Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei rhoi os ydyn nhw'n gofyn i chi dalu taliadau cynhaliaet

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Dim ond rhaid sy'n medru defnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Sicrhewch eich bod yn gymwys cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon. Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pa wybodaeth fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei hangen gennych os mai chi yw'r rhiant y gofynnwyd i chi dalu taliadau cynhaliaeth.

Sut fyddan nhw'n cysylltu â chi os gofynnir i chi dalu taliadau cynhaliaeth

Dros y ffôn

Unwaith fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cael cymaint o wybodaeth â phosib gan y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant, fe fydd yn ceisio eich ffonio chi yn gyntaf fel arfer.

Fe fydd yn dweud wrthych fod y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant wedi cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth ac wedi datgan mai chi yw'r rhiant arall. Fe fydd hefyd yn gofyn i chi am eich manylion personol ac ariannol.

Yn ysgrifenedig

Os ydych chi'n cytuno mai chi yw rhiant y plentyn, ac nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cael gafael arnoch dros y ffôn, efallai y bydd yn anfon ffurflen ymholiad atoch i'w llenwi gyda'ch manylion personol ac ariannol. Fel arfer cewch hyd at 14 niwrnod i anfon y ffurflen yn ôl.

Cyfweliad wyneb yn wyneb

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ceisio trefnu cyfweliad wyneb yn wyneb gyda chi yn yr achosion canlynol:

  • nid oeddech yn gwybod mai chi yw rhiant y plentyn, neu
  • nid ydych wedi eich enwi ar y tystysgrif geni.

Os ydych chi'n cytuno mai chi yw rhiant y plentyn

Os ydych chi'n cytuno mai chi yw rhiant y plentyn, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gweithio gyda chi i gasglu gwybodaeth i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu.

Manylion personol y mae'n rhaid i chi eu rhoi

Fe fydd yn rhaid i chi ddweud y canlynol wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • eich enw
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • os ydych chi'n derbyn mai chi yw rhiant y plant sydd wedi'u henwi
  • os yw'r plant yn aros dros nos gyda chi ac, os ydynt, pa mor aml. Mae'r wybodaeth y mae ei hangen ar y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am hyn yn fanwl iawn. Dylech gadw dyddiadur gan nodi'r dyddiadau y mae'r plant yn aros gyda chi fel eich bod yn medru ateb eu cwestiynau
  • os oes unrhyw drefniadau taliadau cynhaliaeth eisoes mewn lle ar gyfer y plant, gan gynnwys unrhyw orchmynion llys
  • os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth am unrhyw blant eraill sydd heb eu henwi ar y ffurflen gais
  • sut fyddai'n well gennych dalu
  • os ydych chi am ddefnyddio gwasanaeth Collect and Pay y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i dalu'r taliadau cynhaliaeth oherwydd nid ydych am dalu taliadau cynhaliaeth yn syth i'r rhiant arall.

Manylion ariannol y mae'n rhaid i chi eu rhoi

Rhaid i chi roi manylion llawn eich sefyllfa ariannol.

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant hefyd yn cael gwybodaeth ariannol amdanoch yn syth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac fel arfer yn defnyddio'r wybodaeth hon i gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth.

Rhaid i chi roi manylion:

  • enw a chyfeiriad eich cyflogwr
  • eich busnes os ydych yn hunangyflogedig
  • tystiolaeth o enillion, gan gynnwys cyflog gros ac unrhyw fonws. Rhaid i chi anfon eich slips cyflog i mewn
  • unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael (ac eithrio Budd-dal Plant)
  • unrhyw daliadau cynhaliaeth yr ydych chi'n eu cael
  • incwm arall, fel grant myfyrwyr neu rent gan letywr
  • cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu.

Os oes partner newydd gennych

Fe fydd rhaid i chi roi'r un wybodaeth bersonol ac ariannol am eich partner newydd os ydyn nhw'n:

  • gymwys i gael Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw blant sy'n byw gyda nhw, neu
  • yn cael Cymhorthdal Incwm, neu
  • yn cael Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm.

Os ydych chi'n rhoi gwybodaeth ffug

Mae'n drosedd i chi wrthod rhoi gwybodaeth i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu roi gwybodaeth ffug. Os ydych chi'n gwneud hyn, gellir eich erlyn.

Os nad chi yw rhiant y plant

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cysylltu â chi am daliadau cynhaliaeth ac nid chi yw rhiant y plant, dylech ddweud wrthynt pam nad yw hyn yn wir. Ceisiwch ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ar gael fel tystiolaeth.

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi gwneud camgymeriad ac nid chi yw'r sawl a enwyd fel y rhiant gan y sawl sydd eisiau'r taliadau cynhaliaeth, gallwch gwyno i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Gallwch hefyd hawlio iawndal am y gofid a'r anghyfleustra y mae hyn wedi ei achosi.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)