Os yw’ch plentyn yn byw yn y DU yn anghyfreithlon
Os yw’ch plentyn yn byw yn y DU yn anghyfreithlon, dylech wneud cais iddo fyw yn y wlad yn gyfreithlon cyn iddo droi’n 18. Mae’n syniad da oherwydd:
- bydd y broses ymgeisio’n haws os yw dan 18 oed
- gall barhau â’i addysg (ni all astudio ar ôl troi’n 18 oed os yw yma’n anghyfreithlon)
- gall dinasyddion Prydeinig weithio a derbyn budd-daliadau pan fyddant yn 18 oed
- ni all dinasyddion Prydeinig gael eu hallgludo
Pan fydd gan eich plentyn statws mewnfudo cyfreithlon, gallwch wneud cais i fyw yn y DU yn gyfreithlon fel ei riant.
Os yw’ch plentyn dros 18 oed bydd rhaid iddo/i gyfreithloni ei statws fel oedolyn.
Cael cymorth arbenigol
Ymhob achos, byddwch angen cymorth cynghorydd mewnfudo arbenigol i gofrestru plentyn sy’n byw yma’n anghyfreithlon – mae’r cais yn broses gymhleth.
I wybod mwy am eich opsiynau cyn gweld arbenigwr, gallwch ffonio Y Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr. Mae’n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i bobl sy’n byw yn y DU yn anghyfreithlon.
Y Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr
Ffôn: 020 7553 7440
Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, 10am to 1pm
Mae galwadau’n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol
Bydd cynghorydd mewnfudo arbenigol yn dweud wrthych beth yw’r ffordd orau o gyfreithloni statws mewnfudo’ch plentyn – peidiwch â phoeni, bydd y cyfan yn gwbl gyfrinachol.
Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar eich statws mewnfudo chi hefyd os ydych chi yma yn y DU yn anghyfreithlon.
Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU
Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU, mae dwy ffordd o gael statws mewnfudo cyfreithlon iddo – ei gofrestru fel dinesydd Prydeinig, neu wneud cais am ‘ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros’.
Cofrestru’ch plentyn fel dinesydd Prydeinig
Gallwch gofrestru'ch plentyn fel dinesydd Prydeinig ar ôl iddo fyw yma am 10 mlynedd.
Dyma’r opsiwn gorau, oherwydd:
- bydd eich plentyn yn gallu gweithio’n gyfreithlon
- bydd yn gallu parhau â’i addysg ar ôl troi’n 16 oed
- mae dinasyddion Prydeinig yn gallu cael gofal iechyd y GIG ac maen nhw’n n gymwys i gael budd-daliadau
Gwneud cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros
Gallwch wneud cais am statws mewnfudo o’r enw ‘caniatâd yn ôl disgresiwn i aros’ ar gyfer eich plentyn ar ôl 7 mlynedd.
Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail achosion unigol felly does dim sicrwydd bydd y cais yn llwyddo, ac ni fydd yn gallu cael budd-daliadau ar ôl troi’n 18 oed.
Os byddwch chi’n cael caniatâd yn ôl disgresiwn ar gyfer eich plentyn, bydd rhaid i chi:
- ei adnewyddu bob 2.5 mlynedd (sy’n costio £649)
- talu ffi o £500 i’r GIG bob tro rydych chi’n adnewyddu ei ganiatâd
- gwneud cais am ddinasyddiaeth yn y pen draw os hoffech iddo fyw yn y DU yn barhaol
Os cafodd eich plentyn ei eni y tu allan i’r DU
Eich unig opsiwn yw gwneud cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros.
Bydd yn gallu byw a gweithio yn y DU, ond ni fydd yn gallu hawlio budd-daliadau ar ôl troi’n 18 oed.