu
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi, fel llythyr gan eich meddyg neu fanylion o ddyledion rydych chi’n eu talu

Dylech chi ddweud wrth y cyngor hefyd os ydych chi’n disgwyl iddyn nhw benderfynu a allwch chi gael Budd-dal Tai.

Os ydych chi’n gwneud cais ar bapur, mae’n syniad da cadw copi o’r ffurflen fel cofnod.

Gwirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael

Gallwch chi ddefnyddio cyfrifydd budd-daliadau rhad ac am ddim i wirio pa fudd-daliadau gallwch chi eu cael. Bydd angen i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig ac yn 18 oed neu’n hŷn

Byddwch chi angen manylion eich:

  • cynilion
  • incwm
  • pensiwn
  • taliadau gofal plant
  • budd-daliadau presennol

Byddwch chi angen y manylion hyn ar gyfer eich partner os oes gennych chi bartner.

Gallwch chi ddefnyddio cyfrifydd budd-daliadau Turn2us neu Entitledto i wirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.

Gallwch chi ofyn i'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i’ch helpu i gyfrifo pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael hefyd. 

Derbyn eich budd-dal yn gynnar

Gellir derbyn y rhan fwyaf o fudd-daliadau’n gynnar. Y term am hyn yw budd-dal ymlaen llaw yn y tymor byr.

Efallai bydd modd i chi dderbyn eich budd-dal yn gynnar os:

  • rydych chi wedi hawlio budd-dal ac yn disgwyl am eich taliad cyntaf
  • mae eich budd-dal wedi cynyddu ond dydych chi ddim wedi cael y swm newydd eto
  • rydych chi wedi clywed na fyddwch chi’n cael eich talu ar y dyddiad arferol   

Bydd swm bach yn cael ei dynnu oddi ar daliadau’r dyfodol er mwyn ei ad-dalu – am 12 wythnos fel arfer.

Allwch chi ddim derbyn budd-dal yn gynnar ar gyfer:

  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Credyd Treth

I ofyn am daliad ymlaen llaw, cysylltwch â swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n ymdrin â’ch hawliad budd-dal. Mae eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr neu e-bost rydych chi wedi’i gael gan yr Adran.

Camau nesaf

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, gwiriwch beth arall y gallwch chi ei wneud er mwyn cynyddu’r arian sydd gennych chi bob mis. Gallech chi gael:

Edrychwch pa gymorth gallwch chi ei gael gan elusennau lleol ar wefan Turn2us. Bydd angen i chi wybod eich cod post. 

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)