Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gorfodi taliadau cynhaliaeth plant - gorchmynion tynnu arian o enillion

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gynhaliaeth ariannol eu plant.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 1993, 2003 neu 2012, ac nid ydych yn talu, maen nhw'n medru trefnu tynnu arian yn uniongyrchol o'ch enillion i ad-dalu'r ôl-ddyledion. Gelwir hyn yn orchymyn tynnu arian o enillion.

Gellir defnyddio'r dull hwn o orfodi dim ond os ydych yn gyflogedig. Os nad ydych yn gyflogedig, er enghraifft, os ydych yn hunangyflogedig neu wedi ymddeol, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio dulliau gwahanol o orfodi.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr hyn sy'n digwydd os oes gorchymyn tynnu arian o enillion yn eich erbyn.

Gorchmynion tynnu arian o enillion

Mae gorchymyn tynnu arian o enillion yn gyfarwyddyd i'ch cyflogwr i dynnu taliadau cynhaliaeth o'ch cyflog.

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn anfon hysbysiad ôl-ddyledion atoch yn dweud wrthych efallai y bydd yn gwneud gorchymyn tynnu arian o enillion yn yr achosion canlynol:

  • chi yw'r rhiant ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth, ac
  • rydych yn gyflogedig, ac
  • mae gennych ôl-ddyledion, neu
  • nid ydych wedi cadw at gytundeb i ad-dalu ôl-ddyledion.

Nid oes angen i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyflwyno cais i'r llys am orchymyn tynnu arian o enillion, mae'n medru gwneud un ei hun. Os ydych yn cael gorchymyn tynnu arian o enillion gallwch apelio yn ei erbyn.

Os yw'ch amgylchiadau'n newid

Os oes gorchymyn tynnu arian o enillion yn eich erbyn, rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant o fewn saith niwrnod yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn gadael eich swydd, neu
  • rydych yn newid eich swydd.

Rhaid i chi roi'r holl fanylion canlynol:

  • enw a chyfeiriad eich cyflogwr
  • swm eich enillion a'r enillion yr ydych yn disgwyl eu hennill
  • eich lleoliad gwaith
  • y math o waith yr ydych yn ei wneud
  • unrhyw rif gwaith neu rif cyflog.

Mae'n drosedd i beidio â rhoi'r wybodaeth hon o fewn y terfyn amser o saith niwrnod a gellir eich erlyn a'ch dirwyo.·

Ffioedd

Mae'ch cyflogwr yn medru ychwanegu ffi gweinyddol o hyd at £1 am bob didyniad, i dalu'r costau. Ni fydd y rhiant arall yn gorfod talu'r swm yma.

Os ydych yn cael rhybudd o ôl-ddyledion ynghylch gorchymyn tynnu arian o enillion

Hyd yn oed os ydych wedi cael rhybudd o ôl-ddyledion, gallwch drafod gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o hyd ynghylch eich ad-daliadau. Yn y cyfamser, talwch faint fedrwch chi at yr ôl-ddyledion.

Os nad ydych yn ymateb i'r llythyr rhybudd, neu os nad ydych yn dod i drefniant gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, efallai y cyhoeddir gorchymyn tynnu arian o enillion heb unrhyw rybudd pellach. Cewch gopi o'r gorchymyn. Rhaid i'ch cyflogwr gydymffurfio â'r gorchymyn. Os nad yw'n cydymffurfio, gellir ei erlyn.

Fe fydd y gorchymyn yn cynnwys manylion yr ôl-ddyledion sy'n ddyledus, a thaliadau presennol.

Sut mae gorchymyn tynnu arian o enillion yn cael ei gyfrifo

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliad ôl-ddyledion ar orchymyn tynnu arian o enillion yn ôl fformwla lem. Nid yw'n ystyried unrhyw ddyledion na chostau eraill sydd gennych. Os yw'ch enillion yn codi ac yn gostwng, fe fydd y symiau a dynnir yn amrywio yn unol â hynny.

Rhaid bod gennych o leiaf 60 y cant o'ch incwm net ar ôl. Eich incwm net yw'r arian sydd ar ôl wedi i ch dalu treth, Yswiriant Gwladol, a thaliadau eraill sy'n dod allan o'ch incwm gros, fel cyfraniadau pensiwn.

Am ba mor hir fydd gorchymyn tynnu arian o enillion yn parhau

Gellir gwneud gorchymyn tynnu arian o enillion am gyfnod amhenodol. Mae'n medru parhau hyd yn oed ar ôl ad-dalu eich holl ôl-ddyledion er mwyn talu unrhyw daliadau cynhaliaeth sy'n parhau, er, bydd y gyfradd yr ydych yn ei thalu yn cael ei haddasu.

Canslo gorchymyn tynnu arian o enillion

Os ydych yn anhapus ynghylch gorchymyn tynnu arian o enillion, dylech wneud cynnig ad-dalu rhesymol a sicrhau eich bod yn gwneud taliadau cynhaliaeth rheolaidd. Ond, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn canslo gorchymyn tynnu arian o enillion os yw'n fodlon na ddylai fod wedi cael ei wneud.

Os yw'r swm yr ydych yn ei dalu yn newid, er enghraifft, am fod adolygiad neu apêl wedi bod, dylid addasu swm y gorchymyn tynnu arian o enillion hefyd. Os nad yw hyn yn digwydd, cysylltwch â'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Apelio

Gallwch apelio yn erbyn gorchymyn tynnu arian o enillion gerbron y llys ynadon. Rhaid i chi wneud hynny o fewn 28 niwrnod i'r dyddiad y cafodd ei gyflwyno, er, mae gennych 56 niwrnod os nad ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ond apelio yn erbyn gorchymyn tynnu arian o enillion yn yr achosion canlynol:

  • mae'r gorchymyn yn ddiffygiol. Mae hyn yn golygu nad yw cyflogwr yn medru dilyn y gorchymyn oherwydd nid yw'n cynnwys yr wybodaeth gywir sydd ei hangen, neu
  • nid enillion yw'r taliadau yr ydych yn eu cael, er enghraifft, pensiwn anabledd, neu
  • mae yna reswm da dros beidio â defnyddio gorchymyn tynnu arian o enillion.

Os yw'ch cyflogwr yn mynd yn fethdalwr

Os yw busnes eich cyflogwr yn mynd i'r wal, eich cyfrifoldeb chi yw cael unrhyw symiau a dynnwyd o'ch cyflog yn ôl os nad ydynt wedi cael eu talu i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eto.

Rhaid i chi gyflwyno cais am gyflog sy'n ddyledus i'r datodwr neu'r gweinyddwr sy'n delio gyda'r trefniadau ansolfedd. Fe fyddwch chi angen cyngor arbenigol ynglyn â hyn. Mae cynghorydd profiadol yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru eich helpu i wneud hyn. Hyd yn oed os na fedrwch chi gael yr arian yn ôl yn y ffordd yma, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am wneud taliadau i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)