Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012: sut mae taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu - gwasanaeth Collect and Pay

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid eu talu.

Mae yna ddwy ffordd o drefnu taliad i'r rhiant sy'n cael cynhaliaeth. Gallwch gael y rhiant arall i dalu'r arian i chi'n uniongyrchol. Yr enw ar hyn yw cynllun Direct Pay. Neu gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu'r taliadau gan y rhiant arall ac yna'ch talu chi trwy'r gwasanaeth Collect and Pay.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am y ffordd y mae'r gwasanaeth Collect and Pay yn gweithio.

Ar hyn o bryd, dim ond ambell un sy'n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012. Fe fydd y rhan fwyaf o'r rheiny sy'n defnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant i drefnu cynhaliaeth yn defnyddio Cynllun 2003. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa gynllun sy'n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Beth yw'r gwasanaeth Collect and Pay?

Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosib gofyn i'r rhiant arall dalu taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi. Efallai bod hyn oherwydd:

  • mae'r rhiant arall wedi methu â thalu cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi
  • nid ydych chi am i'r rhiant arall wybod unrhyw rai o'ch manylion personol
  • mae'r rhiant arall wedi gofyn am gael talu fel hyn.

Yn yr achosion hyn, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru casglu taliadau Cynhaliaeth Plant a'u trosglwyddo at y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant. Os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth, ni fedrwch chi ofyn am yr opsiwn yma onid yw'r rhiant arall wedi methu â chadw at drefniant Direct Pay. Ond, mae'r rhiant sy'n talu cynhaliaeth yn medru gofyn am gael talu fel hyn.

Yn y pendraw, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn codi ffi am y gwasanaeth Collect and Pay.

Sut fydd y ffioedd yn berthnasol

Ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Collect and Pay yn rhad ac am ddim. Ond, os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth, yn y pendraw fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi. Nid yw dyddiad cychwyn y ffioedd wedi cael ei osod eto.

Fe fydd y ffi yn 20 y cant ychwanegol o swm y gynhaliaeth y mae'n rhaid i chi ei thalu. Os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth, cewch 7 y cant llai o arian yn eich taliadau.

Codir y ffioedd hyn waeth a yw'r rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth yn gweithio neu'n cael budd-daliadau ai peidio.

Talu ffioedd os ydych chi'n gweitio

Os ydych chi'n gweithio, gallwch ddewis cael yr arian wedi ei dynnu o'ch cyflog, ac fe allwch drefnu hyn trwy eich cyflogwr. Rhaid i chi dalu ffi gweinyddol ychwanegol am hyn.

Talu ffioedd os ydych chi'n cael budd-daliadau

Os ydych chi'n cael budd-daliadau ac yn defnyddio cynllun Collect and Pay, fe fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi ar ben cyfradd unradd y taliadau cynhaliaeth. Y gyfradd unradd ar hyn o bryd yw £5 yr wythnos, felly fe fyddai'n rhaid i chi dalu £1 ychwanegol fel ffi. Fel arfer, cymerir yr arian yn syth o'r budd-daliadau yr ydych chi'n eu cael.

Pryd fyddwch chi'n cael yr arian os defnyddir y gwasanaeth Collect and Pay

Fel arfer, fe fydd y rhiant sy'n gorfod talu cynhaliaeth yn talu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant bob mis. Dylech gael eich taliad cyntaf o fewn chwe wythnos i'r dyddiad y trefnwyd yr amserlen talu yn gyntaf. Wedi hynny, dylech gael eich talu o fewn wythnos i'r dyddiad y caiff ei dalu i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Sut mae cynhaliaeth yn cael ei dalu i chi?

Fel arfer fe fydd taliadau cynhaliaeth plant sy’n defnyddio'r Gwasanaeth Collect and Pay yn cael eu talu i chi trwy'ch cyfrif banc.

Ond, os nad ydych yn medru agor cyfrif banc, neu os nad ydych chi eisiau agor cyfrif banc, fe fyddwch yn medru defnyddio cynllun newydd o'r enw Simple Payment i gael eich taliadau cynhaliaeth.

Symud yn ôl at Direct Pay

Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ac wedi cael eich cyflwyno i'r gwasanaeth Collect and Pay am i chi golli taliad dan gynllun Direct Pay, efallai y byddwch chi am symud yn ôl at Direct Pay. Cewch wneud hyn dim ond os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn hapus eich bod yn annhebygol o golli taliadau.

Os mai chi yw'r rhiant sy'n cael taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn rhaid i chi gytuno i hyn. Os oedd y berthynas yn un dreisgar, ni fydd angen unrhyw gyswllt personol ar gyfer y cytundeb hwn. Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu'r trosglwyddiad ar eich rhan.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am y Cynllun 2003 sy'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)