Defnyddio Datrysiad Anghydfod Amgen
Os oes cwyn gennych am rywbeth yr ydych wedi ei brynu neu wasanaeth, ac rydych wedi ceisio trafod yn uniongyrchol gyda’r masnachwr ond nid yw hyn wedi gweithio, fe allech ofyn i unigolyn annibynnol edrych ar eich problem defnyddiwr a cheisio dod o hyd i ateb. Gelwir hyn yn Ddatrysiad Anghydfod Amgen. Nid yw pob cynllun Datrysiad Anghydfod Amgen yr un peth. Gan ddibynnu ar eich problem defnyddiwr, efallai y cewch gynnig:
- cymodi neu gyfryngu
- dyfarnu
- cyflafareddu.
Os ydych chi’n ystyried dwyn achos llys yn erbyn masnachwr, mae barnwyr nawr, yn gyffredinol, yn disgwyl i chi fod wedi ystyried defnyddio Datrysiad Anghydfod Amgen cyn i chi ddechrau dwyn achos llys.
Mae’r dudalen hon yn esbonio’r gwahanol fathau o Ddatrysiad Anghydfod Amgen.
Cymodi a chyfryngu
Fel arfer, mae cymodi a chyfryngu yn rhad ac am ddim ac, yn aml, yn cael eu cynnig cyn cyflafareddu am eu bod yn llai ffurfiol:
- mae cymodi yn canolbwyntio ar eich dymuniadau chi a’r masnachwr ac yn ceisio dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem ble mae’r ddau ohonoch yn hapus
- mae cyfryngu yn canolbwyntio’n fwy ar y broblem a’r ffordd orau o’i datrys.
Fe fyddwch chi a’r masnachwr yn medru cyflwyno’ch achos ond efallai y bydd yn rhaid i un ohonoch ildio fwy, i ddod o hyd i’r datrysiad gorau ar gyfer y broblem.
Weithiau, cyflogir cymodwyr a chyfryngwyr gan y masnachwr yr ydych yn cwyno amdano, ac efallai na chewch farn annibynnol.
Mae cyfryngu yn ddull hollol wirfoddol a chyfrinachol o ddatrysiad anghydfod amgen. Fe fydd person annibynnol, diduedd yn eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n dderbyniol i bawb. Mae’r cyfryngwr yn medru siarad â’r ddwy ochr ar wahân neu gyda’i gilydd.
Nid yw cyfryngwyr yn barnu nac yn penderfynu ar ganlyniad yr anghydfod. Maen nhw’n:
- holi cwestiynau sy’n helpu datgelu’r problemau sylfaenol,
- helpu’r ddwy ochr i ddeall y materion a
- eu helpu i egluro’r opsiynau ar gyfer datrys eu gwahaniaethau neu anghydfod.
Dyfarnu
Mae dyfarnu yn ddull annibynnol, llai ffurfiol o gyflafareddu ac fel arfer mae’n rhad ac am ddim. Fe fydd dyfarnwr yn edrych ar y dystiolaeth ysgrifenedig yr ydych chi a’r masnachwr yn ei hanfon ac yn dod i benderfyniad. Fel arfer, mae’r dyfarnwr yn arbenigwr yn y maes yr ydych yn cwyno yn ei gylch a dylai fod wedi ei gymeradwyo gan Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (CIArb).
Caiff y cynlluniau dyfarnu defnyddwyr canlynol eu rhedeg gan IDRS, sef y gwasanaeth Datrysiad Anghydfod Amgen sy’n cael ei oruchwylio gan CIArb:
- darparwyr ffôn a rhyngrwyd sy’n aelodau o CISAS
- Yr Ombwdsmon Dodrefn (Qualitas). Er y gelwir y cynllun yn Ombwdsmon, mewn gwirionedd cynllun dyfarnu ydyw
- gwasanaeth o’r enw Postal Redress Service.
Gwahaniaethau rhwng dyfarnu a chyflafareddu
Mae yna wahaniaeth rhwng dyfarnu a chyflafareddu. Gyda dyfarnu fe fyddwch yn medru dwyn achos llys ynghylch eich problem os nad ydych yn hapus â’r canlyniad. Gyda chyflafareddu, fe fydd yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad y cyflafareddwr ac efallai na fyddwch yn medru dwyn achos llys yn nes ymlaen os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.
Cyflafareddu
Mae cyflafareddu yn defnyddio cyflafareddwr annibynnol, fel arfer o Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (CIArb) i benderfynu ynghylch eich cwyn. Mae hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth bapur yr ydych chi a’r masnachwr yn ei hanfon i mewn.
Mae penderfyniad y cyflafareddwr yn rhwymo’n gyfreithiol. Ni fyddwch yn medru mynd i’r llys yn nes ymlaen os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.
Mae rhai cynlluniau cyflafareddu yn rhad ac am ddim. Os oes rhaid i chi dalu ffi i ddefnyddio cyflafareddu, fe fydd yn seiliedig ar werth y swm o arian yr ydych yn ei hawlio. Ond, fel arfer, mae’n dal i fod yn rhatach na dwyn achos llys.
Cynlluniau Ombwdsmon
Mae gwasanaethau ombwdsmon yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ond mae’n rhaid i fasnachwyr dalu. Maen nhw’n cynnwys:
- cwmnïau ariannol, er enghraifft banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant
- cwmnïau ynni
- cwmnïau ffôn a rhyngrwyd
- cwmnïau symud dodrefn.
Fe fyddwch chi ond yn medru defnyddio’r Ombwdsmon os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth cwyno mewnol y masnachwr yn gyntaf.
Mynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon
Defnyddio Datrysiad Anghydfod Amgen os ydych yn cyflwyno hawliad bach i’r llys
Os ydych yn cyflwyno hawliad bach i’r llys, cewch holiadur dyrannu neu gyfarwyddiadau sy’n holi a ydych chi am setlo’r mater tu allan i’r llys gan ddefnyddio Datrysiad Anghydfod Amgen. Fe fyddwch ond yn medru defnyddio Datrysiad Anghydfod Amgen os yw’r ochr arall yn cytuno.
Os ydych yn defnyddio’r trac hawliadau bychain, fe fyddan nhw’n gofyn a ydych chi am ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfryngu ar gyfer Hawliadau Bychain. Mae’n rhad ac am ddim ac yn cael ei ddarparu gan y llys.
Os ydych yn defnyddio’r trac cyflym neu’r amldrac, fe fydd yn rhaid i chi dalu am eich cynllun Datrysiad Anghydfod Amgen eich hun a dod o hyd iddo. Os nad yw’n gweithio, fe fydd yr achos yn mynd ymlaen i gael gwrandawiad gan y llys.
Camau nesaf
Ble i gael datrysiad anghydfod amgen
Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
I ddod o hyd i ddarparwyr cyfryngu sydd wedi eu cymeradwyo gan wasanaeth y llys, rhowch glic ar: www.civilmediation.justice.gov.uk.
Mwy am wasanaethau cyflafareddu sy'n cael eu rhedeg trwy IDRS
IDRS Limited
70 Fleet Street
London
EC4Y 1EU
Rhif Ffôn: 020 7520 3800
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@idrs.ltd.uk
Gwefan: www.idrs.ltd.uk
Gwefan Advice Services Alliance
Mae gwybodaeth bellach ynghylch y gwahanol fathau o Ddatrysiad Anghydfod Amgen ar wefan Advice Services Alliance yn: www.asauk.org.uk.