Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - beth sy'n digwydd pan fydd yna gais?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012 ac mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cais.

Ar hyn o bryd, prin iawn yw'r ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Caiff y rhan fwyaf eu trafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer Cynllun 2012 cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Os ydych chi'n cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth

Os mai chi yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant ac rydych chi'n cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd yn rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth â phosib i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am y rhiant sy'n gorfod talu'r taliadau cynhaliaeth.

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cysylltu â'r rhiant arall i ddweud bod y cais wedi dod i law. Gofynnir i'r rhiant am eu manylion personol ac ariannol fel bod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sydd angen iddyn nhw eu dalu. Fe fydd hefyd yn gosod y dyddiad y bydd yn rhaid iddyn nhw ddechrau talu taliadau cynhaliaeth.

Yna, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu. Fe fydd yn anfon y cyfrifiad hwn at y ddau ohonoch er mwyn sicrhau bod y ffigurau'n gywir. Fe fydd y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant yn cael gwybodaeth bellach am y ffordd y cyfrifwyd y swm. Mae hyn yn cynnwys incwm y rhiant arall.

Os nad yw'r naill neu'r llall ohonoch yn cytuno gyda'r cyfrifiad, gallwch apelio i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a gofyn iddyn nhw adolygu'r penderfyniad.

Unwaith fyddwch chi wedi cytuno i swm y taliadau cynhaliaeth i'w talu, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn anfon amserlen talu i'r ddau ohonoch ar gyfer y flwyddyn. Fe fydd hyn yn dangos pryd ddylid talu'r taliadau. Fe fydd yn cynnwys swm unrhyw ôl-ddyledion a gronnwyd ers cyflwyno'r cais.

Dod o hyd i'r rhiant sy'n gorfod talu'r taliadau cynhaliaeth

Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael eich cais am daliadau cynhaliaeth, efallai y bydd yn gofyn i chi ddarparu mwy o wybodaeth am fod yn rhaid iddo ddod o hyd i'r rhiant arall neu ei adnabod.

Fel arfer, fe fydd yn eich ffonio chi i gael yr wybodaeth hon, ond fe allai ofyn i chi lenwi ffurflen. Fe fydd yn holi mwy o gwestiynau i chi os yw'r achos yn un cymhleth.

Dyma rai o'r cwestiynau y gallai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eu holi i chi am y rhiant a ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth:

  • eu henw (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeiriad diwethaf sy'n wybyddus
  • manylion eu cyflogwr
  • os ydyn nhw'n hunangyflogedig, manylion eu busnes
  • manylion unrhyw fudd-daliadau y gallent fod yn eu hawlio
  • a oes gorchymyn llys neu drefniant sy'n seiliedig ar y teulu ar gyfer taliadau cynhaliaeth eisoes mewn lle
  • a ydyn nhw'n gwybod mai nhw yw rhiant y plant
  • gwybodaeth arall a fedrai helpu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i ddod o hyd iddynt, er enghraifft, rhif cofrestru eu cerbyd, neu enw a chyfeiriad eu cyfrifydd.

Os nad ydych yn medru darparu'r holl wybodaeth, dylech ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant nad ydych yn gwybod yr atebion. Peidiwch ag anwybyddu'r cais am wybodaeth oherwydd fe fydd yn gohirio eich cais.

Beth mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru ei wneud i ddod o hyd i riant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth

Mae gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yr awdurdod i ddod o hyd i'r rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth, trwy unrhyw fudiad a allai fod â'u manylion. Mae'r rheiny efallai y byddan nhw'n cysylltu â nhw'n cynnwys:

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM)
  • cyflogwr presennol neu flaenorol
  • cyfrifydd
  • asiantaeth cyfeirio credyd
  • awdurdod lleol
  • Gwasanaeth Carchardai
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau (y DVLA)
  • cwmni cyfleustodau
  • swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith.

Rhaid i unrhyw un y gofynnwyd iddynt am fanylion rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth roi gwybodaeth i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os oes ganddynt yr wybodaeth honno. Os nad ydyn nhw'n gwneud hyn, maen nhw'n troseddu a gellid eu herlyn.

Darganfod faint o daliadau cynhaliaeth ddylech chi eu talu

Os mai chi yw'r rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth a gofynnwyd i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant asesu faint o arian ddylech chi ei dalu, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo hyn.

Fe fydd yn anfon y cyfrifiad hwn at y ddau ohonoch er mwyn sicrhau bod y swm yn gywir. Os nad ydych yn cytuno â'r cyfrifiad, gallwch ei herio trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os nad ydych yn herio eu penderfyniad o fewn un mis, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn anfon amserlen talu at y ddau ohonoch ar gyfer y flwyddyn. Fe fydd yn dangos pryd fydd y taliadau'n cael eu talu ac yn cynnwys swm unrhyw ôl-ddyledion a gronnwyd ers cyflwyno'r cais.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i drefnu'r taliadau cynhaliaeth?

Nod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yw cadarnhau cyfrifiadau taliadau cynhaliaeth ac amserlenni talu o fewn pedair wythnos i'r dyddiad yr ydych yn cyflwyno'r cais.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)