Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ydych chi’n ddarostyngedig i reolau mewnfudo?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n hanu o'r tu allan i'r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) ac yn dod i'r DU o dramor, efallai eich bod am hawlio budd-daliadau. Mae’r hawl i hawlio budd-daliadau yn dibynnu ar y termau y caniatawyd i chi ddod i mewn i’r DU. Gelwir hyn yn statws mewnfudo.  Os oes gennych hawliau cyfyngedig ac yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, ni allwch hawlio budd-daliadau fel rheol ac efallai y byddwch yn difetha'ch siawns i gael caniatâd i aros yn y DU os ceisiwch chi hawlio budd-daliadau.

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw’ch hawliau os ydych chi’n ddarostyngedig i reolau mewnfudo.

Cael cyngor

Mae'n bosib y byddwch angen cyngor am eich statws mewnfudo. Os oes angen cyngor arnoch, gofynnwch am help gan gynghorydd.

Os ydych chi am fwy o help

Ydych chi’n ddarostyngedig i reolau mewnfudo?

Os ydych chi’n ddarostyngedig i reolau mewnfudo allwch chi ddim hawlio budd-daliadau. Gallai hawlio effeithio ar eich hawl i aros yn y DU. Yr ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo:

  • os oes angen caniatad arnoch i ddod i mewn neu i aros yn y DU ond heb gael hynny hyd yn hyn. Er enghraifft, yr ydych wedi gwneud cais am visa.
  • os oes gennych ganiatad i ddod i mewn neu i aros yn y DU dim ond os nad ydych yn hawlio budd-daliadau neu ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus eraill, megis cael triniaeth GIG
  • os cawsoch chi ganiatad i ddod i mewn neu i aros yn y DU o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf am y rheswm fod person arall wedi arwyddo ymrwymiad cynhaliaeth sy’n cytuno i’ch cefnogi.

Os oes gennych chi 'ganiatâd amhenodol i aros', nid ydych chi'n ddarostyngedig i reolau mewnfudo mwyach.

Beth yw ymrwymiad cynhaliaeth?

Cytundeb ffurfiol a chyfreithiol yw ymrwymiad cynhaliaeth, lle mae ffrind neu aelod o’r teulu wedi addo eich cefnogi chi’n ariannol tra byddwch chi yn y DU. Os yw'r person oedd yn eich cefnogi wedi marw, mae'n bosib y gallwch hawlio budd-daliadau. Dylech ofyn am gyngor ar hyn.

Os ydych chi’n gwpl a dyw un ohonoch ddim yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, efallai y bydd y person hwnnw'n gallu hawlio budd-daliadau. Sut bynnag, yn y mwyafrif o achosion bydd angen i’r person hwnnw hawlio fel person sengl. Fe ddylech chi gael cyngor ymlaen llaw oherwydd gallai hyn beryglu eich statws mewnfudo.

Dinasyddion Prydain a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, fyddwch chi ddim yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo. Ond nid yw hynny yn golygu eich bod chi'n gallu hawlio budd-daliadau seiliedig ar brawf modd o reidrwydd. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi fodloni'r prawf preswylfan arferol os ydych chi newydd ddychwelyd i'r DU ar ôl bod yn byw dramor.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.

UAT (Release)