Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dod o hyd i lety

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ynglyn â'r wybodaeth yma

Mae'r wybodaeth yma ynglyn â dod o hyd i lety. Mae'n delio gyda dod o hyd i lety wedi'i rhentu yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys rhai cynlluniau penodol a gynigir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i'ch helpu chi i brynu eich cartref eich hun.

Os hoffech wybod mwy am brynu eich cartref eich hun yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Prynu cartref.
Os hoffech wybod mwy am brynu eich cartref eich hun yn yr Alban, gweler Prynu cartref.

Yn yr wybodaeth yma, rydyn ni'n cyfeirio at help gan awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety. Yng Ngogledd Iwerddon, daw'r help yma oddi wrth Gyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Housing Executive).

Chwilio am lety

Os ydych chi'n chwilio am lety, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gasglu:-

  • rhestrau o hostelau, gwestai gwely a brecwast a llety argyfwng
  • rhestrau o asiantaethau llety
  • cyfeiriadau cymdeithasau tai lleol a chydweithfeydd tai
  • cyngor ar fynd at yr awdurdod lleol fel person digartref
  • cyfeiriadau llochesi i ferched sydd mewn perthynas dreisgar
  • gwybodaeth ar dai lleol sydd ar gael i bobl sydd ag anghenion arbennig.

Mae yna wybodaeth ar wefan Homeless UK ynghylch gwasanaethau i bobl ddigartref, gan gynnwys hostelau, canolfannau dydd a gwasanaethau cyngor a chymorth eraill. Cliciwch ar www.homelessuk.org.

Os ydych yn chwilio am lety preifat i’w rhentu, efallai y byddwch am holi i weld os yw unrhyw landlordiaid yn eich ardal yn rhan o gynllun achrediad. Mae cynlluniau achrediad yn gynlluniau gwirfoddol y mae landlordiaid yn ymuno â nhw i ddangos eu bod yn darparu llety o ansawdd da. Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau achrediad yn Lloegr, rhowch glic ar www.anuk.org.uk. Yng Nghymru, rhowch glic ar www.welshlandlords.org.uk.

Mae Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban wedi cynhyrchu llyfryn defnyddiol sy’n crynhoi’r prif opsiynau ar gyfer rhentu llety a phrynu llety’n rhannol. Mae ar gael ar eu gwefan ar www.spso.org.uk.

Yng Nghymru, mae gwefan HouseShare Wales ar www.houseshare.wales.co.uk yn helpu pobl i ddod o hyd i ystafelloedd ac yn helpu landlordiaid i ddod o hyd i denantiaid. Mae hefyd yn medru eich helpu i ddod o hyd i rywun i rannu llety gyda chi.

Cofrestrau Tai Hygyrch

Mewn rhannau o Gymru a Lloegr, mae yna Gofrestrau Tai Hygyrch. 

Os ydych chi angen llety sydd wedi ei addasu’n arbennig, er enghraifft am eich bod yn anabl neu’n oedrannus neu am fod plentyn gennych sy’n anabl, fe allwch chi ofyn am gael eich manylion wedi eu cynnwys ar un Gofrestr Tai Hygyrch neu fwy.

Wrth roi’ch manylion ar y Gofrestr Tai Hygyrch, mae hyn yn medru helpu cyfateb pobl at dai addas.

Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal yr ydych am gofrestru ynddi, felly fe allwch gofrestru mewn ardal yr hoffech symud iddi. Rydych hefyd yn medru cofrestru mewn mwy nag un ardal. Fe allwch ofyn am fod ar y Gofrestr Tai Hygyrch os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae mwy o wybodaeth ynglyn â Chofrestrau Tai Hygyrch, a’r ardaloedd y maen nhw’n eu cwmpasu, gan gynnwys yr ardaloedd yn Lloegr, ar wefan Anabledd Cymru yn ar www.disabilitywales.org.

Os ydych chi'n chwilio am lety, efallai y gallwch gael y math yma o help gan ganolfan cyngor ar dai yr awdurdod lleol. Mae cyfeiriad eich canolfan agosaf yn y llyfr ffôn lleol neu fe allwch ofyn i Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Help ar gyfer pobl ddigartref

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i roi help i rhai pobl sy'n ddigartref neu sydd o dan fygythiad o ddod yn ddigartref. Fe fyddwch yn gallu cael help os ydych yn 'gymwys i gael help', yn gyfreithiol ddigartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartref ac nid ydych yn fwriadol ddigartref. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rhaid eich bod hefyd mewn angen sy’n flaenoriaeth. Dilëwyd y prawf hwn yn yr Alban ar 31 Rhagfyr 2012. Fe all yr awdurdod lleol hefyd ymchwilio i weld a oes gennych gysylltiad â'r ardal leol.

Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol gyfrifoldeb hefyd dros rhai pobl digartref. Mae ganddyn nhw ddyletswydd i roi llety i blant a phobl ifainc dros 16 sy'n gadael gofal, neu sydd mewn angen am rheswm arall.

Ni ddylai awdurdodau lleol wahaniaethu yn eich erbyn. Er enghraifft, os nad ydych yn deall Saesneg, dylai’r awdurdod lleol ddarparu help a gwybodaeth yn eich iaith chi'ch hun. Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler Gwahaniaethu wrth osod eiddo.

Ydych chi'n 'gymwys i gael help'

Mae yna rai pobl sy'n cyrraedd y wlad, neu sy'n dod yn ôl ar ôl cyfnod o fyw dramor, sydd ddim yn gymwys i dderbyn help gyda thai o gan ddeddfau digartrefedd. Er enghraifft, mae llawer o geiswyr lloches (ond nid pob un) wedi eu heithrio, ac hefyd rhywun sydd wedi treulio cyfnod sylweddol yn byw tu allan i'r Deyrnas Unedig, hyd yn oed os ydynt yn ddinasyddion y DU.

Yng Nghymru a Lloegr, fe allwch chi gael hyd i wybodaeth ar gymhwysedd ar gyfer llety’r awdurdod lleol, i bobl sydd wedi dod o dramor, a’u teuluoedd, ar wefan o’r enw Housing Rights yn www.housing-rights.info. Yn yr Alban, mae’r wybodaeth ar gael yn www.housing-rights.info. Yng Ngogledd Iwerddon, mae gwybodaeth ar www.housingadviceni.org.uk.

Mae'r rheolau ynglyn â phwy sy'n gymwys i gael help yn gymhleth. Os ydych chi newydd gyrraedd neu os ydych chi'n dod yn ôl i'r DU, dylech gael cyngor arbenigol gan, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Digartref neu dan fygythiad o ddod yn ddigartrefedd

Fe fyddwch yn cael eich hystyried yn ddigartref yn gyfreithiol os nad oes gennych lety sydd ar gael ac sy'n rhesymol i chi a'ch teulu fyw ynddo. Mae hyn yn cynnwys llety mewn gwlad arall. Fe fyddwch hefyd yn ddigartref os oes llety gennych ond nad ydych yn gallu mynd i mewn iddo. Er enghraifft, os oes gennych rhywle i aros gyda ffrindiau neu theulu ond maen nhw wedi gofyn i chi adael, neu os ydych chi mewn perygl o drais yn eich cartref. Fe fyddwch yn cael eich hystyried fel person sydd mewn perygl o ddod yn ddigartrefedd, os ydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod (yn yr Alban, deufis).

Angen sy'n flaenoriaeth

Fe fyddwch yn cael eich cyfrif fel person sydd ag angen sy'n flaenoriaeth os ydych yn ddigartref ac:-

  • yn feichiog
  • mae gennych blant dibynnol sy'n iau nag 16, neu'n iau na 19 os ydynt mewn addysg llawn-amser
  • rydych yn ddigartref oherwydd argyfwng fel llifogydd neu dân
  • rydych yn 16 neu'n 17 oed

Fe allech chi hefyd fod mewn angen sy'n flaenoriaeth os ydych yn un o'r grwpiau canlynol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi ddangos bod eich sefyllfa wedi eich gwneud chi'n fregus:-

  • rydych chi'n oedrannus, neu mae gennych anabledd neu salwch meddwl neu gorfforol
  • rydych chi'n hyn na 18 ond mewn perygl o gael eich ecsbloetio neu wedi bod mewn gofal
  • rydych chi mewn perygl o drais yn y cartref, trais hiliol neu fygythiadau eraill o drais
  • rydych chi'n ddigartref ar ôl gadael yr ysbyty, carchar neu'r lluoedd arfog.

Am fwy o wybodaeth ynghylch tai os ydych yn y lluoedd arfog neu’n gyn-filwr, gweler Gwybodaeth ar dai i’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mae'r grwpiau o bobl sydd ag angen sy'n flaenoriaeth yn amrywio ac yn dibynnu a ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu yn yr Alban cyn dileu’r prawf, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi yn un o'r grwpiau angen sy'n flaenoriaeth fe allwch holi cynghorydd arbenigol i wneud yn siwr, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Digartref yn fwriadol

Efallai y cewch eich hystyried fel person sy'n 'ddigartref yn fwriadol' os ydych wedi gwneud rhywbeth yn fwriadol sydd wedi gwneud i chi golli eich cartref. Ond, mae'r diffiniad ar gyfer person sy'n ddigartref yn fwriadol yn gymhleth ac yn aml fe fydd yn bosib herio penderfyniad eich awdurdod lleol yn llwyddiannus. Er enghraifft, os ydych wedi dod yn ddigartref oherwydd dyled rhent neu forgais ni ddylech gael eich hystyried yn ddigartref yn fwriadol yn awtomatig. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol edrych ar bob achos unigol. Petaech yn colli eich cartref oherwydd problemau ariannol gwirioneddol, nid eich bai chi fyddai eich sefyllfa.

Cysylltiad lleol

Fe allai'r awdurdod lleol wrthod derbyn cyfrifoldeb drosoch os ydyw'n credu nad oes cysylltiad gyda chi â'r ardal lle yr ydych yn chwilio am help gyda thai. Fel arfer, byddai disgwyl i chi fyw, gweithio neu gael cysylltiadau teuluol er mwyn cael cysylltiad lleol. Yn y sefyllfa yma, efallai y cewch eich cyfeirio at ardal lle mae gennych gysylltiad.

Pa gamau sy'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cymryd

Os oes angen amser ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau (ac os ydyw'n ymddangos eich bod yn ddigartref ac, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ag angen sy'n flaenoriaeth), mae'n rhaid iddo sicrhau bod gennych rhywle i fyw tra ei fod yn ymchwilio i'ch sefyllfa.

Os oes hawl gennych i gael eich galw'n ddigartref, fe fydd yn rhaid i'r awdurdod lleol eich helpu. Nid oes rhaid iddo ddarparu llety o'i eiddo ei hun. Fe all eich helpu chi mewn sawl ffordd, er enghraifft, trwy eich cyfeirio chi at gymdeithas dai, neu drefnu llety gyda landlord preifat.

Os ydyw'r awdurdod lleol yn penderfynu nad ydych yn ddigartref, nid oes unrhyw ddyletswydd arno i drefnu llety hir dymor ar eich cyfer. Ond, fe fydd ganddo rai dyletswyddau i'ch helpu chi ac mae'n rhaid iddo roi mynediad i chi at gyngor a help i ddod o hyd i lety, neu gynnig lle dros dro i chi i aros tra eich bod yn dod o hyd i gartref parhaol.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r awdurdod lleol roi rhesymau dros ei benderfyniad os ydyw'n penderfynu nad ydych yn ddigartref, a rhaid iddo ddweud wrthych am eich hawl i gael penderfyniad wedi ei adolygu, neu apelio yn ei erbyn.

Llety awdurdod lleol

Cael lle ar y gofrestr tai neu’r rhestr aros

Nid yw awdurdodau lleol yn gorfod cadw cofrestr tai, ond, yn ymarferol, fe fydd y mwyafrif yn cadw cofrestr neu restr aros o bobl sydd wedi cyflwyno cais i rentu llety. Fel arfer, rhaid i chi lenwi ffurflen gais er mwyn ceisio am lety gan yr awdurdod lleol.

Pan fyddwch chi’n cyflwyno cais, fe fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu os ydych yn gymwys.  Mae yna lawer o bobl o dramor, er enghraifft y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl sydd wedi treulio cyfnod sylweddol o amser yn byw i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig – hyd yn oed os ydynt yn ddinasyddion o’r Deyrnas Unedig – na fydd yn gymwys i gael llety.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae gwybodaeth ar gymhwysedd am lety awdurdod lleol, i bobl sydd wedi dod o dramor, a’u teuluoedd, ar gael ar wefan o’r enw Housing Rights yn www.housing-rights.info.

Yng Ngogledd Iwerddon, gweler gwefan housingadviceNI yn www.housingadviceni.org.

Mae'r rheolau ynglyn â phwy sydd â hawl i gael llety gan yr awdurdod lleol yn gymhleth, yn enwedig os ydych chi newydd gyrraedd, neu ddod yn ôl i'r DU o dramor. Os ydych chi yn y sefyllfa yma, dylech ofyn am gyngor, er enghraifft, gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yn Lloegr, efallai y bydd gan awdurdodau lleol feini prawf cymhwysedd eraill hefyd y mae’n rhaid i chi eu bodloni cyn i chi fedru cael lle ar y rhestr aros. Er enghraifft, efallai y bydd rhai’n dweud bod yn rhaid eich bod wedi byw yn yr ardal am nifer penodol o flynyddoedd. Mae pob awdurdod lleol yn medru penderfynu pa feini prawf i’w defnyddio, ac felly mae’r meini prawf yn debygol o amrywio o un awdurdod lleol i’r nesaf. Os yw awdurdod lleol yn defnyddio meini prawf yn ymwneud â chysylltiad lleol â’i ardal, yna, yn gyffredinol, ni ellir defnyddio’r rhain ar gyfer aelodau o’r lluoedd arfog.

Mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad ydych yn gymwys i gael lle ar ei restr aros.

Penderfynu pwy ddylai gael cynnig llety

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth yn esbonio sut maen nhw'n gwneud penderfyniadau ynghylch cynnig llety a'r system y maen nhw'n ei defnyddio i roi blaenoriaeth i ymgeiswyr ar eu rhestrau aros. Mae'r ffordd o benderfynu ar flaenoriaethau yn medru amrywio o un awdurdod lleol i'r nesaf, ond dyma'r ffactorau sy'n cael eu hystyried yn aml:-

  • iechyd gwael sy'n mynd yn waeth oherwydd amodau tai
  • dim cyfleuster penodol, er enghraifft, ystafell ymolchi neu dy bach, neu rydych yn rhannu'r cyfleuster
  • dim digon o ystafelloedd gwely i gyfateb â maint eich teulu
  • y cyfnod yr ydych wedi byw yn yr ardal
  • oed (lle mae mynediad at lety gwarchod neu lety â chymorth yn cael ei ystyried)
  • cyfnod o amser ar y rhestr aros
  • bod i ffwrdd oddi wrth eich teulu (gan gynnwys teulu sydd dramor) oherwydd diffyg llety
  • digartrefedd – gweler y pennawd help ar gyfer pobl ddigartref.

Yn Lloegr, mewn rhai amgylchiadau, rhaid rhoi blaenoriaeth am lety i aelodau presennol o’r lluoedd arfog, a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Ni chaiff awdurdod lleol eich trin yn annheg wrth i chi geisio am lety. Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler y pennawd Gwahaniaethu wrth osod eiddo.

Mae cwblhau cais i fynd ar rhestr aros yr awdurdod lleol yn medru bod yn anodd. Efallai y byddwch eisiau help gan gynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os cewch eich derbyn ar restr aros yr awdurdod lleol, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am amser hir cyn y cewch gynnig llety. Dylai eich awdurdod lleol fod yn gallu rhoi brasamcan i chi o'r cyfnod y bydd yn rhaid i chi aros. Dylech wneud yn siwr eich bod yn dweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar eich cais, er enghraifft, newidiadau yn niferoedd a/neu oed eich plant. Efallai y bydd yn rhaid i chi adnewyddu eich cais yn rheolaidd hefyd.

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi angen llety sydd wedi ei addasu’n arbennig, er enghraifft am eich bod yn anabl neu’n oedrannus neu am fod plentyn gennych sy’n anabl, fe allwch chi ofyn am gael eich manylion wedi eu cynnwys ar un Gofrestr Tai Hygyrch neu fwy. Rydych yn medru gwneud hyn yn ogystal â rhoi’ch enw ar restr aros yr awdurdod lleol.

Gosod ar sail dewis

Fe fydd rhai awdurdodau lleol yn hysbysebu cartrefi gwag yn eu hardal fel bod pobl ar eu rhestr aros yn medru 'bidio' am yr eiddo sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gelwir hyn yn 'Osod ar sail dewis'. Os yw'ch awdurdod lleol yn defnyddio'r math yma o system i osod llety, dylai roi gwybodaeth i chi ynghylch sut, pryd a ble y byddwch yn medru bidio am lety.

Pan gewch chi gynnig llety, fe allai fod yn lety sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, neu gymdeithas dai. Mewn ardal lle mae llety'r awdurdod lleol wedi cael ei drosglwyddo at gymdeithas dai, efallai mai dyma'r unig opsiwn fydd ar gael.

Fel arfer, fe fyddwch chi ond yn gallu gwrthod y cynnig os nad ydyw'n addas ar gyfer eich anghenion, er enghraifft, os ydych yn anabl ac nid oes lifft yn y llety. Y peth gorau bob tro yw cael cyngor cyn gwrthod cynnig. Fel arfer mae yna derfyn ar y nifer o gynigion y bydd yr awdurdod lleol yn eu rhoi i chi.

Cymdeithasau tai

Mae cymdeithas tai yn fudiadau 'nid am elw' sy'n darparu tai i'w rhentu. Mae yna sawl cymdeithas dai sy'n darparu amrywiaeth o lety. Mae rhai'n darparu tai ar gyfer math penodol o bobl, er enghraifft, rhieni sengl neu bobl anabl. Mae eraill yn cynnig tai cyffredinol yn yr un ffordd â'r awdurdod lleol.

Dim ond rhai cymdeithasau tai sy'n derbyn ceisiadau uniongyrchol. Mae'r rhan fwyaf yn gofyn i chi gael eich henwebu gan yr awdurdod lleol, sy'n golygu y bydd angen i chi wneud cais i fynd ar rhestr aros yr awdurdod lleol ac yna gofyn am gael eich enwebu – gweler y pennawd Llety awdurdod lleol. Lle nad yw'r gymdeithas dai yn gofyn am hyn, efallai y bydd angen i chi gael eich enwebu gan asiantaeth leol, er enghraifft, asiantaeth gyngor neu'r adran gwasanaethau cymdeithasol. Os ydyw'r gymdeithas dai yn derbyn ceisiadau uniongyrchol, fe fydd y meini prawf sydd gan bob un ar gyfer dewis tenantiaid yn amrywio.

Mewn rhai ardaloedd, mae gan y cymdeithasau tai a'r awdurdod lleol restr aros ar y cyd. Mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru gyda'r awdurdod lleol, a'r cymdeithasau tai, ar yr un ffurflen.

Os ydych chi'n chwilio am lety gan gymdeithas tai neu landlord cymdeithasol arall, efallai y byddai'n syniad i chi gael mwy o wybodaeth gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan cyngor ar dai neu Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Homeshare (Lloegr)

Yn Lloegr, mae cynlluniau Homeshare yn paru deiliaid tai sydd angen cwmni a help o amgylch y cartref, gyda phobl sydd angen llety ac sy’n barod i roi help yn gyfnewid am rywle i aros.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch y cynllun ar gael oddi ar wefan SharedLivesPlus ar www.sharedlivesplus.org.uk.

Yr hawl i brynu

Os ydych wedi bod yn denant gyda'r awdurdod lleol am o leiaf dwy flynedd (neu o leiaf pum mlynedd os daethoch yn denant gyda'r awdurdod ar neu ar ôl Ionawr 18 2005) yna fel arfer fe fydd hawl gennych i brynu eich cartref am bris gostyngol.

Mae gan rai tenantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr yr hawl i brynu eu cartref. Yng Nghymru a Lloegr, gelwir hyn yn hawl i gaffael.

Yn yr Alban, os ydych yn denant diogel yn yr Alban gyda’ch cyngor neu landlord cymdeithasol cofrestredig, efallai y bydd hawl gennych i brynu’ch cartref eich hun am bris gostyngol. Gelwir hyn yn hawl i brynu. Fe fydd eich hawl i brynu yn dibynnu ar y dyddiad y dechreuodd eich tenantiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau ei bod yn bosib i awdurdodau lleol yng Nghymru atal yr hawl i brynu neu i gaffael mewn ardaloedd ble mae tai o dan bwysau. Mae hyn yn golygu, os ydych yn denant tai cymdeithasol yng Nghymru, ac eisiau prynu eich cartref ar ryw adeg yn y dyfodol, efallai na fydd hawl gennych i wneud hynny.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan fwyafrif tenantiaid y Gyfarwyddiaeth Tai a chymdeithasau tai yr hawl i brynu eu cartref am bris gostyngol ar ôl bod yn byw ynddo ers pum mlynedd, dan gynllun Hawl i Brynu. O dan rannu ecwiti, fe fyddwch yn medru prynu 25% neu fwy o’ch eiddo a thalu rhent ar y gweddill.

Am fwy o wybodaeth am yr hawl i brynu neu'r hawl i gaffael eich cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Prynu cartref.

Rhannu perchnogaeth

Mae cynlluniau rhannu perchnogaeth wedi eu hanelu at helpu pobl sydd ddim yn gallu fforddio prynu cartref addas mewn unrhyw ffordd arall. Fel arfer, rydych yn rhannu perchnogaeth dros yr eiddo gydag awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Rydych yn talu rhent i'r landlord am ran o'r eiddo a morgais ar y gweddill. Fel arfer fe fyddwch yn gallu prynu mwy o gyfran o'r eiddo yn nes ymlaen.

Fel arfer, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, fe fydd yn rhaid eich bod chi'n prynu am y tro cyntaf, a rhoddir blaenoriaeth i denantiaid awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Mae'n bosib y caiff pobl eraill sydd angen tai eu hystyried ar gyfer y cynllun. Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu cael eich morgais eich hun i gwrdd â chost prynu canran o'r eiddo.

Yn yr Alban, caiff cynlluniau rhannu perchnogaeth eu galw yn 'joint venture schemes'. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Northern Ireland Co-Ownership Housing Association yn cynnig cynllun tebyg o'r enw 'the co-ownership scheme'.

Yng Nghymru a Lloegr, mae rhestr o’r landlordiaid sy’n darparu llety ble mae’r berchnogaeth yn cael ei rhannu, ar gael oddi ar y wefan rhannu perchnogaeth yn www.shared-ownership.org.uk.

Yn yr Alban, mae mwy o wybodaeth am rhannu perchnogaeth ar gael gan Reoleiddiwr Tai yr Alban – gweler y pennawd Cymorth pellach.

Cynlluniau Prynu Cartref yn Lloegr

Mae yna sawl cynllun yn Lloegr, ac maen nhw'n anelu at helpu pobl na fyddai'n gallu fforddio fel arall, i brynu cartref. Gelwir y cynlluniau hyn yn Social HomeBuy, New Build HomeBuy, HOLD (Home Ownership for People with Long Term Disabilities), HomeBuy Direct a Help to Buy: equity loan.

Mae Social HomeBuy yn gynllun i helpu tenantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu rhan o'u cartref. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Social HomeBuy, mae'n rhaid i chi fod wedi bod yn denant gyda'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai am o leiaf dwy flynedd (neu bum mlynedd os daethoch chi'n denant i landlord tai cymdeithasol am y tro cyntaf ar neu ar ôl Ionawr 18 2005). Os cewch eich derbyn ar y cynllun fe fyddwch yn prynu cyfran o 25%, o leiaf, o'ch cartref ac yn talu rhent i'ch landlord am y gweddill. Fe fyddwch yn medru cynyddu eich cyfran i hyd at 100%. Efallai hefyd y byddwch yn medru gostwng eich cyfran neu fynd yn ôl i rentu fel tenant.

Os oes diddordeb gennych mewn Social HomeBuy, dylech gysylltu â'ch landlord i ddarganfod os ydyn nhw'n cymryd rhan yn y cynllun ac a ydych chi'n gymwys. Mae i fyny i bobl awdurdod lleol a chymdeithas tai i benderfynu a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun.

Mae New Build HomeBuy yn gynllun i helpu gweithwyr allweddol, y rheiny sy'n prynu am y tro cyntaf a thenantiaid tai cymdeithasol i brynu cyfran o eiddo sydd wedi ei adeiladu o'r newydd. Ni fyddwch yn medru prynu llai na chyfran o 25%, ac fe fyddwch yn talu rhent ar y gweddill i'r darparwr tai, sy'n gymdeithas tai fel arfer.

Fe fydd angen i chi fedru codi morgais ar gyfer y gyfran yr ydych am ei phrynu, a thalu rhent ar y gyfran sydd ddim yn eiddo ichi. Gosodir y rhent ar lefelau fforddiadwy.

Mae HOLD (Home Ownership for People with Long Term Disabilities) yn gweitho yn yr un ffordd â New Build Homebuy, ond mae’n helpu pobl sydd ag anabledd hir dymor i brynu cartref ar y farchnad agored ble mae’r tai fforddiadwy sy’n cael eu hadeiladu mewn ardal ddim yn addas.

Mae HomeBuy Direct yn gynllun rhannu ecwiti ar gyfer y rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf a’r rheiny sydd ddim yn medru fforddio prynu eiddo heb rhywfaint o help yn yr ardal ble maen nhw’n byw neu’n gweithio.

Fe fyddwch yn cael cynnig benthyciad ecwiti y gellir ei ddefnyddio fel blaendal ac mae’n medru talu am hyd at 30% o bris prynu’r eiddo. Yna, fe fydd yn rhaid i chi dalu’r gweddill gyda morgais. Fe fydd hyn o leiaf 70%. Ni chodir unrhyw ffi am y benthyciad ecwiti am y pum mlynedd cyntaf.

Mae Help to Buy: equity loan yn gynllun rhannu ecwiti arall ar gyfer y rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf a’r rheiny sydd eisoes yn berchen ar eu cartrefi ac eisiau symud.

Mae’r cynllun yn berthnasol i gartrefi sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd ac sydd werth uchafswm o £600,000.

Mae angen blaendal o 5%, o leiaf, i fod yn gymwys ac mae’r llywodraeth yn darparu benthyciad ecwiti o hyd at 20% o werth yr eiddo. Mae hyn yn golygu bod angen i chi sicrhau morgais o hyd at 75%.

Mae’r benthyciad ecwiti yn ddi-log am y pum mlynedd cyntaf. O flwyddyn chwech mae ffi o 1.75 y cant yn daladwy, sy’n codi’n flynyddol yn ôl chwyddiant + 1%. Gellir ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg neu pan fydd yr eiddo’n cael ei werthu.

Mae gwybodaeth bellach am y cynllun ar gael ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Yn Lloegr, mae yna gynllun o’r enw NewBuy hefyd, sy’n medru eich helpu os oes blaendal o 5%, o leiaf, gennych, ond rydych yn ei chael yn anodd cael morgais. Dan y cynllun hwn, fe allech brynu cartref a adeiladwyd o’r newydd gan adeiladwr a benthyciwr morgeisi sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Dan gynllun NewBuy part exchange, mae adeiladwyr hefyd yn medru cynnig prynu’ch cartref presennol cyn gwerthu cartref a adeiladwyd o’r newydd i chi, ochr yn ochr â’ch blaendal o 5%.

Am fwy o wybodaeth ar y cynllun NewBuy rhowch glic ar wefan www.newbuy.org.uk.

Homeswithinreach (Cymru)

Mae Homeswithinreach yn gynllun perchen ar gartref sy’n rhoi help i bobl gymwys sy’n prynu am y tro cyntaf ac sy’n ceisio cael troed ar yr ysgol dai. Y bwriad yw helpu’r rheiny na fyddai’n medru prynu tai sy’n ddigonol ar gyfer eu hanghenion fel arall, ar y farchnad agored.

Mae yna ddau opsiwn ar gyfer y rheiny sydd am berchen ar eu cartref eu hun:

  • Perchnogaeth Cymorth Prynu
  • Perchnogaeth Adeiladu o’r Newydd.

Perchnogaeth Cymorth Prynu

Mae Perchnogaeth Cymorth Prynu ar gael i denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, ac i rai pobl eraill sydd angen tŷ. Mae’r help wedi’i gyfyngu i bobl na fyddai’n medru prynu cartref heb help y cynllun.

Os cewch eich derbyn ar y cynllun, fel arfer fe fydd angen i chi gael morgais am 70% o bris yr eiddo. Fe fydd Homeswithinreach yn benthyg gweddill y 30% i chi (mewn rhai ardaloedd gwledig, mae’r canrannau’n 50% a 50%). Fe fydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo. Fe fydd yn rhaid i chi ad-dalu 30% o werth yr eiddo pan fyddwch yn ei werthu. Os yw’r eiddo wedi cynyddu mewn gwerth, mae hyn yn golygu y byddwch yn ad-dalu mwy nag a fenthycwyd i ddechrau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymorth Prynu, ewch at wefan Homeswithinreach ar: www.homeswithinreach.co.uk.

Perchnogaeth Adeiladu o’r Newydd

Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl gymwys sy’n prynu am y tro cyntaf ar incwm canolig, sydd ddim yn medru fforddio prynu cartref addas heb help. Rhaid eich bod yn medru cwrdd â’r ymrwymiad ariannol tymor hir sy’n gysylltiedig â berchen eich cartref.

Mae modd rhoi ystyriaeth i’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf ar eu pen eu hun, fesul achos, er enghraifft os ydych wedi gwerthu cartref a oedd yn eiddo ar y cyd, o ganlyniad i ysgariad.

Mae’r eiddo ar werth ar sail rhannu ecwiti. Rhaid i chi ddangos eich bod yn medru fforddio prynu tua 50-70% o’r pris prynu trwy forgais, cynilion neu gyfuniad o’r ddau. Fe fydd Homeswithinreach yn benthyg gweddill yr arian i chi ar gyfer pris prynu’r eiddo. Fe fyddwch yn medru prynu cyfranddaliadau pellach gan Homeswithinreach os fyddwch yn dymuno. Nid oes rhaid i chi dalu rhent ar y gyfran sy’n eiddo i Homeswithinreach. Pan fyddwch chi’n gwerthu’r eiddo, fe fydd Homeswithinreach yn cael cyfran o bris gwerthu’r eiddo. Fe fydd hyn yn dibynnu ar y gyfran sydd ganddynt yn yr eiddo.

Am fwy o fanylion ynghylch y cynllun rhowch glic ar wefan Homeswithinreach ar: www.homeswithinreach.co.uk.

Rent First (Cymru)

Nod Rent Firstyw helpu pobl sydd ddim yn medru fforddio talu’r pris llawn i rentu ar y farchnad.Mae hefyd yn medru helpu pobl sydd efallai am brynu yn y dyfodol. Gyda chynlluniau Rent First, byddai’r rhent tua 80% o rent y farchnad. Mae rhai cynlluniau hefyd yn anelu at helpu pobl sy’n rhentu gan landlord tai cymdeithasol ar hyn o bryd ac sydd efallai am ddod yn berchen-breswylydd yn y dyfodol. Fe fydd y rhent mewn cynllun Rent First yn uwch na mewn tenantiaeth tai cymdeithasol cyffredin.

Gyda rhai cynlluniau, os yw pris eiddo’n cynyddu ar ôl i’r denantiaeth ddechrau, pan fydd y tenantiaid yn prynu’r eiddo, fe fyddan nhw’n medru cael hanner y cynnydd yn y gwerth i’w helpu i ariannu blaendal er mwyn ei brynu.

Cynlluniau prynu cartref yn yr Alban

LIFT yn yr Alban

Os ydych chi'n byw yn yr Alban ac ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help i brynu eich cartref eich hun trwy gynllun o'r enw Low-cost Initiative for First Time Buyers (LIFT).

Mae LIFT yn cynnig nifer o gynlluniau rhannu ecwiti a weithredir gan gymdeithasau tai yn yr Alban. Mae'r help wedi'i gyfyngu at bobl na fyddai'n medru prynu cartref heb help gan y cynllun.

Os cewch eich derbyn gan y cynllun, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi gael morgais am 60% i 90% o bris yr eiddo. Fe fydd y gymdeithas dai yn ariannu'r 10% i 40% sy'n weddill. Os ydych chi am werthu'r eiddo, fe fydd y gymdeithas dai yn cael ei chyfran yn ôl. Er enghraifft, os yw'r gymdeithas dai wedi ariannu 20% o bris prynu'r eiddo, fe fydd yn cael 20% o bris gwerthu'r eiddo yn ôl.

Fe allwch gael mwy o wybodaeth am LIFT gan eich cymdeithas dai leol, neu gan Lywodraeth yr Alban yn www.scotland.gov.uk.

Cynllun MI New Home yn yr Alban

Yn yr Alban, mae nifer o gwmnïau adeiladu a benthycwyr yn cymryd rhan mewn cynllun indemniad morgeisi cenedlaethol o’r enw MI New Home. Dan y cynllun hwn, mae benthyciwr yn medru rhoi morgais i chi o hyd at 95% o werth cartref a adeiladwyd o’r newydd, sy’n golygu bod angen llai o flaendal arnoch na’r arfer cyn i chi fedru cael morgais.

Cewch asesiad gan y benthyciwr yn y ffordd arferol, ac mae’n rhaid i chi gwrdd â meini prawf fforddiadwyedd a chredyd y benthyciwr cyn i chi fedru bod yn gymwys.

Rhaid bod eiddo dan y cynllun:

  • â chost o £250,000 neu lai
  • yn eiddo preswyl a adeiladwyd o’r newydd
  • yn berchnogaeth lwyr. Nid yw’r cynllun ar gael ar gyfer rhannu perchnogaeth na rhannu ecwiti
  • yn brif gartref i’r prynwr. Nid yw’r cynllun ar gael i brynu ail gartrefi, ar gyfer buddsoddwyr nac ar gyfer prynu-i-osod
  • wedi ei brynu gan ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig a’r rheiny â’r hawl i aros yn y wlad yn ddigyfyng
  • wedi ei brynu gyda blaendal a gynilwyd heb help gan awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus.

Mae gwybodaeth bellach ar y cynllun ar wefan Homes for Scotland yn www.homesforscotland.com.

Perchnogaeth ar y cyd yng Ngogledd Iwerddon

Cynllun i bobl na fyddai’n gallu fforddio prynu eu tŷ eu hunain yw Perchnogaeth ar y cyd.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Gymdeithas Dai Perchnogi ar y cyd Gogledd Iwerddon (NICHA). Mae’n eich galluogi i godi morgais am y swm ‘rydych yn gallu ei fforddio, ac i dalu’r gweddill ar ffurf rhent i NICHA.

Rhaid i chi brynu o leiaf 50% o’r eiddo i ddechrau. Os allwch fforddio gwneud, gallwch brynu uchafswm o 90% o’r eiddo. Byddwch yn talu rhent yn ôl gwerth yr eiddo a maint eich rhanddaliad. Po fwyaf eich rhanddaliad, yr isaf fydd y rhent sy’n daladwy.

Mae’n bosib cynyddu eich rhaddaliad perchnogaeth ar unrhyw adeg, naill ai drwy brynu 5% ar y tro, neu brynu’r cyfan. Does dim rhaid i chi cynyddu’ch rhanddalaiad perchnogaeth os nad ydych chi eisiau gwneud.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun Perchnogaeth ar y cyd, cysylltwch â Chymdeithas Dai Perchnogi ar y cyd Gogledd Iwerddon Cyf. yn:

Murray House
Murray Street
Belfast
BT1 6DN

Ffôn: 0800 333644(rhadffôn)
gwefan: www.co-ownership.org

Cynllun Foyer i bobl ifainc

Mae 'Foyer yn cynnig llety hostel dros dro i bobl ifainc, sydd rwng 16-25 gan fwyaf, sy'n ddigartref neu angen cartref.

Mae trigolion Foyer hefyd yn cael cynnig arweiniad, cefnogaeth, mynediad at ddysgu a help wrth chwilio am waith.

Ar gyfartaledd, mae'r cyfnod y bydd person ifanc yn ei dreulio mewn foyer rhwng naw a deuddeg mis.

Os ydych chi am aros mewn foyer, cysylltwch â'r un agosach atoch chi a gofynnwch am gyfweliad, neu gofynnwch i asiantaeth arall, fel eich awdurdod tai lleol, gwasanaeth prawf neu gartref gofal, i'ch cyfeirio.

Fe fydd rhai 'Foyers' ond yn derbyn pobl ifainc sydd wedi eu cyfeirio gan eu hawdurdod tai lleol.

I ddod o hyd i fanylion eich foyer agosaf, cysylltwch â:

The Foyer Federation
3rd Floor
5-9 Hatton Wall
London EC1N 8HX
Rhif Ffôn: 020 7430 2212
Gwefan: www.foyer.net.

Asiantaethau llety

Efallai y bydd asiantaeth llety yn gallu eich helpu chi i ddod o hyd i lety sy'n eiddo i landlord preifat. Os ydych chi'n cofrestru gydag asiantaeth fe fyddan nhw'n gofyn i chi pa fath o lety yr ydych yn chwilio amdano a faint o rhent yr ydych chi'n fodlon ei dalu. Fel arfer, fe fydd gofyn i chi roi manylion eich swydd a'ch incwm, ac efallai y byddan nhw'n gofyn i chi hefyd am ddarparu geirda gan eich cyflogwr, banc, a landlord presennol neu gyn-landlord.

Yr hyn y mae'r asiantaeth llety yn gallu codi tâl amdano

Yng Nghymru a Lloegr, pan fyddwch chi'n cofrestru gydag asiantaeth llety, mae ganddi'r hawl i godi tâl pan fydd yn dod o hyd i rywle i chi fyw yn unig. Unwaith y byddwch chi wedi arwyddo cytundeb i dderbyn tenantiaeth eiddo, nid oes cyfyngiad ar y ffi y gall yr asiantaeth ei godi. Fel rhan o'u ffi, mae gan rai asiantaethau hawl i gynnwys ffi gweinyddol am baratoi cytundeb y denantiaeth, gwneud rhestr o'r hyn sydd yn yr eiddo, a chostau eraill sefydlu cytundeb ar gyfer y denantiaeth.

Yn yr Alban, os cynigiwyd tenantiaeth i chi a gofynnir i chi dalu premiwm neu ffi gweinyddu, dylech ddweud wrth y landlord neu’r asiantaeth llety eich bod yn gwybod bod mynnu ar bremiwm neu ffi yn anghyfreithlon.

Dylech hefyd ddweud wrth yr adran sy’n delio gyda chofrestru landlordiaid yn eich awdurdod lleol beth sydd wedi digwydd. Ond, os ydych yn gwneud hyn, efallai y bydd y landlord yn gwrthod rhentu’r eiddo i chi.

Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y bydd asiantaeth llety’n gofyn am ffi gweinyddol cychwynnol am wirio geirda a dod o hyd i’r llety. Efallai y byddwch am gymharu’r taliadau gydag asiantaethau llety eraill cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth. Os nad yw’r ffi wedi ei gynnwys yn y cytundeb tenantiaeth, dylech gael cyngor, oherwydd efallai nad ydyw’n gyfreithiol. Os yw cytundeb tenantiaeth yn nodi bod yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd am yr asiant gosod sy’n gweithredu ar ran y landlord, mae hyn yn debygol o fod yn anghyfreithlon. Tra bod blaendal yn gyfreithiol, os gofynnwyd yn benodol i chi am ‘arian allwedd’ mae hyn hefyd yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Yr hyn na all asiantaeth llety godi tâl amdano

Mae yn erbyn y gyfraith i asiantaeth ofyn am dâl am:-

  • roi eich enw chi ar ei rhestr neu gymryd eich manylion
  • darparu rhestr o eiddo sydd ar gael i'w rhentu
  • blaendal a fydd yn cael ei ddychwelyd os na cheir hyd i lety addas
  • yn yr Alban, unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â dod o hyd i lety, sefydlu tenantiaeth neu adnewyddu tenantiaeth.

Mae asiantaeth yn cynnig llety

Os cewch gynnig llety gan asiantaeth, dylech archwilio'r eiddo cyn ei dderbyn a sicrhau eich bod wedi cael yr holl fanylion am:-

  • amodau cytundeb y denantiaeth
  • faint o rhent y bydd yn rhaid i chi ei dalu, ac a ydyw'n cynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth, tanwydd a dwr
  • faint o rhent fydd yn rhaid i chi ei dalu ymlaen llaw
  • a fydd yn rhaid i chi dalu premiwm a/neu flaendal sicrwydd ac, os felly, faint – gweler y pennawd Blaendaliadau a phremiymau
  • a oes morgais ar yr eiddo. Fe allech golli eich llety os caiff yr eiddo ei ailfeddiannu am nad ydyw'r landlord wedi cadw at daliadau'r morgais
  • enw a chyfeiriad y landlord
  • yn yr Alban, a yw'r landlord yn gofrestredig. Dylai pob landlord preifat yn yr Alban fod wedi eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â mathau o denantiaethau gweler Rhentu gan landlord preifat.

Lle'n bosib, dylech ddefnyddio asiantaeth sydd wedi arwyddo gyda'r NALS (National Approved Letting Scheme). Mae asiantaethau sy'n perthyn i'r cynllun hwn wedi cytuno i ddilyn cyfres o safonau sy'n cynnwys gweithdrefn gwynion.

Mae mudiadau sy'n perthyn i'r cynllun hwn yn cynnwys yr NAEA (National Association of Estate Agents), RICS (Royal Institute of Chartered Surveyors), ac ARLA (Association of Residential Letting Agents). Fe fydd y mudiadau hyn yn mynnu bod asiantaethau sy'n aelodau yn cadw blaendal a delir gan denantiaid mewn 'cyfrif cleient' ar wahân. Am fanylion cyswllt y mudiadau hyn, gweler y pennawd Cymorth pellach.

Asiantaeth llety sy'n gwahaniaethu

Fe all asiantaeth llety wrthod eich cofrestru chi. Fe allai wneud hyn, er enghraifft, oherwydd:-

  • rydych chi'n ddi-waith
  • rydych chi ar fudd-daliadau
  • rydych chi'n chwilio am lety ar gyfer teulu.

Mae'n anghyfreithlon i asiantaeth llety wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, hyd yn oed, er enghraifft, pan fydd landlord wedi nodi nad ydyw eisiau tenant o hil neu ryw penodol, neu denant sydd ag anabledd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu pan fyddwch yn rhentu eiddo, gweler y pennawd Gwahaniaethu pan yn rhentu eiddo.

Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu gan asiantaeth llety am unrhyw reswm, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Blaendaliadau a phremiymau

Efallai y bydd landlord, neu asiantaeth llety sy'n gweithredu ar eich rhan, yn gofyn i chi dalu blaendal neu bremiwm ar gyfer eich llety.

Blaendaliadau dal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae landlord neu asiantaeth llety yn medru gofyn i chi dalu blaendal dal pan fyddwch chi'n cytuno i rhentu eiddo ond nid ydych wedi cymryd y denantiaeth eto. Fwy na thebyg y bydd y blaendal yn cael ei dynnu oddi ar y blaendal sicrwydd y byddwch yn ei dalu pan fyddwch chi'n symud i'r eiddo (gweler Blaendaliadau sicrwydd, isod).

Cyn gwneud unrhyw daliad, dylech fod yn siwr eich bod am gymryd y denantiaeth oherwydd ni ellir dychwelyd blaendal dal heblaw eich bod chi'n methu â symud i mewn am rhesymau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi. Er enghraifft, os ydyw'r landlord yn gofyn am fwy o rhent nag a gytunwyd yn wreiddiol, neu os nad ydyw'r llety yn barod ar y dyddiad y dylai'r denantiaeth ddechrau.

Os yw’ch cytundeb yn dweud nad oes modd cael y blaendal dal yn ôl, efallai y byddwch yn medru herio tegwch yr amod hwn mewn rhai amgylchiadau. Efallai y bydd yn annheg os nad yw’n caniatáu i chi gael y blaendal dal yn ôl yn yr achosion canlynol:

  • nid yw’r landlord ar ei golled am i chi ganslo ac mae’r eiddo’n dal i fod ar y farchnad i’w rhentu, neu
  • mae’r landlord yn canslo’r cytundeb heb reswm neu am reswm sydd ddim yn fai arnoch chi.

Os nad ydych yn gallu cael blaendal dal yn ôl, er bod rheswm da gennych dros beidio â chymryd y denantiaeth, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Blaendaliadau dal yn yr Alban

Yn yr Alban, mae landlord yn medru gofyn i chi am flaendal dal ond rhaid iddo ei ad-dalu ar ddechrau’ch tenantiaeth neu os ydych yn penderfynu peidio â chymryd y denantiaeth, fel arall mae’n dod yn bremiwm anghyfreithlon – gweler isod o dan y pennawd Premiymau.

Blaendaliadau sicrwydd

Mae blaendal sicrwydd yn daliad a roddir i landlord (neu asiantaeth llety sy'n gweithredu ar ei ran) fel sicrwydd yn erbyn, er enghraifft, ôl-daliadau rhent, difrod i eiddo neu mynd â dodrefn.

Os gofynnir i chi dalu blaendal sicrwydd, dylech archwilio cyflwr yr eiddo a'i gynnwys yn ofalus yn gyntaf. Pan fydd y denantiaeth yn dod i ben, fe allech gael eich cyhuddo o fod yn gyfrifol am bethau sydd wedi diflannu neu sydd wedi eu difrodi ac fe allech golli'r blaendal, neu rhan ohono, ac felly mae'n bwysig archwilio'r eiddo cyn talu blaendal.

Pan ddaw tenantiaeth i ben, dylech gael y blaendal yn ôl. Mae'n rhesymol didynnu arian ar gyfer, er enghraifft, difrod i eiddo neu ddodrefn, eitemau sydd ar y rhestr gynnwys sydd wedi mynd ar goll, neu rhent sy'n ddyledus.

Yngh Nghymru a Lloegr, os oes tenantiaeth fyrddaliol sicr gennych ac rydych yn talu blaendal i landlord neu asiantaeth osod preifat ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, rhaid iddynt ei osod mewn cynllun diogelu blaendaliadau rhent tenantiaid. Mae hyn yn golygu y bydd tenantiaid yn gallu cael eu blaendal yn ôl, os oes ganddynt hawl iddo. Byddant hefyd yn gallu datrys unrhyw anghydfod gyda’u landlord ynghlyn â’r blaendal heb fynd i’r llys.   

Am fwy o wybodaeth ynglyn âblaendaliadau tenantiaeth yng Nghymru ac yn Lloegr, gweler Blaendaliadau Tenantiaeth yn y Ffaith-daflenni Tai.

Yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, os oes ‘na ddadl ynglyn â’ch blaendal ar ddiwedd eich tenantiaeth,dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Premiymau

Yng Nghymru a Lloegr, fe all landlord godi premiwm neu 'arian allwedd/goriad' arnoch am ganiatáu tenantiaeth. Nid oes cyfyngiad ar y swm y gall y landlord ofyn amdano. Os ydych yn teimlo bod y swm yn afresymol, yr unig ddewis sydd gennych yw peidio â chymryd y llety.

Gellir eu hadennill a gellir dirwyo’r landlord.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n anghyfreithlon i landlord neu asiantaeth llety ofyn am dâl am rhoi neu adnewyddu tenantiaeth. Yn aml, gelwir y taliadau hyn yn 'bremiymau', 'arian allwedd/goriad' neu'n 'flaendaliadau dal'. Ond, mae modd eu hadennill ac mae'r landlord yn medru cael dirwy. Er hynny, yn ymarferol, mae'n aml yn anodd gorfodi'r hawl, am fod ystyr 'premiwm' yn aneglur. Efallai y byddwch yn gorfod penderfynu talu'r premiwm neu fynd i rywle arall.

Os ydych am herio premiwm y mae eich landlord yn ei godi arnoch, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cynlluniau gwarant blaendal rhent

Mae rhai awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau yn rhoi benthyciadau i dalu blaendal mis o rhent ar fflat preifat. Fel arfer, fydd yr arian yn cael ei fenthyg ymlaen llaw ac yna’n cael ei ad-dalu gan y tenant, o bosib trwy Fudd-dâl Tai. Mae cynlluniau eraill yn gwarantu y bydd unrhyw rhent sy’n weddill yn cael ei dalu i’r landlord pe fydd angen, ond ni fydd unrhyw arian yn newid dwylo.Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau yn gwarantu talu am unrhyw ddifrod i'r llety ar ddiwedd y denantiaeth.

Fe allwch gael gwybodaeth bellach am gynlluniau gwarant blaedal rhent o gwmpas y Du o wefan Crisis Smartmove yn www.crisis.org.uk/nrdf/index.php.

Talu am lety

Os ydych chi angen help i dalu’ch rhent ar unrhyw lety yr ydych yn dod o hyd iddo, efallai y byddwch yn medru ceisio am fudd-dal tai. Efallai y byddwch â hawl i fudd-daliadau eraill hefyd os ydych allan o waith neu ar incwm isel.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-dal tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Mae'n rhaid i landlord ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) ar gyfer llety hunangynhaliol sy'n cael ei osod o'r newydd. Nid yw llety hunangynhaliol yn cynnwys:

  • ystafell yng nghartref rhywun
  • tŷ sy'n cael ei rhannu, gyda mwy nag un cytundeb tenantiaeth
  • neuadd breswyl
  • hostel
  • cartref gofal preswyl.

Diben y TPY yw dangos i ddarpar-denantiaid beth yw perfformiad ynni'r eiddo maen nhw'n ystyried ei rentu. Rhaid i'r landlord ddarparu'r TPY yn rhad ac am ddim, ar y cyfle cyntaf posib. Mae hyn yn medru bod pan fyddan nhw'n cael gwybodaeth ysgrifenedig am yr eiddo am y tro cyntaf, neu pan fyddan nhw'n trefnu gweld y llety, ond dylid ei rhoi cyn i'r tenant arwyddo unrhyw gytundeb i'w rhentu. Yn yr Alban, ers 9 Ionawr 2013 rhaid i hysbyseb i osod eiddo gynnwys gwybodaeth ar y Tystysgrif Perfformiad Ynni.

Rhaid i aseswr achrededig gynhyrchu'r TPY ac mae'n ddilys am ddeng mlynedd. Gellir ei hailddefnyddio gymaint o weithiau ag sydd angen o fewn y cyfnod o ddeng mlynedd ond os cynhyrchir TPY newydd, rhaid ei defnyddio yn lle'r fersiwn hŷn.

Mae TPY yn rhoi manylion effeithlonrwydd ynni'r eiddo. Mae'n dod gydag adroddiad argymhellion sy'n dangos sut mae modd gwella'r effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, nid yw'r landlord yn gorfod gwneud unrhyw rai o'r gwelliannau a argymhellir yn yr adroddiad.

Os oes cynllun Y Fargen Werdd ar eiddo, ac mae yna daliadau’n weddill o hyd, rhaid cynnwys gwybodaeth ar hyn ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni yng Nghymru a Lloegr, ac ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni neu ei hadroddiad argymhellion yn yr Alban. Rhaid i’r tenant newydd gydnabod y Fargen Werdd a’r ad-daliadau yn ysgrifenedig.

Am fwy o wybodaeth ar y Fargen Werdd, gweler y Fargen Werdd.

Os na fydd landlord yn darparu TPY, mae safonau masnach yn medru cyhoeddi rhybudd gyda dirwy o £200 i bob annedd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch TPYau, yng Nghymru a Lloegr, rhowch glic ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Yn yr Alban, ewch at wefan Llywodraeth yr Alban ar www.scotland.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan yr Adran Cyllid a Phersonél yn: www.dfpni.gov.uk.

Gwahaniaethu pan yn gosod eiddo

Os ydych yn rhentu eiddo, mae’n bosib y byddwch yn wynebu gwahaniaethu. Rhaid i bobl sy’n gosod eiddo beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Fwy na thebyg eu bod yn torri’r gyfraith os byddant, ar sail un o’r rhesymau hyn, yn:

  • gwrthod rhentu eiddo i chi neu ei gynnig i chi ar dermau gwaeth nag y byddant yn eu cynnig i rywun arall.
  • eich trin yn wahanol ar restr aros am dai
  • eich trin yn wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd y caniateir i chi ddefnyddio buddiau neu gyfleusterau megis yr olchfa neu’r ardd.
  • eich troi allan neu eich hambygio.

Mae yna rai eithriadau i'r rheolau ynghylch gwahaniaethu mewn tai, er enghraifft os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi rhaid iddynt beidio â gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu hil.

Os ydych yn credu bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch yn rhentu eiddo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, porwch drwy ein tudalennau Gwahaniaethu.

Dyletswydd landlord i wneud yn siwr bod newidiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer pobl anabl

Os rydych yn anabl, gallwch ofyn i’ch landlord (neu ddarpar-landlord) wneud newidiadau penodol i’r eiddo yr ydych yn ei rentu ac i’w polisïau pan fod hyn yn angenrheidiol i’ch galluogi chi i fyw yn yr eiddo.Cyfeirir at y newidiadau hyn fel gwneud newidiadau rhesymol. Efallai bod landlordiaid sy’n gwrthod gwneud newidiadau rhesymol yn gwahaniaethu yn eich erbyn ac efallai eu bod yn ymddwyn mewn ffordd anghyfreithlon.

Gall newidiadau rhesymol gynnwys:

  • darparu cymhorthion a gwasanaethau. Enghraifft o hyn fyddai darparu copi sain o gytundeb y denantiaeth. Enghraifft arall fyddai gosod system drws mynediad arbennig fel bod person byddar yn gwybod os oes rhywun wrth y drws.
  • newid arferion, polisiau neu weithdrefnau. Esiampl o hyn fyddai newid y polisi parcio fel bod tenant sy’n cael hi’n anodd cerdded yn gallu parcio o flaen yr adeilad.
  • newid rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Esiampl o hyn fyddai newid term sy’n dweud na all tenantiaid wneud welliannau, fel y bod person anabl yn gallu gwneud gwelliant a fydd yn helpu ei anabledd. Esiampl arall fyddai newid cymal sy’n gwahardd anifeiliaid anwes, gan ganiatau i berson anabl gadw ci cymorth.

Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol, ac yn cynnwys:

  • math a hyd eich tenantiaeth
  • faint o wahaniaeth fydd y newid yn ei wneud i chi
  • a fyddai’r landlord yn medru fforddio gwneud yr addasiad, yn rhesymol.

Efallai ei fod hefyd yn cyfrif fel gwahaniaethu os yw’ch landlord yn ceisio eich taflu allan neu’n ceisio codi’ch rhent o ganlyniad i gost unrhyw addasiad yr ydych wedi gofyn amdano.

Fel arfer, doed dim rhaid i landlord wneud newidiadau rhesymol ar eich cyfer os fydd e’n byw yn yr un eiddo a chi.

Os rydych yn credu bod rhywun y gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch yn rhentu eiddo am eich bod yn anabl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth pellach

Shelter

Mae gwefan Shelter yn rhoi gwybodaeth ar amrywiaeth o opsiynau tai, gan gynnwys help ar gyfer pobl ddigartref, rhentu preifat a pherchen ar eich cartref. Cyfeiriad y wefan yw www.shelter.org.uk.

Canolfannau cyngor ar dai

Mae canolfannau cyngor ar dai yn gallu rhoi cyngor a gwybodaeth ar bob agwedd ar dai. Caiff rhai eu rhedeg gan awdurdodau lleol tra bod eraill yn cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol.

Mae manylion canolfannau cyngor ar dai annibynnol ar gael gan:-

Lloegr

Shelter
88 Old Street
London
EC1V 9HU
Llinell gymorth: 0808 800 4444
E-bost: info@shelter.org.uk
Gwefan: www.shelter.org.uk

Cymru

Shelter Cymru
25 Heol Walter
Abertawe
SA1 5NN
Rhif Ffôn: 01792 469400
Ffacs: 01792 460050
E-bost: mail@sheltercymru.org.uk
Gwefan: www.sheltercymru.org.uk

Yr Alban

Shelter
4th Floor
Scotia Bank House
6 South Charlotte Street
Edinburgh
EH2 4AW
Ffôn: 0844 515 2000
Gwefan: http://scotland.shelter.org.uk

Mae Shelter hefyd yn gweithredu llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy'n rhoi cyngor ar dai i unrhyw un sydd â phroblem yn ymwneud â thai. Mae'r gwasanaeth ar gael fel minicom a ffôn testun, a gellir darparu gwasanaeth cyfieithu arbennig lle bydd angen. Rhif Ffôn: 0808 800 4444

Gogledd Iwerddon

Housing Rights Service
Middleton Buildings
Fourth Floor
10-12 High Street
Belfast
BT1 2BA
Rhif Ffôn: 028 9024 5640
Ffacs: 028 9031 2200
E-bost: hrs@housingrights.org.uk
Gwefan: www.housing-rights.org.uk

Rheoleiddiwr Tai yr Alban

The Scottish Housing Regulator
Highlander House
58 Waterloo Street
GLASGOW
G2 7DA

Ffôn: 0141 271 3810
Ffacs: 0141 221 5030
E-bost: shr@scottishhousingregulator.gsi.gov.uk
Gwefan: www.scottishhousingregulator.gov.uk

Gwybodaeth ynghylch hawliau tai i bobl sy'n dod o dramor

Mae yna wefan ddefnyddiol ynghylch tai i bobl sy'n dod o dramor,, er enghraifft, ffoaduriaid, pobl sydd â thrwyddedau gwaith, pobl yn y Deyrnas Unedig sydd â chaniatâd penagored i aros a dinasyddion yr AEE. Cyfeiriad y wefan ar gyfer Cymru a Lloegr yw http://www.housing-rights.info/. Mae gwybodaeth ar gyfer yr Alban ar gael ar yr un wefan yn: www.housing-rights.info. Yng Ngogledd Iwerddon mae gwybodaeth ar gael ar www.housingadviceni.org.uk.

Help gyda chynlluniau prynu cartref

Lloegr

The Homes and Communities Agency
Maple House
149 Tottenham Court Road
London
W1T 7BN

Ffôn: 0300 1234 500
E-bost: mail@homesandcommunities.co.uk
Gwefan: www.homesandcommunities.co.uk

Cymru

Cartrefi Cymunedol Cymru
Tŷ Fulmar
Clos Beignon
Ocean Park
Caerdydd
CF24 5HF

Rhif Ffôn: 029 2055 7400
Ffacs: 029 2055 7415
E-bost: enquiries@chcymru.org.uk
Gwefan: www.chcymru.org.uk/index.html

The National Approved Letting Scheme (NALS) a mudiadau cysylltiedig

The National Approved Letting Scheme (NALS)

Tavistock House
5 Rodney Road
Cheltenham
GL50 1HX
Rhif Ffôn: 01242 581712
Ffacs: 01242 232518
E-bost: info@nalscheme.co.uk
Gwefan: www.nalscheme.co.uk

Association of Residential Letting Agents

Arbon House
6 Tournament Court
Edgehill Drive
Warwick
CV34 6LG
Rhif Ffôn: 01926 496800
Ffacs: 01926 417788
Gwefan: www.arla.co.uk
E-bost: info@arla.co.uk

Mae'n rhaid i aelodau'r ARLA ddilyn canllawiau'r ARLA ar arfer asiantaeth gorau. Mae'r ARLA hefyd yn cynnig cynllunio bondio i ddiogelu eich arian os oes asiantaeth sy'n aelodaeth yn mynd allan o fusnes.

National Association of Estate Agents

National Association of Estate Agents
31b Arbon House
21 Jury Street
Warwick
CV34 4EH
Rhif Ffôn: 01926 496800
Ffacs: 01926 400953
Gwefan: www.naea.co.uk
E-bost: info@naea.co.uk

The Royal Institute of Chartered Surveyors

Cymru a Lloegr

RICS HQ
Parliament Square
London
SW1P 3AD
Rhif Ffôn: 0870 333 1600
E-bost: contactrics@rics.org
Gwefan: www.rics.org

Yr Alban

9 Manor Place
Edinburgh
EH3 7DN
Rhif Ffôn: 0131 225 7078
E-bost: contactrics@rics.org

Gogledd Iwerddon


Royal Institution of Chartered Surveyors
9-11 Corporation Square
BELFAST
BT1 3AJ
Rhif Ffôn: 028 9032 2877
Ffacs: 028 9023 3465
E-bost: ricsni@rics.org
Gwefan: www.rics.org

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)