Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012: sut mae taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu - cynllun Direct Pay

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu cynhaliaeth o dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd yn cyfrifo faint o gynhaliaeth sy'n rhaid ei dalu.

Mae yn ddwy ffordd o drefnu taliad i'r rhiant sy'n cael cynhaliaeth. Gallwch gael yr arian wedi ei dalu'n uniongyrchol i chi gan y rhiant arall trwy gynllun Direct Pay. Neu gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu'r taliadau gan y rhiant arall ac yna'ch talu chi trwy'r gwasanaeth Collect and Pay.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am sut mae cynllun Direct Pay yn gweithio.

Ar hyn o bryd, dim ond ambell un sy'n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012. Fe fydd y rhan fwyaf o'r rheiny sy'n defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant i drefnu cynhaliaeth yn defnyddio Cynllun 2003. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa gynllun sy'n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Beth yw cynllun Direct Pay

Gyda Direct Pay, caiff taliadau Cynhaliaeth Plant eu talu yn uniongyrchol i'r rhiant arall heb ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Mae hyn yn digwydd ar ôl cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth.

Rydych chi'n cytuno rhyngoch chi'ch hun sut fydd y taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu a phryd. Os hoffech chi, gallwch chi gyfnewid taliadau am bethau eraill, fel prynu gwisg ysgol newydd neu dalu am wibdeithiau ysgol.

Ar hyn o bryd, os mai chi yw'r rhiant sy'n cael y taliadau cynhaliaeth, rhaid i chi gytuno cyn sefydlu trefniant Direct Pay. Ond, pan fydd Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 yn cael ei ymestyn at bob ymgeisydd, ni fyddwch yn medru gwrthwynebu'r opsiwn Direct Pay os mai dyna sut mae'r rhiant arall am dalu.

Nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cadw llygad i sicrhau bod y taliadau cynhaliaeth wedi cael eu talu ac felly mae angen i chi fod yn hyderus y bydd taliadau'n cael eu gwneud yn llawn ac ar amser. Os oes rheswm da gennych dros gredu efallai na chewch y taliadau, yna dylech ofyn am ddefnyddio'r gwasanaeth Collect and Pay pan fyddwch chi'n cyflwyno cais.

Direct Pay - sut mae taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu

Fel arfer, caiff taliadau cynhaliaeth eu talu'n fisol. Ond, gallent gael eu talu'n wythnosol mewn rhai achosion. Mae i fyny i chi'ch dau benderfynu pa mor aml ddylid talu taliadau yn y cynllun Direct Pay.

Fel arfer, fe fydd y rhiant sy'n talu cynhaliaeth yn talu trwy archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol. Gallwch hefyd ddewis talu gyda:

  • siec
  • cerdyn debyd
  • archeb post
  • trwy dynnu arian yn wirfoddol o enillion.

Os mai chi yw'r rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth, mae'n well talu'r arian i mewn i'r cyfrif ychydig ddiwrnodau cyn ei fod yn ddyledus. Fel arfer, fe fydd yr arian yn cymryd amser i glirio, ac fe fydd hyn yn eich helpu i osgoi mynd i ddyled.

Os ydych chi am gadw'ch manylion banc yn breifat

Os nad yw un ohonoch am i'r llall wybod eich manylion banc personol, gellir talu taliadau cynhaliaeth trwy opsiwn trosglwyddo arian. Nid oes ffi am y gwasanaeth hwn. Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch trefnu hyn.

Taliadau cynhaliaeth i bobl eraill

Mewn rhai achosion, gallai'r rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth dalu'r taliadau cynhaliaeth i rywun arall, yn lle'n syth i'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant. Er enghraifft, gallent dalu peth ohono, neu'r cyfan ohono, i fenthyciwr morgais y rhiant arall.

Beth os nad yw'n talu

Os nad ydych yn cael taliad cynhaliaeth pan fydd yn ddyledus, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Fe fyddan nhw'n ceisio cysylltu â'r rhiant a ddylai dalu’r taliadau cynhaliaeth.

Rhaid i'r rhiant a ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth ddangos tystiolaeth o fewn 14 niwrnod ei fod wedi talu. Os nad yw'n medru gwneud hyn, mae gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant y pwer i sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud ac fe fydd yn trosglwyddo'r taliadau i'r gwasanaeth Collect and Pay.

Symud yn ôl at Direct Pay

Os ddylech chi dalu cynhaliaeth ac rydych wedi cael eich cyflwyno i'r gwasanaeth Collect and Pay am i chi golli taliad dan gynllun Direct Pay, efallai y byddwch chi am symud yn ôl at Direct Pay. Cewch wneud hy dim ond os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn hapus eich bod yn annhebygol o golli taliadau.

Fel arfer, rhaid i'r rhiant ddylai fod yn cael y taliadau cynhaliaeth gytuno i hyn. Os oedd y berthynas yn un dreisgar, ni fydd angen unrhyw gyswllt personol ar gyfer y cytundeb hwn. Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu'r trosglwyddiad ar eich rhan.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am Gynllun 2003 sy'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)