Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dychwelyd nwyddau diffygiol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gydag eitem rydych chi wedi’i phrynu, efallai y bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad, i gael ei thrwsio neu i gael eitem arall.

Does dim gwahaniaeth a ydych chi wedi prynu’r eitem yn newydd neu’n ail law, bydd gennych chi hawliau yr un fath.

Bydd gennych chi hawliau cyfreithiol os yw’r eitem rydych chi wedi’i phrynu:

  • wedi torri neu wedi’i difrodi ('ddim o ansawdd boddhaol')
  • does dim modd ei defnyddio (‘ddim yn addas i’r diben’)
  • ddim yn cyfateb i’r hysbyseb neu ddim yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr

N fydd gennych chi unrhyw hawliau cyfreithiol os:

  • oedd wedi’i ddifrodi oherwydd traul arferol, damwain neu gamddefnydd
  • roeddech chi’n ymwybodol o’r nam cyn i chi brynu’r eitem
  • rydych chi wedi newid eich meddwl

Mae yna adnodd gwahanol i’w ddefnyddio os oes gennych chi broblem gyda char ail law.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)