Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dod o hyd i fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ar y dudalen hon, cewch gyngor ar ddod o hyd i fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo.

Dod o hyd i fasnachwr

  • dewch o hyd i fasnachwr trwy holi pobl eraill os fedrwch chi, neu ar argymhelliad trwy wefan sy'n barnu masnachwyr
  • defnyddiwch gynllun TrustMark i ddod o hyd i fasnachwr yn eich ardal chi. TrustMark yw'r nod ansawdd sydd wedi ei ardystio gan y Llywodraeth ac sy'n dangos y ffordd at fasnachwyr lleol sydd ag enw da. Mae sgiliau technegol pob cwmni wedi cael eu harchwilio'n annibynnol trwy arolygiadau ar-y-safle, i sicrhau gwaith ac arferion masnachu o ansawdd uchel
  • dewch o hyd i fasnachwr trwy gynllun Buy with Confidence Safonau Masnach, os yw'n bodoli yn eich ardal chi
  • dewch o hyd i fasnachwr trwy Rwydwaith Cynllun o'r enw Assured Trader gan yr Awdurdod Lleol.  Mae'r cynllun hwn yn dod a chynlluniau gan awdurdodau lleol gwahanol at ei gilydd i ddenu busnesau bach
  • ymchwiliwch i weld os oes gan fasnachwr logo Consumer Codes Approval, sef cod ymarfer gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae hyn yn golygu bod y masnachwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaeth da ar gyfer cwsmeriaid, contractau clir a theg a chyngor annibynnol ar gost isel i ddatrys anghydfod. Gallwch chwilio am fasnachwr sydd â'r logo hwn ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg  
  • dewch o hyd i fasnachwr sy'n aelod o gymdeithas fasnach.  Mae gan gymdeithasau masnach godau ymarfer a chynlluniau sy'n medru helpu datrys problemau. Os yw masnachwr yn dweud ei fod yn aelod o gymdeithas fasnach, dylech ymchwilio i weld os yw hyn yn wir
  • os ydych chi'n gwneud gwaith adeiladu strwythurol pwysig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch neu efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni rheoliadau adeiladu.  Er enghraifft, efallai y byddwch chi angen help syrfëwr, pensaer neu syrfëwr meintiau, i lunio cynlluniau i'w cyflwyno i'r awdurdod lleol.  Gallwch gael cyngor ar gyflogi arbenigwyr gan Gynllun Gwirfoddol Syrfewyr Siartredig sy'n cael ei redeg gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan fudiadau eraill sy'n cynrychioli syrfewyr neu benseiri.
  • Find a trader In Scotland from the Construction Licensing Executive which provides a licensing scheme for traders in the construction industry www.clescotland.co.uk.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Rhwydwaith Cynllun Masnachwr Sicr yr Awdurdod Lleol yn www.oft.gov.uk/laatsn
  • Cynllun Buy with Confidence Safonau Masnach yn: www.buywithconfidence.gov.uk
  • Chwiliwch am fusnes yn eich ardal chi y gallwch ymddiried ynddo ac sydd â logo Consumer Codes Approval gan y Swyddfa Masnachu Teg yn: oft.go.auk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)