Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - cyfrifo taliadau cynhaliaeth
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd dros y plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth i'r rhiant arall.
Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ond, dim ond ychydig o bobl sy'n medru defnyddio'r cynllun hwn ar hyn o bryd. Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud y rhan fwyaf o drefniadau taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2003.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n gorfod cael eu talu dan Gynllun 2012. Cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon, sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.
Pa wybodaeth sy'n cael ei defnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu?
Mae'r taliadau cynhaliaeth sy'n daladwy yn dibynnu ar:
- incwm wythnosol gros y rhiant sy'n gorfod talu'r taliadau cynhaliaeth
- y nifer o blant y mae'r rhiant â gofal bob dydd yn gofalu amdanynt. Gelwir y rhain yn blant cymwys
- a oes gan y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth blant eraill y maen nhw neu eu partner yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill
- a ydych chi'n rhannu gofal y plant
- a oes unrhyw amgylchiadau arbennig a fydd yn effeithio ar swm y taliadau cynhaliaeth i'w talu.
Cyfraddau taliadau cynhaliaeth
Mae yna bum cyfradd ar gyfer taliadau cynhaliaeth. Fe fydd y gyfradd y byddwch chi'n ei thalu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Yr enw ar y cyfraddau hyn yw:
- cyfradd sero
- cyfradd unradd
- cyfradd ostyngol
- cyfradd sylfaenol
- cyfradd ddiofyn.
Cyfradd sero
Mae hyn yn golygu nad ydych yn gorfod talu unrhyw daliadau cynhaliaeth os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau hyn o bobl:
- rydych yn garcharor
- rydych yn blentyn dan 16 (ond gallai hyn fod dan 20 os ydych mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg uwch)
- rydych yn 16 neu'n 17 ac rydych chi neu'ch partner presennol yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a chymorth sy'n seiliedig ar incwm
- rydych chi'n byw mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol
- rydych chi'n cael gofal gartref ac yn cael rhai budd-daliadau penodol
- mae eich holl gostau llety yn cael eu talu gan eich cyngor lleol
- mae eich incwm gros yn llai na £5 yr wythnos.
Os mai chi yw'r rhiant ddylai gael y taliadau cynhaliaeth
Gallwch gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fwy o arian os ydych yn credu bod y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd sero ag incwm arall o £100 yr wythnos neu fwy. Gelwir hyn yn geisio am amrywiad.
Cyfradd unradd
Rydych chi'n talu cyfradd unradd o £5 yr wythnos os nad ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd sero, ac mae eich incwm wythnosol gros yn llai na £100 yr wythnos.
Fe fyddwch chi hefyd yn talu'r gyfradd unradd os ydych chi neu'ch partner presennol yn cael rhai budd-daliadau fel:
- Pensiwn Ymddeol
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Cynhaliwr
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar gyfraniadau.
Fe fyddwch chi ond yn talu £5 yr wythnos, waeth faint o blant mae'r rhiant sydd â gofal bob dydd yn gofalu amdanynt, na faint o blant eraill sydd gennych.
Os oes rhaid i'ch partner presennol dalu taliadau cynhaliaeth hefyd
Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd ac mae eich partner presennol hefyd yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd, fe fydd y ddau ohonoch yn gorfod talu hanner y gyfradd hon yn unig os yw'r naill neu'r llall ohonoch yn cael unrhyw rai o' budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- redyd Pensiwn
- Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
Mae hyn yn golygu y bydd y ddau ohonoch yn gorfod talu £2.50 yr un.
Os mai chi yw'r rhiant ddylai gael y taliadau cynhaliaeth
Gallwch gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fwy o arian os ydych yn credu bod y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd ag incwm arall o £100 yr wythnos neu fwy. Gelwir hyn yn geisio am amrywiad.
Cyfradd ostyngol
Fe fyddwch yn talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd ostyngol yn yr achosion canlynol:
- nid ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd unradd na'r gyfradd sero
- mae eich incwm wythnosol gros yn fwy na £100 ond yn llai na £200.
Incwm gros yw'r swm yr ydych yn ei ennill cyn tynnu unrhyw dreth, yswiriant gwladol neu gyfraniadau pensiwn.
Sut i gyfrifo'r gyfradd ostyngol: Cam un
Rhaid i chi dalu £5 am £100 cyntaf eich incwm wythnosol.
Cam dau
Rhaid i chi hefyd dalu canran o'ch incwm sy'n weddill.
Mae hyn yn dibynnu ar y canlynol:
- y nifer o blant y mae'r rhiant a gofal bob dydd yn gofalu amdanynt. Gelwir y rhain yn blant cymwys, a
- y nifer o blant eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill.
Os ydych yn rhannu gofal y plant cymwys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llai na hyn.
Plant cymwys | 0 plentyn perthnasol arall | 1 plentyn perthnasol arall | 2 blentyn perthnasol arall | 3 neu fwy o blant perthnasol eraill |
---|---|---|---|---|
4 neu fwy | Rydych chi'n talu 33% o'ch incwm dros £100 | Rydych chi'n talu 28.80% o'ch incwm dros £100 | Rydych chi'n talu 27.70% o'ch incwm dros £100 | Rydych chi'n talu 26.90% o'ch incwm dros £100 |
Enghraifft
Rydych chi'n ennill £175 yr wythnos. Mae gennych bedwar plentyn cymwys ac un plentyn perthnasol arall o berthynas arall.
Rhaid i chi dalu £5 yr wythnos am y £100 cyntaf yr ydych yn ei ennill.
Gan fod gennych un plentyn perthnasol arall, rhaid i chi dalu 28.80% o'r £75 arall yr ydych yn ei ennill.
28.80% o £75 = £21.60
£21.60 + £5 = 26.60
Fe fyddwch chi'n talu £26.60 o daliadau cynhaliaeth bob wythnos
Cyfradd sylfaenol
Fe fyddwch chi'n talu cyfradd sylfaenol taliadau cynhaliaeth os yw'r canlynol yn wir:
- nid ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd sero, y gyfradd unradd, y gyfradd ddiofyn neu’r gyfradd ostyngol, ac
- mae gennych incwm wythnosol gros o fwy na £200.
Caiff y gyfradd sylfaenol ei chyfrifo fel canran o'ch incwm wythnosol gros. Fe fydd y swm yr ydych yn ei dalu'n dibynnu ar:
- y nifer o blant cymwys y mae'r rhiant a gofal bob dydd yn gofalu amdanynt, a
- phlant eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill, ac
- a yw'ch enillion wythnosol gros yn £800 neu fwy.
Incwm gros yw'r swm yr ydych yn ei ennill cyn tynnu unrhyw dreth, yswiriant gwladol neu gyfraniadau pensiwn.·
Sut i gyfrifo'r gyfradd sylfaenol: Cam un
Os oes unrhyw blant perthnasol eraill gennych, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm wythnosol gros fesul canran penodol yn gyntaf.
1 plentyn perthnasol arall | 2 blentyn perthnasol arall | 3 neu fwy o blant perthnasol eraill |
---|---|---|
gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 11% | gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 14% | gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 16% |
Cam dau
Fe fydd yn rhaid i chi dalu canran benodol o'r incwm sy'n weddill wedi i chi ystyried unrhyw blant perthnasol eraill. Mae hyn yn 19 y cant ar gyfer tri neu fwy o blant cymwys, ar £800 cyntaf yr incwm sy'n weddill.
Cam tri
Os yw'ch incwm wythnosol gros yn fwy nag £800, rhaid talu 15 y cant ar weddill eich incwm dros £800.
Os ydych yn rhannu gofal y plant cymwys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llai na hyn.
Enghraifft 1
Rydych chi'n ennill £500 yr wythnos. Mae gennych bedwar o blant cymwys a dau blentyn perthnasol arall yr ydych hefyd yn eu cynnal yn ariannol. Nid ydych yn rhannu gofal y plant.
Yn gyntaf, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm o £500 fesul 14 y cant.
14% o £500 = £70
£500 - £70 = £430
Felly £430 yw swm yr incwm y byddwch yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid i chi eu talu.
Gan eich bod yn ennill llai nag £800 yr wythnos, fe fydd yn rhaid i chi dalu 19 y cant o £430.
19% o £430 = £81.70
Fe fyddwch chi'n talu'r swm canlynol o daliadau cynhaliaeth bob wythnos: £81.70
Enghraifft 2
Rydych chi'n ennill £1,000 yr wythnos. Mae gennych bedwar o blant cymwys a thri phlentyn perthnasol arall yr ydych hefyd yn talu taliadau cynhaliaeth ar eu cyfer. Nid ydych yn rhannu gofal y plant.
Yn gyntaf, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm o £1,000 fesul 16 y cant.
16% o £1,000 = £160
£1,000 - £160 = £840
Felly £840 yw swm yr incwm y byddwch yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid i chi eu talu.
Yna, fe fydd angen i chi gyfrifo faint yw 19 y cant o'r £800 cyntaf yr ydych yn ei ennill.
19% o £800 = £152
Fe fydd hefyd rhaid i chi dalu 15 y cant o unrhyw incwm dros £800. Mae hyn yn £40.
15% o £40 = £6
Fe fyddwch chi'n talu'r swm canlynol o daliadau cynhaliaeth bob wythnos: £152 + £6 = £158
Cyfradd ddiofyn
Os nad oes digon o wybodaeth gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gyfrifo, mae’n medru cyflwyno cyfradd ddiofyn. Y gyfradd ddiofyn yw £64 yr wythnos am dri neu fwy o blant.
Teclyn cyfrifo taliadau cynhaliaeth ar-lein
Mae gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant declyn cyfrifo ar-lein sy'n eich helpu i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth fydd yn rhaid i chi eu talu.
- Teclyn cyfrifo ar-lein: www.cmoptions.org
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Mwy am gyfrifo taliadau cynhaliaeth dan Gynlluniau 1993 a 2003: www.cmoptions.org
- Mwy am sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth: www.gov.uk .