Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ydych chi'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac mae gennych blant sydd ddim yn byw gyda chi, efallai y byddwch yn gyfrifol am dalu taliadau cynhaliaeth i'r sawl sy'n gofalu am y plant o ddydd i ddydd.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am p'un ai fod yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. I ddechrau, mae'r cynllun hwn yn berthnasol i nifer fach o bobl ac fe fydd y rhan fwyaf o drefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth yn cael eu gwneud gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003.

Ai chi yw rhiant biolegol y plant?

Mae'n ddyletswydd arnoch i gefnogi'ch plant yn ariannol os mai chi yw:

  • eu rhiant biolegol, neu
  • riant sydd wedi eu mabwysiadu, neu
  • riant cyfreithiol a ganwyd eich plentyn o ganlyniad i ymhadiad rhoddwr, triniaeth ffrwythlondeb neu fam fenthyg.

Mewn rhai achosion, nid yw tad biolegol plant a anwyd trwy ymhadiad rhoddwr yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth. Mae hyn yn wir os rhoddwyd yr had ar ôl mis Ebrill 2009 ac:

  • roedd wedi ei drefnu trwy glinig trwyddedig, neu
  • mae'r pâr lesbiaidd y rhoddwyd yr had iddynt mewn partneriaeth sifil. Yn y sefyllfa hon, caiff y ddwy eu hystyried yn rhieni cyfreithiol ac nid yw'r rhoddwr yn gyfrifol am gefnogi'r plant yn ariannol.

Ydych chi'n byw yn y Deyrnas Unedig?

Fel arfer, mae Cynllun 2012 ond yn berthnasol os yw pob un ohonoch yn byw yn y Deyrnas Unedig.

Faint yw oed y plant?

Nid oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth ar gyfer eich plant os ydyn nhw dros oed penodol.

Faint o blant sydd gennych?

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn trefnu taliadau cynhaliaeth os oes pedwar o blant neu fwy sy'n gymwys. Rhaid bod gan bedwar o'r plant, o leiaf, yr un ddau riant. Cyfeirir at y plant hyn fel plant cymwys.

Ydych chi'n rhannu gofal y plant?

Os ydych chi'n rhannu gofal eich plant yn hollol gyfartal gyda'r rhiant arall, ni fyddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu unrhyw daliadau cynhaliaeth o gwbl.

Os nad ydych yn cael cyswllt gyda'r plant

Mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i dalu taliadau cynhaliaeth ar gyfer eich plant, hyd yn oed os nad ydych yn cael cyswllt rheolaidd gyda nhw. A hyd yn oed os ydych yn talu taliadau cynhaliaeth, nid yw hyn yn rhoi unrhyw hawliau i chi gael cyswllt gyda'ch plant.

Os hoffech chi gael cyswllt gyda'ch plant, ond nid oes gennych unrhyw gyswllt ar hyn o bryd, dylech geisio trafod gyda'r sawl sy'n gofalu am y plant yn gyntaf.

Os nad ydych yn medru trafod trefniadau cyswllt, efallai y byddwch chi am ystyried dwyn achos llys i gael gorchymyn cyswllt.

Os oes plant eraill gennych

Mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch o hyd i gefnogi'r plant sy'n gymwys i gael taliadau cynhaliaeth yn ariannol, hyd yn oed os oes plant eraill yn byw gyda chi neu rydych yn gyfrifol amdanynt. Cyfeirir at y plant hyn fel plant perthnasol eraill.

Fe fyddwch yn talu llai o daliadau cynhaliaeth os oes gennych blant perthnasol eraill.

Faint o daliadau cynhaliaeth fydd yn rhaid i chi eu talu dan Gynllun 2012?

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth ar sail rheolau sy'n ystyried:

  • eich incwm gros, a
  • nifer y plant cymwys, a
  • nifer y plant perthnasol eraill.

Eich incwm gros yw eich incwm cyn i chi dalu unrhyw dreth, Yswiriant Gwladol neu bethau eraill fel cyfraniadau pensiwn neu fenthyciadau tocyn tymor.

Os ydych chi'n rhannu gofal eich plant yn gyfartal gyda'r rhiant arall, efallai na fyddwch yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu unrhyw daliadau cynhaliaeth o gwbl.

Os mai chi yw'r rhiant ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth, gallwch gyflwyno cais dan Gynllun 2012 er mwyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid i chi eu talu - ni fydd yn rhaid i chi aros hyd nes i'r rhiant sydd â gofal bob dydd gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth.

Os nad oes unrhyw incwm gennych neu os ydych chi ar incwm isel

Disgwylir i chi dalu rhywfaint o daliadau cynhaliaeth hyd yn oed os ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel, a hyd yn oed os ydych eisoes yn talu taliadau cynhaliaeth am blant eraill. Yn gyffredinol, mae'r swm sy'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar eich incwm - nid oes gwahaniaeth pa gostau eraill sydd gennych.

Sut i dalu taliadau cynhaliaeth a drefnwyd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Fel arfer, cewch yr opsiwn o dalu taliadau cynhaliaeth yn syth i'r rhiant sy'n gofalu am y plant. Gelwir hyn yn Direct Pay. Gallech benderfynu defnyddio gwasanaeth Collect and Pay y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sy'n golygu eich bod yn talu taliadau cynhaliaeth i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a bod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trosglwyddo'r taliadau i'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant. Ond, yn y dyfodol, fe fydd tâl am y gwasanaeth hwn.

Beth sy'n digwydd os nad ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth?

Os nad ydych yn talu taliadau cynhaliaeth, mae lles eich plant yn debygol o ddioddef.

Os nad ydych yn talu taliadau cynhaliaeth a drefnwyd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, mae yna gamau y gallant eu cymryd i wneud i chi dalu, er enghraifft:

  • gallent dynnu arian o'ch budd-daliadau, cyflog neu gyfrif banc
  • fe allai'r beilïaid ddod i gymryd nwyddau oddi arnoch fel bod modd eu gwerthu
  • gellid eich gwahardd rhag gyrru.

Os ydych eisoes yn talu taliadau cynhaliaeth a drefnwyd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant

Os ydych eisoes yn talu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 1993 neu 2003 a drefnwyd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant, rhaid i chi barhau i wneud hynny. Ond, fe fydd eich achos yn cael ei gau ar ryw adeg rhwng dechrau 2014 a 2017.

Yna, fe fydd y rhiant sy'n gofalu am eich plant naill ai'n ceisio gwneud trefniant sy'n seiliedig ar y teulu gyda chi neu, os nad yw hyn yn bosib, fe fydd yn gorfod cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fel ymgeisydd newydd.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am daliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)